Neidio i'r prif gynnwy

Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, wedi croesawu £421m arall ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys mwy o fuddsoddiad mewn adeiladau a thrawsnewid gwasanaethau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r buddsoddiad ychwanegol sydd wedi cael ei gyhoeddi yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020/21 yn golygu bod gwariant ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn codi i fwy nag £8bn y flwyddyn. 

Dywedodd Mr Gething,

Er gwaetha’r pwysau ar ein cyllideb gyffredinol, rydw i wrth fy modd bod y Llywodraeth Cymru bresennol yn parhau i gynyddu gwariant ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. 

Mae gwariant fesul person ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn cynyddu’n gyflymach yma nag yn unrhyw wlad arall yn y Deyrnas Unedig. Rydyn ni’n buddsoddi yn ein gweithlu a’n seilwaith ond rydyn ni hefyd yn rhoi mwy o arian i dechnolegau newydd ac yn trawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu cyflwyno. Mae hyn yn rhan o’n gwaith i sicrhau y gallwn ni ddiwallu’r galw yn y dyfodol.

Yn ogystal â’r buddsoddiad ar gyfer atal salwch a darparu gofal yn agosach at y cartref, bydd hyn hefyd yn ein helpu i wireddu ein gweledigaeth o ran iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer y tymor hir. Mae’r weledigaeth hon wedi’i hamlinellu yn ein cynllun "Cymru Iachach".

Bydd y rhan fwyaf o’r cyllid ychwanegol hwn yn cael ei ddefnyddio i dalu’r costau sydd wedi cynyddu ar gyfer sicrhau bod y Gwasanaeth Iechyd yn parhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel yng Nghymru. Mae’r cyllid hefyd yn cynnwys:

  • £36m arall yn y gyllideb cyfalaf, sy’n golygu buddsoddiad cyffredinol o £374m ar gyfer prosiectau adeiladu. Mae hyn yn cynnwys camau terfynol Ysbyty Athrofaol y Grange, camau nesaf ailwampio Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr a gwaith i leihau allyriadau carbon.
  • £10m arall ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol.
  • £10m arall ar gyfer cryfhau a datblygu clystyrau gofal sylfaenol sy’n darparu mynediad at amrywiaeth mwy eang o wasanaethau iechyd a llesiant gartref, neu’n agosach at y cartref.
  • £20m ychwanegol ar gyfer iechyd meddwl. 
  • £5.5m ar gyfer Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach i gefnogi pobl i gadw pwysau iach a gwneud mwy o ymarfer corff.
  • £4.9m i gefnogi gwaith i ddatblygu Gwasanaeth Diogelu Iechyd Cenedlaethol newydd, gan helpu yn y frwydr yn erbyn Ymwrthedd i Gyffuriau.