Neidio i'r prif gynnwy

Terfynau dal blynyddol a misol ar gyfer cychod pysgota cregyn moch a ganiateir.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Yng Nghymru, mae cregyn moch yn cefnogi pysgodfa gwerth uchel gyda:

  • glaniadau yn yr ystod o 3500 i7000 tunnell bob blwyddyn
  • gwerth gwerthiant amcangyfrifedig cyntaf o £4 i £8M

Mae cynnydd fesul cam yn y maint glanio isaf wedi caniatáu mwy o gregyn moch i fridio cyn cael eu dal:

  • o 45mm i 55mm yn 2019
  • o 55mm i 65mm yn 2020

Yn ddiweddar, gwnaethom gyflwyno mesurau rheoli pellach i ddiogelu'r stoc a'r amgylchedd. Mae'r rhain yn cynnwys rheolaeth addasol i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y bysgodfa.

Trwyddedau cregyn moch

Cyfnod caniatáu 1 Mawrth 2026 i 28 Chwefror 2027

Ffi’r drwydded: £309

Terfyn Dal Blynyddol (ACL): 4,529 tunnell

Dyma gyfanswm y cregyn moch y gall pob cwch a ganiateir ei gymryd gyda'i gilydd yn ystod cyfnod trwydded.

Terfyn Dal Misol Hyblyg (MCL)

Mawrth: 50 tunnell

Cyfnod caniatáu 1 Mawrth 2025 i 28 Chwefror 2026

Ffi’r drwydded: £309

Terfyn Dal Blynyddol (ACL): 4,529  tunnell

Dyma gyfanswm y cregyn moch y gall pob cwch a ganiateir ei gymryd gyda'i gilydd yn ystod cyfnod trwydded.

Terfyn Dal Misol Hyblyg (MCL)

Mawrth: 50 tunnell
Ebrill: 50 tunnell
Mai: 50 tunnell
Mehefin: 50 tunnell
Gorffennaf: 50 tunnell
Awst: 50 tunnell
Medi: 50 tunnell
Hydref: 50 tunnell
Tachwedd: 50 tunnell

Cyfanswm y swm sy'n weddill o'r Terfyn Dal Blynyddol ar ddiwedd mis Mehefin yw 2,991 tunnell.

Cyfnod caniatáu 1 Mawrth 2024 i 29 Chwefror 2025

Terfyn Dal Blynyddol (ACL): 4,768 tunnell

Dyma gyfanswm y cregyn moch y gall pob cwch a ganiateir ei gymryd gyda'i gilydd yn ystod cyfnod trwydded.

Cyfanswm y Ddalfa wedi'i Lanio: 3,144 tunnell

Dyma gyfanswm y cregyn moch a laniwyd hyd yma yn ystod cyfnod y trwydded hwn.

Cyfnod caniatáu 1 Mawrth 2023 i 29 Chwefror 2024

Terfyn Dal Blynyddol (ACL): 4,768 tunnell

Dyma gyfanswm y cregyn moch y gall pob cwch a ganiateir ei gymryd gyda'i gilydd yn ystod cyfnod trwydded.

Cyfanswm y Ddalfa wedi'i Lanio: 3007 tunnell

Dyma gyfanswm y cregyn moch a laniwyd hyd yma yn ystod cyfnod y trwydded hwn.

Cyfnod caniatáu: 1 Mawrth 2022 i 28 Chwefror 2023

Terfyn Dal Blynyddol (ACL): 5,298 tunnell

Dyma gyfanswm y cregyn moch y gall pob cwch a ganiateir ei gymryd gyda'i gilydd yn ystod cyfnod trwydded.

Cyfanswm y Ddalfa wedi'i Lanio: 4,250 tunnell

Dyma gyfanswm y cregyn moch a laniwyd hyd yma yn ystod cyfnod y trwydded hwn.