Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant, Carl Sargeant fod £6 miliwn o gyllid wedi'i ddyfarnu i sefydliadau trydydd sector yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae £4.5m o gyllid craidd wedi'i ddyrannu i Cefnogi Trydydd Sector Cymru i'w helpu i roi cyngor a hyfforddiant i sefydliadau'r trydydd sector ar draws y wlad ar gyfer gweithgareddau allweddol gan gynnwys codi arian a llywodraethu.

Mae £1.3m arall wedi'i ddyfarnu i gynllun grant Gwirfoddoli Cymru i roi cymorth i sefydliadau sy'n cynnwys gwirfoddolwyr. Yn ogystal â hyn, mae £41,000 wedi'i ddyfarnu i'r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, sef elusen sy'n dosbarthu grantiau i grwpiau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol ar draws Cymru. Bydd dwy swydd yn yr elusen yn cael eu cyllido'n rhannol gan yr arian.

Bydd y cyllid sy'n weddill yn cael ei ddefnyddio i ddigolledu sefydliadau'r Trydydd Sector sy'n aelodau o Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector am yr amser sy'n cael ei dreulio yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a threfnu digwyddiadau rhwydweithio i rannu blaenoriaethau'r Llywodraeth ac ymchwilio i safbwyntiau'r sector i'w rhannu â Gweinidogion.

Wrth gyhoeddi'r cyllid, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: 

"Mae sefydliadau'r trydydd sector yn chwarae rôl hanfodol yng Nghymru, boed hynny drwy ddarparu gwasanaethau, cefnogi pobl sy'n agored i niwed, gwella eu cymunedau neu ddarparu cyfleoedd i bobl fagu hyder a datblygu sgiliau newydd. Rwy' felly'n falch iawn o gael dyfarnu'r cyllid hwn i'w cefnogi i barhau â'r gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud ganddyn nhw ac i ddatblygu arno ar gyfer y dyfodol."