Neidio i'r prif gynnwy

Bydd pobl ddigartref ag anghenion cymhleth yng Nghonwy a Sir Ddinbych yn cael cynnig cymorth i symud oddi ar y stryd i dai, diolch i fuddsoddiad o £90,000 gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddodd y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans, bod cyllid ar gael ar gyfer cynllun peilot yn yr ardal, sef Tai yn Gyntaf, sy'n cael ei redeg gan awdurdodau lleol Conwy a Sir Ddinbych. 

Mae Tai yn Gyntaf yn brosiect sy’n symud pobl ag anghenion cymhleth i dai sefydlog gan gynnig cefnogaeth un i un iddynt i fynd i'r afael â'u problemau er mwyn iddynt allu aros yn y llety hwnnw. 

Dywedodd Rebecca Evans:

“Mae mynd i'r afael â digartrefedd a chysgu allan yn flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru, ac rydym yn buddsoddi symiau nas gwelwyd mo'u tebyg o'r blaen yn y maes i geisio gwneud hynny. 

“Mae gwasanaethau Tai yn Gyntaf wedi eu hanelu at y bobl hynny sy'n debygol o fod â salwch meddwl difrifol, iechyd corfforol gwael a diffyg cymorth cymdeithasol.

“Mae Tai yn Gyntaf yn ddull gweithredu arloesol sydd wedi gweithio'n dda iawn mewn gwledydd eraill. Mae'r cynllun yn gweithio ar y sail bod pobl yn llwyddo i symud ymlaen i fyw eu bywydau yn well os ydynt yn cael tŷ gyntaf ac yn cael dewis a rheolaeth dros eu bywyd. 

“Mae'n gryn syndod bod 78% o bobl a gafodd gefnogaeth gan y prosiect Tai yn Gyntaf ar Ynys Môn wedi llwyddo i ddod o hyd i lety sefydlog.  

“Mae'r gost o beidio rhoi tŷ i rywun yn costio'n ddrutach i'r pwrs cyhoeddus na rhoi cymorth iddynt ddod o hyd i lety. Rydym yn ceisio rhoi cymorth i'r bobl hynny sydd fwyaf agored i niwed yng Nghymru, ac mae Tai yn Gyntaf yn fuddsoddiad doeth a all arbed arian ac achub bywydau yn y tymor hir. Edrychaf ymlaen at gael gweld y canlyniadau yng Nghonwy a Sir Ddinbych a chael gweld sut y maent yn rhoi cymorth i bobl gael tai.

"Gofynnodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, imi gadeirio grŵp Gweinidogol newydd i gefnogi ein gwaith i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc, ac i oruchwylio'r gwaith o ddatblygu Tai yn Gyntaf yng Nghymru. Fe fyddwn ni'n gwerthuso'n ofalus sut mae Tai yn Gyntaf yn cyfrannu at y gwaith hwn, gan gynnwys prosiect yng Nghonwy a Sir Ddinbych.

Heddiw, rwy'n cwrdd â Dr Sam Tsemberis, a greodd y model Housing First yn Efrog Newydd. Mae'r model bellach yn gweithredu ledled yr Unol Daleithiau, Canada, rhannau o Ewrop a Seland Newydd ac mae wedi llwyddo i roi tai a thrin miloedd o bobl â salwch meddyliol ac sy'n gaeth i rywbeth. Rwy'n awyddus i gael clywed ganddo am sut y gall Tai yn Gyntaf weithio yma yng Nghymru.”