Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi gwerth £33m o gyllid i ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau gofal iechyd newydd arloesol, gyda'r potensial i roi hwb i'r economi a chreu swyddi o ansawdd uchel.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daw £24m o gyllid ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru i gefnogi Accelerate: Sbardun Arloesi a Thechnoleg Iechyd Cymru dros dair blynedd. Bydd Accelerate yn dod ag arbenigedd clinigol, academaidd a busnes ynghyd i ddatblygu a defnyddio cynnyrch a gwasanaethau arloesol newydd o fewn y system iechyd a gofal yng Nghymru. 

Bydd £9m arall o gyllid Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i greu canolfannau arloesi iechyd ar draws Cymru. Prif nod y canolfannau fydd datblygu technoleg iechyd o'r radd flaenaf er mwyn helpu i wella'r ffordd rydym yn atal, trin a rheoli cyflyrau cronig hirdymor, a manteisio ar dechnolegau newydd sy'n dod i'r golwg. 

Cyhoeddwyd y cyllid heddiw (dydd Mercher, 13 Mehefin) gan yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething ac Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.

Mae ACCELERATE yn cael ei arwain gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant. Bydd yn gweithio gyda phartneriaid yn y diwydiant i gyflymu'r gwaith o drosi syniadau yn gynnyrch a gwasanaethau newydd, a sbarduno'r broses o ddosbarthu a mabwysiadu cynnyrch a gwasanaethau technoleg i'r sector iechyd a gofal, gan greu gwerth economaidd parhaus yng Nghymru. 

Bydd modd i sefydliadau wneud cais am arian o'r gronfa gwerth £9m i ddatblygu canolfannau arloesi iechyd, tebyg i'r Ganolfan Arloesi ym maes Gwella Clwyfau a'r Ganolfan Arloesi ar gyfer Clefydau Anadlol. Bydd y canolfannau yn dwyn ynghyd arbenigwyr iechyd a busnes i ddatblygu, profi a gweithredu syniadau newydd i atal a gwella cyflyrau cronig, yn ogystal â thechnolegau newydd sy'n dod i'r golwg. Mae'r cyllid yn cael ei roi ar sail benthyciad i'w ad-dalu, a disgwylir i'r canolfannau ddod i ariannu eu hunain drwy greu elw a denu cyllid o ffynonellau eraill.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: 

"Mae datblygu ffyrdd newydd, arloesol o atal, trin a gwella salwch a chlefydau yn rhan hanfodol o weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Bydd y rhaglen Accelerate a'r canolfannau arloesi newydd yn helpu i ddatblygu syniadau newydd ar gyfer cynnyrch a gwasanaethau i'w defnyddio'n gynt yn ein Gwasanaeth Iechyd ac ar draws y byd."

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 

"Mae'n sector gwyddorau bywyd yn ffynnu a werth tua £2bn i economi Cymru. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i adeiladu ar yr arbenigedd a'r dalent sydd gennym eisoes yn y sector. Yn y tymor hir, rwy'n disgwyl gweld y buddsoddiad hwn yn arwain at gannoedd o swyddi medrus iawn a chefnogi twf economaidd."

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: 

"Mae'n gyffrous iawn cael arwain y rhaglen ACCELERATE er mwyn helpu i fasnacheiddio a datblygu cynnyrch ar draws y gwyddorau bywyd, iechyd a gofal. Mae'r rhaglen flaengar hon yn cynnig cyfle i ddarparu manteision economaidd a manteision i gleifion ar raddfa fwy nag a welwyd erioed yng Nghymru. Gyda'r lansiad swyddogol ar 2 Gorffennaf, mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn edrych ymlaen at gael cydweithio'n agos gyda'n partneriaid i helpu i sicrhau mai Cymru yw'r lle i fod o ran arloesi yn y byd iechyd, gofal a llesiant."