Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths wedi cyhoeddi heddiw y bydd £5 miliwn sydd ar gael drwy'r Rhaglen Datblygu Gwledig yn cael ei ddefnyddio i gael gwared ar y clafr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r clafr yn un o'r clefydau mwyaf heintus i ddefaid yng Nghymru, ac mae wedi ei nodi fel blaenoriaeth gan Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid yng Nghymru.

Mae'r cyllid ar gael i ddarparu prosiect o dan arweiniad y diwydiant i fynd i'r afael â'r clefyd yng Nghymru.  Mae'r cyhoeddiad yn dilyn cynnig gan y diwydiant i ddileu y clafr o Gymru.

Bydd manylion pellach am y prosiect yn cael eu cyhoeddi yn y misoedd a ddaw yn dilyn trafodaethau parhaus gyda chynrychiolwyr y diwydiant.

Wrth gyhoeddi’r cyllid, dywedodd y Gweinidog: “Mae'r clafr yn cael effaith economaidd sylweddol ar gynhyrchwyr defaid, ac mae'n fater lles anifeiliaid o bwys yn achos defaid. Mae'n un o'r clefydau mwyaf heintus i ddefaid yng Nghymru ac mae ei ddileu yn flaenoriaeth i ni ac i'r diwydiant.  

"Dwi'n falch o gyhoeddi y bydd £5 miliwn o gyllid y Rhaglen Datblygu Gwledig yn cael ei ddefnyddio i helpu'r diwydiant fynd i'r afael â'r clefyd.  

Bydd dileu y clefyd yn golygu y bydd posibilrwydd o sicrhau manteision economaidd hirdymor sylweddol i'r sector yn ystod cyfnod heriol iawn wrth inni baratoi i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd."