Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £4.2 ychwanegol er mwyn roi hwb i addysgu a dysgu Cymraeg a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd  cwrs blwyddyn newydd ar ffurf cynllun sabothol yn cael ei gynnig fel cynllun peilot i athrawon cynradd ddatblygu eu sgiliau Cymraeg. Bydd y cynllun peilot hwn yn ychwanegol at yr amryw gyrsiau sabothol sy’n cael eu cyflwyno ledled Cymru ar hyn o bryd.

Bydd arian ychwanegol hefyd yn cael ei roi i’r consortia addysg rhanbarthol er mwyn ymgymryd â rhaglen o waith a fydd yn cynnwys mapio sgiliau Cymraeg y gweithlu; mentora a chynnig cymorth rhwng ysgolion a’i gilydd; a darparu rhaglen o ddysgu proffesiynol Cymraeg i ymarferwyr.

Dyma’r arian a ddyrannwyd:

£1,200,000 i gefnogi’r gwaith o ddarparu ac ehangu’r cynllun sabothol cenedlaethol

Bydd  cwrs blwyddyn newydd ar ffurf cynllun sabothol yn cael ei gynnig fel cynllun peilot i athrawon cynradd ddatblygu eu sgiliau Cymraeg. Yn rhan o’r cwrs amser llawn, caiff athrawon eu rhyddhau o’r ysgol i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg yn sylweddol er mwyn cyd-fynd â’r disgwyliadau cynyddol a fydd ar ysgolion yn rhan o’r gwaith o gyflwyno’r continwwm Cymraeg.

£600,000 i wella sgiliau Cymraeg dysgwyr drwy gyfleoedd anffurfiol

Bydd rhaglen o gymorth yn cael ei datblygu i helpu ysgolion cyfrwng Saesneg i wella sgiliau Cymraeg dysgwyr er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael mwy o gyfleoedd i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg mewn modd dilys ac adeiladol y tu hwnt i’w gwersi Cymraeg arferol.

£50,000 i ddenu graddedigion cyfrwng Cymraeg

Rydym yn cydnabod bod angen recriwtio mwy o raddedigion i fod yn athrawon yn y sector cyfrwng Cymraeg ac i addysgu Cymraeg fel pwnc. Bydd ymgyrch, ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol, yn cael ei datblygu er mwyn targedu graddedigion i fynd yn athrawon. Bydd yr arian yn cael ei gyfeirio drwy’r ymgyrch Darganfod Addysgu.

£2,055,000 i’r consortia addysgu i gefnogi dysgu proffesiynol ar gyfer y Gymraeg ac ymarferwyr cyfrwng Cymraeg

Bydd pob consortiwm addysg rhanbarthol yn derbyn dyraniad tuag at ddatblygiad proffesiynol sgiliau Cymraeg ac addysgeg addysgu ymarferwyr.

Bydd yn ofynnol i’r consortia ymgymryd â rhaglen o waith a fydd yn cynnwys mapio sgiliau Cymraeg y gweithle; dod o hyd i ymarferwyr i gymryd rhan yn y cynllun sabothol; mentora cymorth rhwng ysgolion a’i gilydd; rhannu arferion effeithiol a darparu rhaglen o ddysgu proffesiynol Cymraeg i ymarferwyr.

£200,000 i’w ddyrannu at ddibenion ymchwil

Mae angen ymgymryd â gwaith ymchwil er mwyn sicrhau sylfaen gref o dystiolaeth ar gyfer y continwwm iaith arfaethedig ac i ddatblygu addysgeg effeithiol i addysgu’r iaith. 

Bydd yr arian yn mynd at gyflwyno rhaglen o waith ymchwil a gwerthusiad er mwyn cefnogi Cymraeg mewn addysg ac i feithrin gallu er mwyn hybu diwylliant ffyniannus o ymchwil ym maes addysg cyfrwng Cymraeg a chaffael iaith.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams:

“Mae datblygu gweithlu o athrawon i addysgu’r Gymraeg ac i gyflwyno addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol i greu mwy o siaradwyr Cymraeg a bydd yn flaenoriaeth dros y pum mlynedd nesaf.

“Mae hyn yn golygu cynllunio er mwyn cefnogi datblygiad athrawon a chynorthwywyr ac ehangu’r cynllun sabothol a chyfleoedd dysgu proffesiynol eraill ar gyfer y gweithlu sydd gennym ar hyn o bryd. Mae datblygiad proffesiynol sydd wedi’i lunio a’i gyflwyno’n dda yn bwysig gan fod iddo fanteision i’r unigolyn a hefyd i’r proffesiwn a’r cyhoedd.

“Mae’r buddsoddiad yma yn alinio gydag ein cynigion am safonau addysg newydd fydd yn rhoi cyfle i athrawon ddatblygu eu sgiliau drwy gydol eu gyrfa i fodloni anghenion y system addysg.”