Neidio i'r prif gynnwy

Bron i £3.5 miliwn o gyllid cyfalaf i wella rhwydwaith di-wifr ar draws y campws ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Ysbyty Singleton a'r ysbytai cymunedol yng Nglanrhyd, Gorseinion, Maesteg a Thonna yn elwa ar y buddsoddiad sylweddol hwn.

  • Bydd yn helpu clinigwyr i gael mynediad at wybodaeth am y claf yn ddi-wifr wrth erchwyn eu gwely drwy Borth Clinigol Cymru. 

  • Bydd yn sicrhau gwell darpariaeth fel bod cleifion yn gallu cadw mewn cysylltiad â'u hanwyliaid.

  • Bydd yn disodli'r hen system blipio ac yn cynnig system newydd fodern, mwy effeithiol gan wella amseroedd ymateb, diogelwch cleifion ac ansawdd y gofal.

Mae'r cyhoeddiad yn rhan o strategaeth iechyd a gofal cymdeithasol ddigidol Llywodraeth Cymru, Iechyd a Gofal Gwybodus.

Wrth gyhoeddi'r cyllid, dywedodd Vaughan Gething:

"Ry'n ni eisiau i dechnoleg fodern ac effeithiol gael ei defnyddio ym mhob lleoliad gofal yng Nghymru. Bydd hyn yn helpu ein meddygon a'n nyrsys i roi'r gofal o'r ansawdd orau.

"Bydd manteision yr arian hwn rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn amlwg. Yn ogystal â gwella'r gofal y mae cleifion yn ei gael wrth i'r clinigwyr allu gweld yr wybodaeth berthnasol wrth eu gwelyau, bydd hefyd yn eu helpu i gadw mewn cysylltiad â'u hanwyliaid tra'n cael triniaeth.

"Mae gwasanaeth iechyd modern yn haeddu gwasanaeth rhyngrwyd modern. Dydyn ni'n disgwyl dim llai yn yr unfed ganrif ar hugain. Diolch i’r arian hwn ry'n ni'n ei roi heddiw, gall y Bwrdd Iechyd gyflawni hynny."

Dywedodd Hamish Laing, cyfarwyddwr meddygol a phrif swyddog gwybodaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg:

"Dyma newyddion gwych i'n cleifion, ymwelwyr a staff. Bwrdd Iechyd Abertawe yw'r Bwrdd Iechyd cyntaf yng Nghymru i gynnig wi-fi cyhoeddus am ddim yn rhai o'n ysbytai. Pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau, bydd y buddsoddiad hwn yn ein galluogi ni i'w ymestyn i bob ysbyty o fewn ein Bwrdd Iechyd, gan gynnwys ein hysbytai cymunedol. Ar ben gwella profiad ein cleifion a'n staff, mae hefyd yn rhan hanfodol o'n cynllun i sicrhau bod gan y clinigwyr yr wybodaeth y maen nhw ei hangen ar flaen eu bysedd wrth y gwelyau ac yn y clinigau."