Neidio i'r prif gynnwy

£4m o hwb i ddatblygu ynni'r môr a'r llanw yn y Gogledd

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i helpu cynllun Morlais Menter Môn, cynllun gwerth £5.6m, i ddatblygu a masnacholi technolegau ynni'r llanw y mae'n gweithio arnyn nhw yn ei Ardal Arddangos yn Ynys Môn. Caiff ei leoli o fewn un o safleoedd dynodedig Ardal Fenter Ynys Môn. 

Cyhoeddodd Ysgrifennydd yr Economi yr arian mewn digwyddiad ar gyfer sector ynni môr a llanw y Deyrnas Unedig yng Nghaerdydd heddiw. 

Dywedodd: 

"Gall ynni'r tonnau a'r llanw wneud cyfraniad mawr at wireddu'n huchelgais am Gymru ag economi rhad-ar-garbon yn ogystal â chreu swyddi a thwf cynaliadwy. 

"Mae natur arfordir Cymru'n golygu ein bod mewn sefyllfa dda i allu manteisio ar y cyfleoedd y mae'r economi las yn eu cynnig. Dyna pam y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu i greu ardaloedd i arddangos ynni'r llanw gan helpu diwydiant i ddatblygu a phrofi technolegau ynni môr a llanw newydd ac arloesol a'u troi'n llwyddiant masnachol. 

"Rydym eisoes wedi buddsoddi arian o'r UE i ystyried ymarferoldeb sefydlu ardal arddangos wrth arfordir Sir Benfro a heddiw, mae'n dda gennyf gyhoeddi £4.2 miliwn o arian Ewropeaidd a £300,000 ar ben hynny o arian gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwaith paratoi a chaniatáu yn ardal arddangos Morlais yn Ynys Môn. 

"Yna ac ar ôl cael caniatâd llawn, ac wrth i ddatblygwyr gynnal profion ar nifer o dechnolegau ynni'r llanw, bydd gan yr ardal y capasiti i gynhyrchu o leiaf 20MW o ynni ar gyfer y grid gyda photensial ar gyfer 193.5MW arall. 

"Dros y 5 i 10 mlynedd nesaf, bydd gennym gyfle byw i ddatblygu a chynyddu'r diwydiant ynni morol yng Nghymru. Mae'r arian hwn yn hwb arall inni wireddu'n huchelgais." 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, 

"Arfordir Cymru sydd â'r ystod llanw ail fwyaf yn y byd, gan gynnig amgylchedd delfrydol i brofi a datblygu technolegau newydd ar gyfer casglu ynni'r llanw. Rydym yn awyddus i wneud y gorau o'u potensial i gynhyrchu ynni adnewyddadwy a chefnogi dyfodol ffyniannus carbon isel i Gymru. Sail llwyddiant Menter Môn o ran rheoli'r Ardal Arddangos yw prosiect ynni cymunedol cynharach o dan Ynni'r Fro. Mae cyhoeddiad heddiw'n hwb aruthrol i'r sector a'r ardal, gan ddangos y gwahaniaeth y gall ynni glân ei wneud i Gymru." 

Dywedodd Gerallt Llewelyn Jones ar ran Menter Môn: 

"Dyma newyddion ardderchog. Mae Menter Môn wedi gweithio'n galed i gyrraedd y garreg filltir hon ar gyfer Ynys Môn a'r Gogledd. Mae'n hanfodol ein bod yn rhoi'n hunain yng nghanol yr ymdrechion byd-eang i ddatblygu ynni adnewyddadwy'r môr, sector sy'n tyfu ac sydd â photensial mawr i greu a chynnal swyddi."