Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ganlyniadau'r arolwg gwyddonol o'r stoc ar gyfer pysgodfa cocos y Traeth Whiteford.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Rydym wedi defnyddio contractwyr allanol i gynnal asesiad stoc bob dwy flynedd o bysgodfa cocos Traeth Whiteford. Dyma grynodeb o'r canfyddiadau a ddarparwyd gan y contractwr.

Yr arolwg

Mae'r arolwg yn:

  • darparu amcangyfrif o bwysau cocos a dwysedd cocos Traeth Whiteford
  • darparu ffigurau ar gyfer cyfanswm biomas cocos y bysgodfa gocos gyfan 
  • darparu dosbarthiad gofodol pob categori oedran
  • darparu dosbarthiad maint y cocos yn ôl eu hamledd

Sut y byddwn yn defnyddio’r data

Byddwn yn defnyddio'r data i:

  • gyfrifo'r gwarged y gellir ei gynaeafu 
  • hysbysu Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) fel rhan o'r cynllun rheoli

Nodir hyn yn y Gorchymyn Rheoli a Thrwyddedu Pysgota am Gocos (Ardal Benodedig) (Cymru) 2024.

Dull

Mae’r arolwg yn defnyddio grid sefydlog o 30 o safleoedd samplu, wedi’u gosod bob 100m. Cymerir un sampl o bob safle gan ddefnyddio cwadrad 0.1m2. Caiff y samplau hyn eu rhidyllu gan ddefnyddio rhwyll 4mm ac chymerir unrhyw gocos byw a ddelir fel sampl.

Ar gyfer pob safle, cofnodwyd:

  • nifer y cocos a’u pwysau mewn pedwar dosbarth oedran (blwyddyn 0, blwyddyn 1, blwyddyn 2 a blwyddyn 3+)
  • pwysau cocos â chregyn 15mm a mwy, a 21mm a mwy o hyd
  • mesuriadau hyd cocos i ddangos eu dosbarthiad yn ôl maint o fewn y pum gwely 

Canlyniadau 2026

Chwefror 2026

Cyfrifwyd bod cyfanswm o 9.44 biliwn (9.44 x109) o gocos yn yr aber yn Chwefror 2026, cyfanswm o ran pwysau o 9,885 tunnell. 

Cyfrifir y gwarged y gellir ei gynaeafu ar sail amcangyfrifon o fewn y cyfwng hyder isaf o bwysau’r cocos, sef y maint glanio lleiaf, hynny ar ôl tynnu’r biomas o gocos a ddiffinnir sy’n fwyd i adar. Gwneir hynny fel ymagwedd ragofalus at amrywioldeb data’r samplau.

Amcangyfrif o gyfanswm pwysau’r cocos ym mhob un o welyau’r Cilfach Tywyn (Chwefror 2026)

 Pwysau cymedrig Gwarged cynaeafadwy (tunelli)Cyfwng hyder isaf (tunelli)Cyfwng hyder uchaf (tunelli)
C’swm 1315882233