Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad gan y Pwyllgor Lles Anifeiliaid (AWC) ar ddewisiadau amgen i ddifa cywion sydd newydd ddeor yn y diwydiant wyau a dofednod.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Pwyllgor Lles Anifeiliaid: barn ar ddewisiadau amgen i ddifa cywion newydd ddeor yn y diwydiant wyau a dofednod , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 362 KB

PDF
Saesneg yn unig
362 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Gofynnwyd i AWC ystyried dewisiadau amgen i ddifa cywion sydd newydd ddeor yn y diwydiant wyau a dofednod. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • cywion ac embryonau o fridiau cywion ieir a ddewiswyd ar gyfer cynhyrchu wyau masnachol
  • cywion ac embryonau o'r rhywogaeth hon sy'n dod yn fridwyr adar bwyta
  • tyrcwn newydd ddeor
  • hwyaid newydd ddeor

Gofynnwyd i AWC:

  • ystyried a oes technolegau a allai helpu i atal difa cywion gwrywaidd sydd newydd ddeor yn y diwydiant ieir dodwy e.e. drwy nodi a / neu bennu rhyw embryonau'r cyw cyn deor
  • nodi unrhyw risgiau lles a allai ddeillio o gywion gwrywaidd sydd newydd ddeor ddim yn cael eu difa
  • cynnig unrhyw syniadau neu safbwyntiau eraill ar y pwnc hwn