Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Mae bachgen 6 oed nad yw'n gallu cyfathrebu ar lafar wedi gwneud ffrind newydd trwy bwyntio at symbolau ar fwrdd lliwgar yn y parc lleol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae stori Bash yn un o nifer tebyg iddi. Ymwelodd Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, â Pharc Pentre Mawr yn Abergele i gwrdd â Bash a'i fam Rennie i weld sut mae byrddau cyfathrebu yn trawsnewid bywydau plant a theuluoedd ledled Cymru.

I lawer o blant, gall mynegi'r peth lleiaf fel "Rwy'n llwglyd", "Rydw i eisiau mynd ar y siglen" neu "Rwy'n teimlo'n drist" fod yn eithriadol o anodd. Mae plant awtistaidd, plant sy'n araf yn datblygu sgiliau llafar, neu blant sydd â heriau cyfathrebu eraill yn aml yn cael trafferth i gael eraill i'w deall. Mae hyn yn arwain at rwystredigaeth, teimlo'n ynysig a cholli cyfleoedd i gysylltu ag eraill.

Mae byrddau cyfathrebu yn cynnig llinyn achub. Mae’r arwyddion hyn sy’n addas ar gyfer pob tywydd yn dangos symbolau syml fel sleid, baner, emosiynau fel hapus a blinedig, a gweithredoedd fel ‘mwy’ neu ‘wedi gorffen’, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Gall plant bwyntio atynt i rannu beth maen nhw’n ei feddwl neu’n ei deimlo.

Pan fydd plant yn gallu mynegi eu hunain, gallant wneud ffrindiau ac ymuno â chyfleoedd chwarae fel Bash a theimlo'n rhan o'u cymuned.

Mae dros 1,000 o fyrddau fel hyn bellach wedi'u gosod mewn parciau chwarae ym mhob un o'r saith ardal Bwrdd Iechyd yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi cyllid ar gyfer y rhain drwy ei rhaglen Siarad Gyda Fi.

Dywedodd mam Bash, Rennie:

Mae'r byrddau cyfathrebu wedi bod yn wych i fy mab 6 oed Bash. Mae e'n awtistig ac nid yw'n gallu cyfathrebu ar lafar, ac felly mae'r byrddau yma wedi helpu i gau'r bwlch pan fydd plant eraill eisiau chwarae efo Bash. Mae'n nhw'n gallu chwarae heb y ddyfais Cyfathrebu Estynedig ac Amgen (AAC) sydd ganddo

Mae e'n hoffi defnyddio'r byrddau i ddweud wrthym beth mae am i ni ei wneud - fel arfer i fynd yn gyflymach, neu bydd yn pwyntio at "i fyny" ac yn rhedeg i'r siglenni.

Roedd bachgen bach eisiau chwarae gyda Bash a gofynnodd i mi pam nad oedd o'n siarad ag ef. Dywedais wrtho nad oedd o wedi dysgu sut i siarad eto, ond ei fod e'n defnyddio arwyddion a symbolau fel y rhai ar y byrddau newydd. Yna dywedodd y bachgen bach arall, "mae hynny'n cŵl", cydiodd yn llaw Bash ac i ffwrdd â nhw. Roedd y ddau yn cyfathrebu â'i gilydd wrth ddefnyddio'r byrddau, ac i ffwrdd a nhw eto i chwarae ar y rowndabowt gyda'i gilydd.

Mae'n dda gweld pa mor barod yw plant i ddefnyddio'r byrddau fel ei bod yn gallu cynnwys y plant sy'n defnyddio AAC. Does gen i ddim geiriau i gyfleu pa mor anhygoel yw gweld Bash yn cyfathrebu ac yn chwarae gyda'r plant eraill heb y cyfyngiadau sy'n ei wynebu fel arfer.

Rydyn ni'n parhau i weld byrddau cyfathrebu mewn mwy a mwy o leoedd, ac mae Bash yn cyffroi drwyddo pan mae'n gweld rhai yn rhywle newydd.

Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:

Mae'r byrddau cyfathrebu rydyn ni'n eu gweld ledled Cymru yn wych ac yn bwerus – maen nhw'n helpu plant i gysylltu â'u teuluoedd, gwneud ffrindiau, a theimlo'n rhan o'u cymuned

Mae wedi bod yn wych cwrdd â Bash a Rennie ac mae'n amlwg bod y byrddau yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'w bywydau. Rwy'n falch bod Cymru'n arwain y ffordd o ran cyfathrebu cynhwysol a chefnogi plant fel Bash.