Neidio i'r prif gynnwy

Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, wedi cyhoeddi £13m wedi ei neilltuo ar gyfer Hyb Llesiant newydd yng Nghaerdydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd yr Hyb Llesiant ym Maelfa yn adeiladu ar y gwasanaethau addysg, cymorth a chyngor sydd eisoes yn cael eu darparu gan yr awdurdod lleol a’r sector gwirfoddol yn y Powerhouse, ac yn cynnwys Canolfan Iechyd Llanedeyrn fel bod modd darparu amrywiaeth o wasanaethau mewn un lleoliad. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gobeithio y bydd y gwaith adeiladu’n dechrau yn yr haf 2020 ac y bydd wedi’i gwblhau erbyn dechrau 2022. 

Mae’r Hyb Llesiant wedi cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Chyngor Caerdydd, Llan Healthcare, y Bwrdd Iechyd a’r gymuned leol. 

Bydd yr Hyb Llesiant yn darparu’r canlynol: 

  • Ystafelloedd cymunedol ac ardal i roi cyngor, lle bydd grwpiau iechyd, awdurdod lleol a thrydydd sector yn gallu darparu cyngor, addysg a gwasanaethau llesiant.
  • Amrywiaeth o glinigau iechyd arbenigol, gan gynnwys nyrsio, cwnsela, podiatreg, clinigau babanod, gwasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau cymorth i blant a phobl iau, cyngor ar roi’r gorau i smygu, gofal cynenedigol, awdioleg a gwasanaethau’r galon.
  • Symud gwasanaethau o Bractis Meddyg Teulu a Chanolfan Iechyd Llanedeyrn.
  • Disodli’r man chwarae amlddefnydd presennol gyda chyfleuster cyfatebol gerllaw.
  • Symud y caffi cymunedol presennol i’r adran ‘cyswllt’ newydd yn yr adeilad.

Dywedodd Mr Gething,

Mae ein cynllun hirdymor ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, Cymru Iachach, yn nodi sut yr ydyn ni am weld gwahanol asiantaethau yn cydweithio â’i gilydd a gofal yn cael ei ddarparu’n nes at y cartref. Bydd y buddsoddiad hwn yn golygu y gall pobl yn Nwyrain Caerdydd fanteisio ar y ffordd newydd hon o gynnig gwasanaethau.

Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Cyhoeddom fod £40 miliwn arall ar gael i’w fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2020/21.

Dywedodd Abigail Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Adran Cynllunio Strategol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Rydyn ni wrth ein boddau ein bod wedi cael gweithio gyda thrigolion lleol i ddatblygu ardal i’r gymuned ffynnu ynddi. Rydyn ni’n gwybod nad yw dinasyddion bob amser yn gweld y ffin rhwng sefydliadau felly mae darparu mynediad at wasanaeth gofal a llesiant mewn un man yn gwneud synnwyr. Yn bwysicach oll, rydyn ni am weld y cyfleuster sydd wedi’i ddatblygu ymhellach yn parhau i fod yn rhan ganolog o gymuned Llanedeyrn.

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, Aelod o’r Cabinet dros Gymunedau a Thai yng Nghyngor Caerdydd:

Mae datblygu ein rhwydwaith o hybiau ar draws y ddinas wedi cael effaith gadarnhaol ar nifer y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau a gynigir yn y cyfleusterau cymunedol llwyddiannus hyn, sy’n ei gwneud yn haws ac yn fwy cyfleus i gwsmeriaid gysylltu â’r Cyngor a’n partneriaid.

Mae’r Powerhouse eisoes yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau, yn ogystal â llety ar gyfer yr heddlu ar y llawr cyntaf, ac rydyn ni’n falch o allu gweithio gyda Bwrdd Iechyd y Brifysgol i wella’r ddarpariaeth o wasanaethau integredig ymhellach ar gyfer pobl Llanedeyrn.