Neidio i'r prif gynnwy

Cyllid grant gwerth bron £4 miliwn wedi’i glustnodi ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd ledled Cymru sy'n cynnwys cyllid gwerth bron £1 miliwn i ddiogelu pentref Tal-y-bont a’r A55.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd cyllid grant Lywodraeth Cymru yn cael ei roi i awdurdodau lleol i gefnogi cynlluniau ar raddfa fach i reoli risg a llifogydd ac i drwsio’r seilwaith rheoli risg llifogydd sy’n bodoli eisoes ond a gafodd ei difrodi o ganlyniad i’r llifogydd ym mis Rhagfyr 2015.

Yn sgil y cyllid hwn, bydd Cyngor Gwynedd yn cael £985,000 ar gyfer cynllun lliniaru llifogydd i ddiogelu pentref Tal-y-bont a’r A55 gerllaw. Cafodd yr ardal honno ei heffeithio’n fawr gan stormydd y gaeaf diwethaf.

Bydd y cyllid yn cael ei neilltuo ar gyfer creu system draenio gorlifiant, ynghyd â byndiau pridd, ffosydd a sianeli a fydd yn symud dŵr llifogydd yn uniongyrchol i mewn i Afon Ogwen gerllaw. Bydd y cyllid hefyd yn sicrhau bod y cwrs dŵr sy’n bodoli eisoes yn cael ei wella i sicrhau na fydd yn cael ei flocio gymaint.  

Yn ystod yr ymweliad â Thal-y-bont, bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn mynd i weld y gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo. Disgwylir y bydd y gwaith hwnnw yn cael ei gwblhau yr hydref hwn.  

Wrth iddi siarad cyn yr ymweliad, dywedodd Lesley Griffiths:

“Mae llifogydd yn fater pwysig iawn i Gymru ac yn fater sy’n cael ei gymryd o ddifrif calon gennym. Y llynedd roedd lefel y glaw a ddisgynnodd yn y Gogledd yn fwy nag erioed o’r blaen. Ar ben hynny, mae ein hinsawdd yn newid ac mae’n debygol iawn y gwelwn ddigwyddiadau tebyg, sy’n gysylltiedig â’r tywydd, yn amlach. Mae’n hanfodol bwysig ein bod yn gallu ymdopi â’r newid hwn a dyna pam ein bod wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn rheoli risg llifogydd ledled Cymru.

“Rydw i’n falch ein bod wedi gallu cefnogi cymuned Tal-y-bont wedi iddynt ddioddef yr effeithiau niweidiol a ddaeth yn sgil stormydd y gaeaf. Drwy gymryd camau’n gyflym i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflawni, bydd modd diogelu’r gymuned a’r A55 yn well cyn i’r gaeaf ein cyrraedd eleni.”

Fel rhan o’r cyllid, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn rhoi bron £3 miliwn i awdurdodau lleol ar gyfer cynlluniau cynnal a chadw ar raddfa fach. Mae hyn yn cynnwys trwsio ac uwchraddio ffosydd, waliau cynnal, cyrsiau dŵr a chynlluniau draenio i sicrhau bod ganddynt amddiffynfeydd cryf i’w hamddiffyn rhag llifogydd.  

Bydd:

  • Blaenau Gwent,
  • Caerffili,
  • Conwy,
  • Sir y Fflint,
  • Gwynedd,
  • Sir Fôn,
  • Sir Fynwy,
  • Castell-nedd Port Talbot,
  • Sir Benfro,
  • Powys,
  • Rhondda Cynon Taf,
  • Abertawe
  • Wrecsam

yn cael cyfran o’r cyllid.