Neidio i'r prif gynnwy

Mae pwerau newydd wedi'u cyflwyno i helpu Cyfoeth Naturiol Cymru awdurdodau lleol i fynd i'r afael â gweithgarwch anghyfreithlon yn sector gwastraff, gydag amcangyfrif o gost o £32 miliwn y flwyddyn

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae rhan fwyaf y diwydiant gwastraff yn gweithredu mewn dull gyfrifol ond mae nifer fechan o gwmnïau yn peidio â chadw at safonau gofynnol eu trwydded/eithriadau neu yn gweithredu'n anghyfreithlon heb drwydded neu eithriad wedi'i drefnu. 

Gallai'r safleoedd hyn lygru'r amgylchedd a pheryglu iechyd dynol. Maent yn arwain at y perygl o dân, llygredd dŵr ac yn achosi problemau eraill megis arogleuon, sbwriel a phlâu o bryfed sy'n cael effaith ar y cymunedau o amgylch.

Yn dilyn trafodaeth yn y cyfarfod llawn ddoe, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cymeradwyo Rheoliadau Gorfodaeth Gwastraff (Cymru a Lloegr)2018. Mae'r rheoliadau hyn yn rhan o ystod o fesurau sydd wedi'u hanelu at fynd i'r afael â throseddau gwastraff a safleoedd gwastraff sy'n perfformio'n wael yng Nghymru. 

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru bellach yn gallu gweithredu'n gynt mewn safleoedd gwastraff sy'n peri problemau, er enghraifft drwy gloi'r clwydi i atal rhagor o wastraff rhag dod i mewn i'r safle i rwystro'r perygl o lygredd difrifol neu i atal y llygru rhag parhau. 

Yn y cyfamser, er mwyn lleihau effaith gwastraff sy'n cael ei adael, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Awdurdodau Lleol hefyd yn ehangu eu pwerau i weithredu yn erbyn meddianwyr a pherchnogion tir sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt weithredu i symud gwastraff sydd ar safle yn anghyfreithlon, boed hynny wedi ei wneud yn gyfreithlon yn wreiddiol o dan drwydded neu eithriad neu beidio.  Mae angen cymryd camau i gael gwared ar neu leihau unrhyw ganlyniadau sy'n cael eu hachosi gan gadw neu waredu gwastraff ar dir.

Dywedodd Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd:

"Rydym wedi gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i nodi beth arall y gellid ei wneud i atal safleoedd gwastraff sy'n peri broblemau neu sydd wedi'u gadael, ac rwyf wedi gwrando ar farn y diwydiant".

"Mae'r rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer dau o bwerau newydd. Bydd y cyntaf yn galluogi Cyfoeth Naturiol Cymru i gyfyngu ar fynediad i safleoedd gwastraff i atal rhagor o wastraff rhag dod ar y safle tra bo'r ail yn rhoi'r gallu i Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdodau Lleol gyflwyno rhybudd i feddiannydd neu berchennog tir sy'n ei wneud yn ofynnol iddynt gymryd camau i symud gwastraff sydd ar safle yn anghyfreithlon."

"Bydd y pwerau newydd hyn i weithredu yn erbyn cwmnïau gwastraff anghyfreithlon yn golygu y caiff pawb eu trin yn yr un modd ac yn helpu i sicrhau nad yw cwmnïau sy'n cydymffurfio â'r rheolau yn colli allan i'r rhai hynny sy'n tanseilio ac yn cynnig prisiau is na'r mwyafrif sy'n cadw at y gyfraith."

Meddai Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisïau a Thrwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Bydd y pwerau newydd hyn yn arf amhrisiadwy yn ein brwydr barhaus  yn erbyn troseddau gwastraff.

"Mae cwmnïau anonest yn fygythiad i'r amgylchedd, iechyd a lles y cymunedau y maent yn gweithredu o fewn iddynt ac yn tanseilio yr economi yng Nghymru.

"Ond bellach, diolch i'r rheoliadau newydd, byddwn yn gallu bod yn fwy effeithlon wrth fynd i'r afael â hwy a lleihau effaith eu gweithgarwch anghyfreithlon."