Neidio i'r prif gynnwy

£13m o gyllid yr Undeb Ewropeaidd (UE) i roi Athrofa Ymchwil i Dechnoleg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Prifysgol Caerdydd ar flaen y gad ym maes technolegau’r 21ain ganrif.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd cyllid yr UE yn cael ei ddefnyddio i helpu i adeiladu ystafell lân gyda’r dechnoleg ddiweddaraf yn yr Athrofa Ymchwil i Dechnoleg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, sydd wedi'i lleoli ar brif gampws Prifysgol Caerdydd, a darparu cyfarpar ar ei chyfer a'i rhedeg.

Bydd yr Athrofa yn troi ei hymchwil yn y labordy yn gynnyrch a gwasanaethau drwy weithio gyda phartneriaid masnachol er mwyn cymryd rôl arweiniol mewn datblygu un o dechnolegau galluogi allweddol y byd - Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.

Dywedodd Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid: 

“Bydd buddsoddi mewn cyfleusterau sydd ar flaen y gad fel bod y byd academaidd a diwydiant yn gallu cydweithio a symud gwaith ymchwil yn ei flaen yn y sector hwn yn hwb pwysig i economi Cymru.

“Bydd yr arian hwn gan yr UE yn annog mwy o swyddi o safon, gyda chyflogau da, ymysg y cwmnïau a fydd yn cymryd rhan. Bydd cwmnïau newydd yn deillio o'r gwaith hwn a mwy o fusnesau cwbl newydd yn cael eu dechrau. Yn ogystal â hynny, bydd cwmnïau lled-ddargludyddion cyfansawdd arloesol o bob cwr o'r Deyrnas Unedig ac Ewrop yn cael eu denu yma. Bydd hyn i gyd yn ychwanegu at dwf a llewyrch cynyddol yr ardal.”

Mae’r rhyngrwyd yn seiliedig ar dechnolegau lled-ddargludyddion cyfansawdd a heb y dechnoleg newydd hon ni fyddai’r ffasiynau newydd sy'n dod i'r amlwg, fel Ffonau Clyfar, cyfrifiaduron llechen a chyfathrebu lloeren, erioed wedi bod yn bosibl. Mae'r lled-ddargludyddion cyfansawdd hyn yn cael eu creu drwy gyfuno elfennau i gynhyrchu deunyddiau ag iddynt nodweddion ffisegol a chemegol y mae modd eu defnyddio at amrywiaeth eang o ddibenion technolegol.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd: 

“Mae'r cyllid hwn gan yr UE yn rhan hanfodol o'n cais i greu llewyrch yn y De drwy chwyldro diwydiannol. Drwy fuddsoddi mewn cyfleusterau o safon ac ymchwilwyr talentog, a thrwy feithrin partneriaethau masnachol hirdymor, bydd System Arloesi y Brifysgol yn helpu i sicrhau dyfodol llewyrchus i Gymru.”

Mae'r cyllid sydd wedi'i roi yn adeiladu ar waith sydd wedi bod yn yr arfaeth ers amser rhwng y Brifysgol, IQE, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddatblygu canolfan o arbenigedd mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd yn y De. Mae hyn yn cynnwys y £12m o gyllid a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu i ddatblygu'r cyfleuster yn fwy cyffredinol ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2015.

Dywedodd Dr. Drew Nelson, Prif Swyddog Gweithredol IQE plc: 

"Mae rôl lled-ddargludyddion cyfansawdd fel technoleg alluogi ar gyfer amrywiaeth eang o gymwysiadau'r genhedlaeth nesaf, o gyfathrebu cyflym iawn i gerbydau di-yrrwr, yn cael ei chydnabod yn helaeth ledled y byd. Mae mentrau mawr ar y gweill ymhlith sefydliadau o'r radd flaenaf, sefydliadau academaidd ac asiantaethau'r llywodraeth, yn arbennig yn Asia ac Unol Daleithiau America. 

"Mae sefyllfa Cymru yn unigryw yn Ewrop. Mae ganddi fàs critigol o arbenigedd mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd i fanteisio ar y cyfleoedd masnachol enfawr a fydd yn siŵr o godi. Mae'r cyhoeddiad heddiw o £13m o gyllid gan yr UE drwy law Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o ddylanwad a hygrededd i Gymru fel canolfan fyd-eang ar gyfer y dechnoleg alluogi allweddol hon a fydd yn gyfrwng ar gyfer arloesi dros y blynyddoedd a'r degawdau sydd i ddod."