Neidio i'r prif gynnwy

Bydd llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau yng Nghymru yn manteisio ar dros £2.7 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru i ddatblygu a gwella eu gwasanaethau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Gronfa Drawsnewid newydd yn adeiladu ar lwyddiant y Rhaglen Llyfrgelloedd Dysgu Cymunedol ar gyfer llyfrgelloedd, gan ei hymestyn i amgueddfeydd ac archifau am y tro cyntaf. Bydd y cyllid cyfalaf hwn yn gweld nifer o lyfrgelloedd ac amgueddfeydd yn trawsnewid eu gwasanaethau i wella profiad yr ymwelydd yn sylweddol, cynnig gwasanaethau newydd a'u gwneud yn fwy cynaliadwy a chadarn.


Dywedodd Ken Skates,  Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:


“Mae'n bleser mawr gennyf gyhoeddi bron i  £2.7 miliwn ar gyfer ein hamgueddfeydd, ein harchifau a'n llyfrgelloedd. Mae'r gwasanaethau diwylliannol hyn yn datblygu ffyrdd o sicrhau bod mwy o bobl yn mwynhau diwylliant, gan wella yr hyn sydd ar gael iddynt yn greadigol ac o ran eu haddysgu, a galluogi pobl i gyrraedd eu potensial drwy gyfleoedd newydd. 


"Mae trawsnewid y profiad diwylliannol ac addysgol hwn i gynnig mwy o gyfleoedd i fwynhau diwylliant yn ganolog i'r cyllid hwn. Rwyf am i gynifer â phosib o bobl weld y casgliadau diwylliannol  amrywiol a'r cyfleoedd i ddysgu sydd ar gael mewn amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau ledled Cymru. 


"Mae Llywodraeth Cymru yn ymroddedig i gefnogi'r gwasanaethau a'r cyfleusterau pwysig hyn a byddem yn annog pawb i ymweld â hwy a darganfod, dysgu a mwynhau cyfoeth ein diwylliant."  


Bydd y Gronfa yn moderneiddio pum llyfrgell yn Ninbych, Caergybi, Pontypridd, Trefyclo a Townhill, gan sefydlu canolfannau cymunedol newydd ble y gall gwsmeriaid fanteisio ar amrywiol wasanaethau megis tai neu wasanaethau cymunedol, ochr yn ochr ag ystod amrywiol o gyfleusterau llyfrgelloedd. 

Mae cyllid hefyd ar gael ar gyfer llyfrgell Rhydaman i greu Stordy Creadigol mewn partneriaeth â darparwyr gwasanaethau eraill, gan gynnig lleoliad uwch-dechnolegol i bobl ddysgu amrywiol sgiliau creadigol a diwylliannol. 

Bydd chwe amgueddfa yn derbyn cyllid trawsnewid i sicrhau bod mwy o'r cyhoedd yn gallu defnyddio eu cyfleusterau a'u casgliadau, yn amrywio o arwyddion cyffwrdd ar gyfer Amgueddfa Dinbych-y-Pysgod, i greu cyfleusterau newydd addysgol ar gyfer Oriel Ynys Môn a gosod goleuadau newydd fel rhan o ail-ddatblygiad Amgueddfa Ceredigion i wella profiad  yr ymwelydd.  

Bydd cyllid Llywodraeth Cymru hefyd o gymorth i'r cyfleusterau digidol sydd gan amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd, gan gynnwys  Gwasanaeth y Llyfrgell Ddigidol Genedlaethol, sy'n caniatâu i gwsmeriaid ddefnyddio e-lyfrau, cylchgronnau cyfrifiadurol, e-lyfrau clyweledol, e-gomics, a chyfeirlyfrau, ble bynnag a phryd bynnag y maent eisiau hynny. 

Bydd gwasanaethau archifau ledled Cymru yn elwa o gyllid i fynd i'r afael â'r her o gadw ein treftadaeth ddigidol, a gwella mynediad ar-lein i wybodaeth am adnoddau archifol.