Neidio i'r prif gynnwy

Pwyllgor Sgrinio Cymru yw’r fforwm cynghori cenedlaethol ar raglenni sgrinio iechyd. Mae’r Pwyllgor yn ystyried tystiolaeth ar sgrinio iechyd, gan gynnwys argymhellion gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU.

Mae’n rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru a GIG Cymru ynglŷn â’r canlynol:

  • gweithredu rhaglenni sgrinio poblogaeth newydd nad ydynt yn cael eu darparu gan y GIG ar hyn o bryd
  • comisiynu grwpiau prosiect i ystyried rhaglenni sgrinio newydd ac addasiadau i raglenni sy’n bodoli eisoes
  • technolegau sgrinio y mae eu heffeithiolrwydd wedi cael ei brofi ond y mae angen eu cyflwyno mewn modd a reolir yn effeithlon
  • parhau â rhaglenni sgrinio poblogaeth sy’n bodoli eisoes, eu haddasu, neu eu diddymu
  • pennu blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer sgrinio
  • materion generig sy’n ymwneud â rhaglenni, polisi, ansawdd a diogelwch sgrinio

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu’r rhaglenni sgrinio cenedlaethol canlynol:

  • Bron Brawf Cymru
  • Sgrinio Coluddion Cymru
  • Sgrinio Serfigol Cymru
  • Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru
  • Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru
  • Sgrinio Clyw Babanod Cymru
  • Sgrinio Ymlediad Aortaidd yn yr Abdomen Cymru

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn goruchwylio’r ddarpariaeth o Sgrinio Cyn Geni Cymru, sy’n cael ei gweithredu gan fyrddau iechyd lleol.