Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi £33m o gyllid ar gyfer cyfleuster newydd ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro i ymdopi ag unrhyw gynnydd posibl mewn achosion o COVID-19 y gaeaf hwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y cyfleuster newydd, a fydd yn darparu 400 o welyau ychwanegol, yn cael ei adeiladu y drws nesaf i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn dilyn datgomisiynu Ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm Principality.

Dywedodd Mr Gething:

“Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i ymdopi ag unrhyw gynnydd posibl mewn derbyniadau i’r ysbyty yn sgil COVID-19 yn ystod gaeaf sy’n debygol o fod yn heriol iawn i’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Gwyddom y gall y gaeaf arwain at fwy o anawsterau i staff y GIG. Gyda’r feirws yn fwy tebygol o ledaenu mewn tywydd oer, mae angen inni sicrhau bod gennym ddigon o welyau i ymdopi â’r cynnydd yn y galw.

Yfory, byddaf yn datgelu camau pellach i’w cymryd yn y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy gyhoeddi Cynllun Diogelu’r Gaeaf, ac yn ddiweddarach y mis hwn byddaf yn amlinellu cyllid ychwanegol ar gyfer Byrddau Iechyd eraill i sicrhau bod gennym ddigon o welyau ar draws gweddill Cymru.”

Dywedodd Len Richards, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro,

"Rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r cyllid hwn ar gyfer cyfleuster cleifion mewnol ymchwydd adeiladau modiwlaidd ar y safle yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae hyn yn newyddion i'w groesawu a bydd yn cefnogi ein gwaith cynllunio ar gyfer mwy o gapasiti o hyd at 400 o gleifion ychwanegol mewn ymateb i'r rhagfynegiadau modelu presennol ac ail don o COVID-19.

"Bydd yr adeilad yn cyd-fynd â rhaglen ddadgomisiynu Ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm y Principality, y byddwn wedi'i gadael erbyn diwedd mis Hydref, a bydd yn galluogi Undeb Rygbi Cymru i ddechrau gwneud eu cynlluniau eu hunain yn y stadiwm. Fel gwasanaeth iechyd byddwn yn ystyried yr holl ddysgu o Ysbyty'r Ddraig y Galon, o ran dyluniad a gofynion clinigol ar gyfer yr ysbyty ymchwydd dros dro ac yn gweithio i'r gofynion modelu cenedlaethol."