Neidio i'r prif gynnwy

1. Cefndir

Mae Llywodraeth Québec a Llywodraeth Cymru yn eich gwahodd i gyflwyno cais am gymorth ariannol i gynnal prosiect cydweithredu fel rhan o’r pumed Alwad ar y Cyd am Gynigion Québec‑Cymru.

Yn dilyn y Datganiad o Fwriad ar gydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Québec a lofnodwyd ar 25 Chwefror 2020 datblygodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Québec alwad ar y cyd am gynigion yn cwmpasu’r meysydd ymchwil, arloesi, a chynaliadwyedd yn wreiddiol.

Yn sgil pwysigrwydd a budd di‑ben‑draw ein sefydliadau artistig a diwylliannol i gymdeithas yng Nghymru a Québec, ehangwyd yr Alwad i gynnwys prosiectau yn y celfyddydau a diwylliant, gan annog sefydliadau sy’n gweithio yn y sectorau creadigol yng Nghymru a Québec i wneud cais.

Yn dilyn llwyddiant pedair galwad flaenorol am gynigion, eleni rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi pumed Alwad ar y Cyd am Gynigion ar gyfer 2024.

2. Amcanion

Mae’r alwad ar y cyd am gynigion rhwng y partïon yn meithrin a thyfu cysylltiadau cydweithredol rhwng Cymru a Québec drwy:

  • Hyrwyddo datblygu cynaliadwy ym mhob cymdeithas
  • Hyrwyddo cydweithrediad rhwng canolfannau ymchwil ac ymchwilwyr mewn meysydd diddordeb wedi’u targedu ar y ddwy ochr
  • Hyrwyddo cydweithredu mewn datblygu economaidd mewn meysydd blaenoriaeth sydd o ddiddordeb i’r ddwy ochr
  • Cefnogi gwaith ein sectorau creadigol i arddangos ein treftadaeth ddiwylliannol unigryw
  • Ffafrio gwell cyd‑ddealltwriaeth drwy gyfuno rhwydweithiau a rhannu arbenigedd.

3. Sectorau cydweithrediad

Mae’r alwad bresennol am gynigion yn agored i bob sector mewn cynaliadwyedd, ymchwil ac arloesi, a diwylliant. Bydd rhai meysydd yn cael blaenoriaeth ond ni fydd ceisiadau’n cael eu cyfyngu i:

Yr Economi, Gwyddoniaeth ac Arloesi

Er enghraifft:

  • Datgarboneiddio (ynni glân, trydaneiddio trafnidiaeth, ailgylchu a’r economi gylchol)
  • Gwyddorau Bywyd (telefeddygaeth, genomeg, technolegau meddygol, biotechnolegau)
  • Deallusrwydd Artiffisial a Thechnolegau Digidol
  • Deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch, yn enwedig ym maes awyrofod
  • Bwyd Amaeth / Technoleg Amaeth

Y Celfyddydau a Diwylliant

Er enghraifft:

  • Clyweledol
  • Llenyddiaeth a chyhoeddi
  • Celfyddydau Perfformio
  • Celfyddydau Digidol a Chreadigol
  • Cerddoriaeth

Gall y rhain fod yn gyfnewid dwy ffordd rhwng artistiaid a sefydliadau, gyda’r posibilrwydd o ddatblygu gyrfaoedd neu rwydweithiau ar gyfer pob partner sy’n cymryd rhan, cydgynyrchiadau/cydgreadigaethau lle mae pob partner yn cymryd rhan lawn ynddynt, neu brosiectau cydgyfarwyddo, cydgoreograffi, cydgyfansoddi neu gydgyfarwyddo.

Nodwch fod yr alwad hon am gynigion yn agored i bob un o’r sectorau hyn yn 2024. Bydd prosiectau’n cael eu dewis ar ôl gwerthusiad sy’n seiliedig ar ansawdd ac mewn perthynas â’r meini prawf a nodir isod.

4. Meini prawf cymhwysedd ar gyfer prosiectau

Yng Nghymru bydd yr alwad yn agored i ymgeiswyr sydd â sylfaen barhaol yn y wlad. Yn Québec, mae’n rhaid i bennaeth y prosiect feddu ar ddinasyddiaeth Canada neu gael preswyliad parhaol yno.

Rhaid i brosiectau:

  • Gynnwys un partner o Gymru ac un partner o Québec
  • Cael eu cwblhau o fewn 12 mis ar ôl i’r cyllid gael ei gyhoeddi neu erbyn 31 Mawrth 2026 fan bellaf
  • Cael eu cyflwyno fel ffeil gais gyflawn yn Adran Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru, a’r Ministère des Relations internationales et de la Francophonie du Québec
  • Parchu’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais – ni fydd ceisiadau a ddaw i law ar ôl 11:59pm ar 29 Gorffennaf 2024 yn cael eu hystyried.

Manyleb ar gyfer galwad 2024

Mae meysydd datgarboneiddio, gwyddorau bywyd, seiberddiogelwch, deallusrwydd artiffisial, awyrofod, bwyd amaeth/technoleg amaeth a’r celfyddydau a diwylliant wedi’u dewis yn feysydd blaenoriaeth. Bydd rhaid cyflwyno adroddiad terfynol erbyn 31 Mawrth 2026 fan bellaf.

5. Canllawiau a threuliau sy’n gymwys am gymorth ariannol

Rhaid i gymorth prosiect cydweithredu beidio â disodli’r cymorth a roddir fel arfer gan sefydliadau ariannu eraill. Nodwch na all cymorth ariannol fesul prosiect y flwyddyn a roddir gan Lywodraeth Québec fod yn fwy na $7,500 CAD a £4,400 GBP gan Lywodraeth Cymru.

Nodwch y gall Gweinidogaethau Québec, asiantaethau neu sefydliadau’r llywodraeth neu gwmnïau Llywodraeth Québec wneud cais mewn galwadau am brosiectau o dan gyfrifoldeb y Ministère des Relations internationales et de La Francophonie. Er hynny, ni ellir defnyddio’r arian a roddwyd i dalu am dreuliau a dynnwyd ganddynt a’u staff. Ni ellir defnyddio’r cyllid ond i dalu costau yr aed iddynt gan bartneriaid allanol o Québec.

Mae’r treuliau canlynol yn gymwys:

  • Costau trafnidiaeth ar gyfer teithio dwyffordd rhwng Québec a Chymru (dosbarth economi)
  • Treuliau eraill sy’n gysylltiedig â chyfarfodydd teithio a thelegynadledda (fisa, yswiriant, ffioedd gwrthbwyso nwyon tyˆ gwydr, cludo offerynnau neu weithiau celf, etc)
  • Costau beunyddiol (gwesty a phrydau bwyd) os yw’n gymwys
  • Ffioedd cyhoeddi, hyrwyddo a lledaenu gwybodaeth sy’n gysylltiedig â’r prosiect
  • Ffioedd sy’n gysylltiedig â gwaith a grëwyd ar y cyd
  • Costau’r lleoliad neu’r offer rhentu
  • Ffioedd artistiaid sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r prosiect arfaethedig
  • Prynu deunydd neu offer.

Nid yw’r treuliau canlynol yn gymwys:

  • Costau sy’n gysylltiedig â chostau gweithredu a thaliad staff y sefydliad
  • Unrhyw dreuliau a gwmpaswyd yn flaenorol gan gymorth ariannol o raglen arall gan y Llywodraeth
  • Ffioedd gweithredu rheolaidd yr ymgeisydd
  • Treuliau a dynnwyd cyn i’r grant gael ei gyhoeddi
  • Costau teithio mewn dosbarth cyntaf neu ddosbarth busnes
  • Ffioedd am fagiau dros ben.

Dull cyllido

Mae cydweithrediad Québec‑Cymru yn defnyddio dull cyllido ar wahân, sy’n golygu bod pob partner yn gyfrifol am ei holl dreuliau mewn tiriogaeth dramor. Darperir cymorth ariannol Québec gan y Québec Ministère des Relations internationales et de la Francophonie (MRIF). Rhaid i’r grant y gofynnir amdano gan Lywodraeth Québec ymwneud yn unig â threuliau partner Québec (gan gynnwys costau teithio i Gymru yn ogystal â threuliau byw). Yn yr un modd, rhaid i’r grant y gofynnir amdano oddi wrth Lywodraeth Cymru ymwneud â gwariant partneriaid yng Nghymru yn unig (gan gynnwys costau teithio i Québec a threuliau byw).

6. Meini prawf gwerthuso prosiectau

  • Cydlyniant y prosiect a gyflwynir mewn perthynas â’r amcanion a nodwyd yn yr alwad am brosiectau
  • Hyrwyddo datblygu cynaliadwy ac egwyddorion cynaliadwyedd drwy’r prosiect
  • Natur arloesol y prosiect
  • Creu partneriaethau newydd
  • Eglurder yr amcanion a nodwyd
  • Yr amserlen ac ymarferoldeb y rhaglen waith
  • Cyfrannu at ddatblygiad y sector yn seiliedig ar y manteision a’r canlyniadau a ragwelir
  • Trylwyredd y trefniant ariannol ac amrywiaeth y ffynonellau ariannu
  • Cydbwysedd rhwng yr amcanion a’r canlyniadau a ragwelir yng ngoleuni’r amserlen waith a’r strwythur cyllido
  • Cael ei gynnal ar y cyd yn unol â’r egwyddor o gydymrwymiad, o ran ariannu ac effeithiau pendant
  • Meithrin cyfnewidfeydd a bondiau cydweithredol tymor hir rhwng Québec a Chymru gan arwain o bosibl at gyllid pellach oddi wrth asiantaethau eraill y Llywodraeth (Canada neu’r Deyrnas Unedig, er enghraifft)
  • Arwain at fanteision diriaethol i Québec a Chymru
  • Arwain at sefydlu rhwydweithiau ar gyfer cydweithredu.

7. Cyflwyno a dethol prosiectau

Sylwer bod yn rhaid cyflwyno'r holl brosiectau yn gyfan gwbl i'r ddau sefydliad cydgysylltu (sef y ministère des Relations internationales et de la Francophonie ar gyfer partner Québec ac Adran Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru.

Rhaid i bartneriaid Québec a Chymru ill dau lenwi'r dogfennau perthnasol ar-lein (ni dderbynnir unrhyw ffurflenni eraill).

Ar gyfer Québec: dolen gwefan i'r ffurflen: CoopQuebecGalles@mri.gouv.qc.ca
Rhaid i'r partneriaid yng Nghymru gyflwyno'r dogfennau ar 29 Gorffennaf 2024 fan bellaf drwy e-bost at: QuebecWalesProjects@llyw.cymru

Dadlwythwch y ffurflen gais

Gellir anfon ymholiadau ar gyfer partner Québec yn y cyfeiriad hwn:

M. Steve Boilard

Direction Europe et institutions européennes
Ministère des Relations internationals et de la Francophonie

Llywodraeth Québec a Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ddewis terfynol y prosiectau a phenderfynu faint o gymorth a roddir. Bydd canlyniadau ar gael i’r ymgeiswyr yn ystod tymor yr hydref 2024. Byddwch cystal â nodi nad yw penderfyniadau’n ddarostyngedig i unrhyw apeliadau.

8. Adroddiad terfynol

Bydd ffurflen adroddiad terfynol yn cael ei llenwi gan bob sefydliad a’i chyflwyno yn ôl y telerau sy’n gysylltiedig â hyn yn Québec a Chymru yn y drefn honno.