Neidio i'r prif gynnwy

Mae marwolaethau ac anafiadau damweiniol ("sgil-ddalfa") mewn pysgodfeydd yn bygwth cadwraeth a lles mamaliaid morol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae mamaliaid morol yn cynnwys teulu’r morfil (morfilod, dolffiniaid a llamhidyddion) a morloi, ac mae Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig yn parhau i fod yn ymrwymedig i:

  • fynd i'r afael â'r mater hwn, a
  • sicrhau bod ein harferion yn cyd-fynd â safonau rhyngwladol.

Felly, rhaid i bob pysgotwr masnachol sy'n dal yn wyllt roi gwybod am unrhyw famaliaid morol sy’n marw neu’n cael ei anafu’n ddamweiniol (sgil-ddalfa) yn ystod gweithrediadau pysgota.  Mae angen ichi roi gwybod i'r Sefydliad Rheoli Morol (MMO) o fewn 48 awr i ddiwedd y daith. Caiff hyn ei ymgorffori yn amodau'r drwydded erbyn 30 Tachwedd 2021 fan bellaf. 

Bydd y data yn bwydo rhaglenni monitro sgil-ddalfeydd y DU.  Bydd yn helpu i nodi, a lleihau unrhyw ryngweithiadau gan bysgodfeydd â rhywogaethau morol sensitif. Mae hyn yn cyd-fynd â rhaglen ehangach o waith i fodloni Nod Ecosystem y Ddeddf Pysgodfeydd sy’n ymwneud â:

“lleihau a, lle bo’n bosibl, waredu nifer y rhywogaethau sensitif sy’n cael eu dal yn ddamweiniol”.

Mae hefyd yn angenrheidiol i’r DU barhau i allforio bwyd môr sydd wedi’i ddal yn wyllt i UDA o 1 Ionawr 2023 ymlaen.  Mae hyn yn ofynnol gan Ddeddf Diogelu Mamaliaid Môr yr Unol Daleithiau.

Gallwch gofnodi gwybodaeth drwy gyflwyno ffurflen ar-lein neu, os oes gwell gennych, dros y ffôn. Mae’r data sy’n ofynnol yn unol ag amod y drwydded fel a ganlyn:

  • enw’r cwch
  • rhif cofrestru’r cwch
  • dyddiad y digwyddiad
  • amcan o amser y digwyddiad
  • amcan o leoliad (lledred/hydred)
  • rhywogaethau o famal morol
  • math o offer pysgota
  • rhywogaethau targed
  • a oedd goruchwyliwr yn bresennol
  • unrhyw wybodaeth arall
  • camau a gymerwyd (os cymerwyd rhai)