Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb byr o hanes yr aelodau.

Steve Morris – Cadeirydd

Mae gan Steve 30 mlynedd o brofiad ym maes Cymraeg i Oedolion ac fel cyn-brif arholwr Lefel Hyfedredd, aelod o’r gweithgor arholiadau Canolradd ac Uwch, ac arholwr a marciwr arholiadau Cymraeg i Oedolion. Bu’n aelod o Bwyllgor Strategaeth Cymraeg i Oedolion Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac yn is-gadeirydd Pwyllgor Dysgwyr Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006. Mae’n Athro Cysylltiol yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe a fe yw Trysorydd y British Association for Applied Linguistics (BAAL). Mae’n Gyd-ymchwilydd ac yn aelod o dîm rheoli prosiect ymchwil sylweddol CorCenCC: Corpws Cenedaethol Cymraeg Cyfoes.

Anna Skalistira-Bakratseva

Daeth Anna i fyw i Gymru o Fwlgaria bum mlynedd yn ôl ac mae wedi dysgu Cymraeg yn y dair mlynedd diwethaf. Mae ganddi radd meistr mewn meddygaeth ac wedi astudio Ffarmacoleg ar lefel Ph.D. Mae’n gweithio fel cynorthwyydd personol i ddeintydd.

Dr Helen Barlow

Wedi dysgu Cymraeg ac yn meddu ar profiad helaeth mewn addysg fel Uwch Reolwr Cyfadran y Celfyddydau, darlithydd cysylltiol, awdur deunyddiau dysgu a phapurau cynhadledd, paratoi ceisiadau, cadeirydd niferus o bwyllgorau dilysu ac ail-ddilysu ac Adolygydd Academaidd ar gyfer y Brifysgol Agored.

Richard Houdmont

Dysgodd Richard Houdmont Gymraeg pan symudodd i Gymru ym 1977 i weithio i Wasg Prifysgol Cymru, lle dyrchafodd i fod yn Ddirprwy Gyfarwyddwr. Yn fwy diweddar, fe weithiodd i'r Sefydliad Siartredig dros Farchnata fel Rheolwr Rhwydwaith Cymru, Iwerddon ac Ynys Manaw. Ymddiswyddodd yn 2015 ar ôl llwyddo i dyfu nifer yr aelodau, creu incwm a rhaglen digwyddiadau llwyddiannus. Mae'n parhau'n Gadeirydd gwasg Poetry Wales, sy'n cyhoeddi dan argraffnod enwog Seren. Dan argraffnod Houdmont mae'n cyhoeddi llyfrau Cymraeg i blant. Mae'n un o Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru a hefyd ar Fwrdd Ymgynghorol NetNeutrals EU.

Professor Huw Williams

Mae’r Athro Huw Williams yn Athro Emeritws Trafnidiaeth a Dadansoddi Gofodol, Prifysgol Caerdydd. Bu'n Ddarlithydd, Uwch Ddarlithydd, Darllenydd, Athro ac Athro er Anrhydedd yn yr Ysgol Cynllunio Dinas a Rhanbarthol cyn ei swydd bresennol. Mae wedi cyhoeddi llawer yn ei faes pwnc. Bu’n gwasanaethu’n hir fel aelod o Dîm Rheoli’r Ysgol ac yn Gadeirydd Pwyllgor Addysgu a Dysgu’r Ysgol. Mae’n dysgu Cymraeg ar lefel Mynediad.