Crynodeb o ganlyniadau'r arolwg gwyddonol o'r stoc ar gyfer pysgodfa gocos y Cilfach Tywyn.
Cynnwys
Cyflwyniad
Rydym wedi defnyddio contractwyr allanol i gynnal asesiad stoc bob dwy flynedd o bysgodfa gocos y Cilfach Tywyn 2025 (Gwanwyn a Hydref). Dyma'r crynodeb o'r canfyddiadau a ddarparwyd gan y contractwr.
Yr arolwg
Mae'r arolwg yn:
- darparu amcangyfrif o bwysau cocos a dwysedd cocos yn y Cilfach Tywyn
- darparu ffigurau ar gyfer cyfanswm biomas cocos y bysgodfa gocos gyfan
- darparu dosbarthiad gofodol pob categori oedran
- darparu dosbarthiad maint y cocos yn ôl eu hamledd
Sut y byddwn yn defnyddio’r data
Byddwn yn defnyddio'r data i:
- gyfrifo'r gwarged y gellir ei gynaeafu
- hysbysu Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) fel rhan o'r cynllun rheoli
Nodir hyn yn y Gorchymyn Rheoli a Thrwyddedu Pysgota am Gocos (Ardal Benodedig) (Cymru) 2024.
Dull
Mae’r arolwg yn defnyddio grid sefydlog o 410 o safleoedd samplu, wedi’u gosod bob 250m. Cymerir un sampl o bob safle gan ddefnyddio cwadrad 0.1m2. Caiff y samplau hyn eu rhidyllu gan ddefnyddio rhwyll 4mm ac chymerir unrhyw gocos byw a ddelir fel sampl.
Ar gyfer pob safle, cofnodwyd:
- nifer y cocos a’u pwysau mewn pedwar dosbarth oedran (blwyddyn 0, blwyddyn 1, blwyddyn 2 a blwyddyn 3+)
- pwysau cocos â chregyn 15mm a mwy, a 21mm a mwy o hyd
- mesuriadau hyd cocos i ddangos eu dosbarthiad yn ôl maint o fewn y pum gwely
Canlyniadau 2025
Awst 2025
Cyfrifwyd bod cyfanswm o 14.4 biliwn (1.44 x1010) o gocos yn yr aber yn Awst 2025, cyfanswm o ran pwysau o 13,331 tunnell (Tabl1).
Cyfrifir y gwarged y gellir ei gynaeafu ar sail amcangyfrifon o fewn y cyfwng hyder isaf o bwysau’r cocos, sef y maint glanio lleiaf, hynny ar ôl tynnu’r biomas o gocos a ddiffinnir sy’n fwyd i adar. Gwneir hynny fel ymagwedd ragofalus at amrywioldeb data’r samplau.
Tabl 1: Amcangyfrif o gyfanswm pwysau’r cocos ym mhob un o welyau’r Cilfach Tywyn (Awst 2025)
| Gwely | Pwysau cymedrig | Gwarged cynaeafadwy (tunelli) | Cyfwng hyder isaf (tunelli) | Cyfwng hyder uchaf (tunelli) |
| Gogledd | 7,786 | N/A | 5,991 | 10,312 |
| De | 5,544 | N/A | 4,214 | 7,298 |
| C’swm yr Aber | 13,331 | 2,729 | 11,006 | 16,181 |
Mai 2025
Cyfrifwyd bod cyfanswm o 6.69 biliwn (6.96 x109) o gocos yn yr aber yn Mai 2025, cyfanswm o ran pwysau o 9,400 tunnell (Tabl1).
Cyfrifir y gwarged y gellir ei gynaeafu ar sail amcangyfrifon o fewn y cyfwng hyder isaf o bwysau’r cocos, sef y maint glanio lleiaf, hynny ar ôl tynnu’r biomas o gocos a ddiffinnir sy’n fwyd i adar. Gwneir hynny fel ymagwedd ragofalus at amrywioldeb data’r samplau.
Tabl 2: Amcangyfrif o gyfanswm pwysau’r cocos ym mhob un o welyau’r Cilfach Tywyn (Mai 2025)
| Gwely | Pwysau cymedrig | Gwarged cynaeafadwy (tunelli) | Cyfwng hyder isaf (tunelli) | Cyfwng hyder uchaf (tunelli) |
|---|---|---|---|---|
| Gogledd | 4,864 | N/A | 3,714 | 6,486 |
| De | 4,522 | N/A | 3,170 | 6,528 |
| C’swm yr Aber | 9,400 | 3,144 | 7,560 | 11,840 |
