Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi cymeradwyo cynlluniau pellach i ailddatblygu Ysbyty Coffa Rhyfel Llandrindod.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rhoddodd ei gymeradwyaeth i achos busnes amlinellol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys gan roi’r golau gwyrdd i gyfanswm o £6.6m o gyllid Llywodraeth Cymru i’r ysbyty - mae £2.3m eisoes wedi’i wario ar welliannau i’r to a’r ganolfan eni.

Roedd ymrwymiad i barhau gyda’n buddsoddiad yn yr ysbyty yn rhan o’r cytundeb gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2015-16.

Bydd y cyllid sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn cael ei ddefnyddio er mwyn gwneud y canlynol:

  • Estyn a symud y cyfleusterau presennol i gleifion allanol;
  • Gwella ardaloedd aros i gleifion;
  • Darparu gwell lle ar gyfer yr adrannau achosion dydd, endosgopi a deintyddol;
  • Gwelliannau pellach i’r Ganolfan Eni newydd;
  • Symud a gwella’r adran ddeintyddol;
  • Gwella’r Brif Fynedfa a’r Dderbynfa.

Mae Llywodraeth Cymru’n disgwyl i’r Achos Busnes Llawn ddod i law ym mis Ionawr 2017, gyda’r nod o weld y gwaith yn cael ei gwblhau yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

Ar ymweliad â’r ysbyty i weld y gwaith o ailddatblygu’r ystafelloedd geni newydd ac adeiladu’r to newydd, dywedodd Vaughan Gething:

“Bydd yr arian newydd sy’n cael ei gyhoeddi gen i heddiw yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion yn y Canolbarth, yn ogystal â’r staff meddygol sy’n gweithio yn yr ysbyty. Bydd yn arwain at welliannau angenrheidiol ac, unwaith eto, rydyn ni’n falch iawn o fuddsoddi yn nyfodol y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru.“