Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cynghorau yng Nghymru bellach yn gallu codi dirwy ar gyfer achosion o dipio anghyfreithlon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yr wythnos ddiwethaf, bu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gymeradwyo Rheoliadau Gwaredu Gwastraff Anawdurdodedig (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2017 (dolen allanol).  Roedd yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, yn gynharach eleni, a ddatgelodd bod cefnogaeth sylweddol i’r pwerau newydd.

 

 

O  heddiw ymlaen, bydd Awdurdodau Lleol yn gallu pennu cosb benodedig o rhwng £150 a £400, gyda swm ddiofyn o £200 pan nad oes swm wedi’i phennu.  Gellir cael gostyngiad am dalu’n gynnar a gall Awdurdodau Lleol gadw’r derbynebau i helpu i gyfrannu tuag at y costau o ddelio gyda thipio anghyfreithlon.  Gellir codi hysbysiadau cosb benodedig ar dir cyhoeddus a phreifat.  

Meddai Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:

“Mae tipio anghyfreithlon yn broblem yn ein cymunedau ac yn difrodi ein hamgylchedd.

  

“Bydd y pwerau hyn yn cynnig dull ychwanegol o orfodi Awdurdodau Lleol i ddelio gyda troseddau tipio anghyfreithlon ar raddfa fechan pan fyddai erlyn efallai’n or-ymateb.

 

“Dwi’n siŵr y bydd yr Awdurdodau Lleol a chymunedau yn croesawu’r pwerau newydd hyn.  Fodd bynnag, dwi’n teimlo ei fod yn bwysig bod Awdurdodau Lleol yn sicrhau bod y pŵerau hyn yn dod gyda’r lefel briodol o gysylltu â’r cyhoedd, codi ymwybyddiaeth a rhaglenni addysgol ehangach.  Dwi’n credu bod hyn yn hanfodol i sicrhau ymateb positif gan y cyhoedd a’i bod yn bosibl parhau i rwystro pobl rhag ymddwyn yn amhriodol”.