Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddwyd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, £80m i estyn llawer o gytundebau grant gan gynnwys Glastir, Cynhyrchu Cynaliadwy a’r grant Busnes Ffermau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y pecyn ariannol yn helpu i sicrhau canlyniadau amgylcheddol gan gynnwys lleihau llygredd amaethyddol, ac yn helpu ffermwyr i wynebu heriau anferth Brexit.

Bydd £62.9m yn cael ei ddefnyddio i estyn holl gytundebau Glastir Uwch, gan gynnwys elfennau cysylltiedig Glastir Sylfaenol sydd eisoes yn eu lle, pob cytundeb Glastir Tir Comin a phob contract Glastir Organig tan 2021. Bydd yna rownd arall hefyd i ymgeisio am Grantiau Bach Glastir. Bydd yr arian yn helpu i sicrhau canlyniadau amgylcheddol a newid esmwyth i'r Cynllun Nwyddau Cyhoeddus newydd.

Caiff £16m ei neilltuo hefyd ar gyfer y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy fydd yn helpu ffermwyr i baratoi ar gyfer rheoliadau i amddiffyn dŵr rhag llygredd amaethyddol ac i reoli maethynnau'n well.

Hefyd, bydd y Grant Busnes i Ffermydd yn cael ei gadw i helpu ffermwyr i fuddsoddi mewn offer a pheiriannau i wneud eu busnesau'n fwy cynaliadwy a phroffidiol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

"Mae'n dda gen i allu cyhoeddi'r pecyn sylweddol hwn o gefnogaeth i ffermwyr heddiw trwy'r Rhaglen Datblygu Gwledig. Bydd yn helpu'r diwydiant i wynebu'r heriau a ddaw yn sgil Brexit ynghyd â'r problemau parhaus sy'n cael eu hachosi gan lygredd amaethyddol. Nod pwysig arall yr arian yw helpu ffermwyr i newid i'n Rhaglen Rheoli Tir newydd.

Bydd estyn pob cytundeb Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig tan 2021 yn rhoi tawelwch meddwl i reolwyr tir ac yn sicrhau bod canlyniadau amgylcheddol yn cael eu darparu o hyd.

Fis diwethaf, cyhoeddais y byddwn yn cyflwyno rheoliadau i helpu'r diwydiant i fynd i'r afael â'r lefelau annerbyniol o lygredd amaethyddol mewn dŵr trwy'r wlad. Rwyf wedi neilltuo £16m trwy'r Grant Cynhyrchu Cynaliadwy at y diben hwn.

Wrth inni baratoi i adael yr UE mewn cwta dri mis, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i wneud busnesau fferm ledled Cymru yn fwy cynhyrchiol - a bydd cadw'r Grant Busnes i Ffermydd yn hwb i'r nod hwnnw.

Rydyn ni am weld dyfodol llewyrchus i ffermio yng Nghymru ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd ac rydyn ni'n gwneud popeth posib, law yn llaw â'r diwydiant, i sicrhau'r dyfodol hwnnw. Bydd y pecyn ariannol hwn yn cadw manteision y Cynllun Datblygu Gwledig presennol, yn helpu ffermwyr i addasu ac yn helpu'r sector amaethyddol i lwyddo mewn byd ar ôl Brexit."