Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o bwrpas y pwyllgor.

  • Hysbysu Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi  a Gwasanaeth Ystadegol Ehangach y Llywodraeth am yr ystadegau mae cyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru eu hangen gan ffynonellau llywodraeth ganolog.
  • Helpu cyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru i gadw llygad a dylanwadu ar ddatblygiadau ym maes ystadegol y llywodraeth – yn arbennig y datblygiadau o dan ofal Llywodraeth Cymru.
  • Hyrwyddo’r cysylltiad rhwng cyrff y sector cyhoeddus i ddatblygu a defnyddio’r setiau data mae cyrff yng Nghymru eu hangen.
  • Nodi materion, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â chasglu a lledaenu data ystadegol ymhlith cyrff y sector cyhoeddus, a materion sy’n ymwneud â dulliau sy’n gyffredin i fyd llywodraeth ganolog a lleol sydd angen eu hystyried gan gylchoedd eraill neu weithgorau a drefnwyd gan Pwyllgor Cyswllt Ystadegol Cymru, a monitro cynnydd yn ôl yr angen.