Daeth yr ymgynghoriad i ben 16 Ionawr 2015.
Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 644 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am gael eich barn ar ein cynigion i gyflwyno cynllun dirprwyo cenedlaethol mewn perthynas â phenderfyniadau cynllunio awdurdodau cynllunio lleol, a rhagnodi maint ac aelodaeth pwyllgorau cynllunio.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig gwneud newidiadau i'r system rheoli datblygu drwy'r Bil Cynllunio (Cymru).
Rydym am gael eich barn ar ein cynigion ynglŷn â sut y gallai cynllun dirprwyo cenedlaethol a safon genedlaethol ar gyfer maint ac aelodaeth pwyllgorau gael eu rhoi ar waith.
Gofynnwn am eich barn hefyd ar gynigion y Bil Cynllunio (Cymru) am fyrddau cynllunio ar y cyd a phaneli cynllunio strategol. Mae'r ymgynghoriad yn ystyried sut y gall maint a chyfansoddiad y trefniadau hyn gael eu strwythuro yn unol â darpariaethau'r Bil ar gyfer rhagnodi maint pwyllgorau cynllunio.
Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 357 KB
