Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ganlyniadau'r arolwg gwyddonol o'r stoc ar gyfer pysgodfa cocos y Traeth Lafan.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Awst 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Rydym wedi defnyddio contractwyr allanol i gynnal asesiad stoc bob dwy flynedd o bysgodfa gocos y Traeth Lafan 2026 (Gwanwyn). Dyma'r crynodeb o'r canfyddiadau a ddarparwyd gan y contractwr yn dilyn yr arolwg a gynhaliwyd ym mis Ebrill.

Yr arolwg

Mae'r arolwg yn:

  • darparu amcangyfrif o bwysau cocos a dwysedd cocos yn y Traeth Lafan
  • darparu ffigurau ar gyfer cyfanswm biomas cocos y bysgodfa gocos gyfan
  • darparu dosbarthiad gofodol pob categori oedran
  • darparu dosbarthiad maint y cocos yn ôl eu hamledd

Sut y byddwn yn defnyddio’r data

Byddwn yn defnyddio'r data i:

  • gyfrifo'r gwarged y gellir ei gynaeafu
  • hysbysu Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) fel rhan o'r cynllun rheoli

Nodir hyn yn y Gorchymyn Rheoli a Thrwyddedu Pysgota am Gocos (Ardal Benodedig) (Cymru) 2024.

Dull

Mae’r arolwg yn defnyddio grid sefydlog o 151 o safleoedd samplu, wedi’u gosod bob 250m. Cymerir un sampl o bob safle gan ddefnyddio cwadrad 0.1m2. Caiff y samplau hyn eu rhidyllu gan ddefnyddio rhwyll 4mm ac chymerir unrhyw gocos byw a ddelir fel sampl. 

Ar gyfer pob safle, cofnodwyd:

  • nifer y cocos a’u pwysau mewn pedwar dosbarth oedran (blwyddyn 0, blwyddyn 1, blwyddyn 2 a blwyddyn 3+)
  • pwysau cocos â chregyn 26mm a mwy o hyd
  • mesuriadau hyd cocos i ddangos eu dosbarthiad yn ôl maint

Canlyniadau 2026

Ebrill 2026

Cyfrifwyd bod cyfanswm o 891 miliwn (891 x108) o gocos yn yr aber yn gwanwyn 2026, cyfanswm o ran pwysau o 2,539 tunnell (tabl 1). 

Cyfrifir y gwarged y gellir ei gynaeafu ar sail amcangyfrifon o fewn y cyfwng hyder isaf o bwysau’r cocos, sef y maint glanio lleiaf, hynny ar ôl tynnu’r biomas o gocos a ddiffinnir sy’n fwyd i adar. Gwneir hynny fel ymagwedd ragofalus at amrywioldeb data’r samplau.

Tabl 1: Amcangyfrif o gyfanswm pwysau’r cocos y Traeth Lafan (Ebrill 2026)
Gwely Pwysau cymedrig Gwarged cynaeafadwy (tunelli)Cyfwng hyder isaf (tunelli)Cyfwng hyder uchaf (tunelli)
Traeth Lafan2,5397072,0763,218