Statws cyfredol ar gyfer gwelyau cocos y Tair Afon:
- Y Tair Afon ar gau tan rybudd pellach
Pysgodfa cocos y Tair Afon: hysbysiad cau
- Llansteffan ar agor o 16 Gorffennaf 2025 i 20 Tachwedd 2025
- Llan-y-bri ar agor o 19 Gorffennaf 2025 i 16 Tachwedd 2025
- Gwendraeth ar agor o 19 Gorffennaf 2025 i 22 Medi 2025
- Glanyfferi ar agor o 16 Gorffennaf i 5 Medi 2025
- Llanismel a Than-y-lan ar agor o 16 Gorffennaf i 5 Medi 2025
Yn unol â Gorchymyn Rheoli a Thrwyddedu Pysgota am Gocos (Ardal Benodedig) (Cymru) 2024, bydd y bysgodfa ar gau o 00.01 o’r gloch ddydd Gwener, 21 Tachwedd i ddiogelu’r stoc ac i sicrhau bod gwarged y gellir ei gynaeafu ar gael y tymor nesaf.
Mae gwelyau cocos Tair Afon yn cael eu rheoli o dan Gorchymyn Rheoli a Thrwyddedu Pysgota am Gocos (Ardal Benodedig) (Cymru) 2024.
Daeth y gorchymyn newydd i rym yn 2024. Mae’n disodli:
- Gorchymyn Cocos a Chregyn Gleision (Ardal Benodedig) 2011
- Is-ddeddf 47 cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru
Mae'n rhaid i'r ymgeiswyr ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein i wneud cais am drwydded casglu ciwcig a chyflwyno adroddiadau cawell.
