Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Mae mesurau diogelu cyfreithiol newydd i ddiogelu staff y GIG rhag ymddygiad sy'n peri niwsans neu aflonyddwch mewn ysbytai wedi dod i rym yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r newidiadau yn creu trosedd benodol o beri niwsans neu aflonyddwch ar safleoedd y GIG ac yn rhoi'r pŵer i'r heddlu a swyddogion awdurdodedig y GIG symud pobl o'r safle.

Mae ymddygiad sy'n peri niwsans neu aflonyddwch yn cynnwys camdriniaeth eiriol, rhwystro coridorau yn gorfforol, atal staff rhag cyflawni eu dyletswyddau a chreu gormod o sŵn mewn ardaloedd aros, ar wardiau ac mewn ardaloedd eraill. Nid yw'r pwerau yn gymwys i gleifion sy'n ceisio cyngor meddygol, triniaeth neu ofal drostynt eu hunain.

Gallai'r pwerau effeithio ar bobl sy'n peri niwsans neu aflonyddwch, pobl sy'n gwrthod gadael pan ofynnir iddynt gan staff neu'r heddlu a phobl nad ydynt ar y safle i gael gofal meddygol eu hunain.

Mae'r pwerau newydd, sy'n rhan o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008, wedi'u cynllunio i ddiogelu staff, cleifion ac ymwelwyr fel y gall gwasanaethau hanfodol y GIG barhau heb darfu arnynt

Byddant hefyd yn rhoi'r pŵer i'r heddlu symud person dan amheuaeth o gyflawni'r drosedd o'r safle, gan ddefnyddio grym rhesymol os oes angen.

Fe'u datblygwyd mewn partneriaeth â'r Grŵp Cydweithredol dros Atal Trais, yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, sefydliadau GIG Cymru ac undebau llafur.

Mae canfyddiadau diweddaraf Arolwg Staff GIG Cymru Gyfan yn dangos gostyngiad sydyn yn nifer y staff sy'n teimlo'n ddiogel rhag camdriniaeth gan gleifion a'r cyhoedd, gan ostwng o 83.6% i 74.8%.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:

Mae'r pwerau hyn yn cryfhau mesurau diogelu ar gyfer staff y Gwasanaeth Iechyd ac yn helpu i sicrhau bod ein hysbytai a'n lleoliadau gofal iechyd yn parhau i fod yn lleoedd diogel i staff a chleifion, lle gall gofal ffynnu.

Mae hyn yn ymwneud â darparu diogelwch, urddas a chymorth i'r gweithlu. Nid yw'n troseddoli pobl sy'n ceisio gofal – mae'n sicrhau y gall staff wneud eu gwaith yn rhydd rhag ofn ac y gall cleifion gael triniaeth mewn amgylcheddau tawel a diogel.

Mae'r cam gweithredu sy'n cael ei roi ar waith heddiw yn anfon neges glir a chadarnhaol: yng Nghymru, rydyn ni'n sefyll gyda gweithlu'r Gwasanaeth Iechyd

Dywedodd Cadeirydd y Grŵp Cydweithredol dros Atal Trais, Jonathan Webb:

Mae hyn yn garreg filltir arall o ran y cydweithio rhwng gwasanaethau iechyd a'r sector cyfiawnder troseddol wrth ymateb i achosion o ymddygiad treisgar gan nifer bach o ddefnyddwyr gwasanaethau.

Mae'n grymuso staff y Gwasanaeth Iechyd i gymryd camau priodol pan fyddan nhw’n wynebu ymddygiad annerbyniol ac yn rhoi datrysiad effeithiol i ddelio â digwyddiadau.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd hyn yn lleihau ymhellach nifer yr achosion o drais ac ymddygiad ymosodol sy'n digwydd yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.