Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn galw am ragor o gamau i gyfyngu ar hysbysebion bwyd sothach i blant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daw llythyr y Gweiniog wedi i'r Pwyllgor Arferion Hysbysebu gyhoeddi datganiad rheoleiddiol yn amlinellu fframwaith newydd ar gyfer hysbysebu bwyd i blant. 

Mae'r fframwaith yn gwahardd hysbysebu bwydydd sydd â llawer o fraster, halen neu siwgr ynddynt ar y cyfryngau nad ydynt yn cael eu darlledu sydd wedi'u hanelu at blant. Er engrhaifft, ar-lein, ar y cyfryngau cymdeithasol, mewn sinemâu ac ar hysbysfyrddau. Mae hefyd yn caniatáu defnyddio cymeriadau trwyddedig ac enwogion sy'n boblogaidd ymysg plant mewn hysbysebion bwyd iach.

Er bod y rhain yn gamau i'w croesawu, nid ydynt yn mynd ddigon pell i gyfrannu'n sylweddol at yr ymdrech i fynd i'r afael â'r broblem gynyddol o ordewdra ymysg plant. Bydd y rheolau newydd yn gwahardd hysbysebu cynhyrchion o'r fath ar y cyfryngau dim ond pan fydd 25% neu fwy o'r gynulleidfa yn blant. 

Dywedodd y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans:

"Er ein bod yn croesawu'r mesurau newydd a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Arferion Hysbysebu, dydyn nhw ddim yn mynd ddigon pell.

"Ar hyn o bryd, mae rheolau hysbysebu ar y teledu wedi'u cyfyngu i raglenni sydd sy'n targedu plant yn benodol. Ond, wrth gwrs, nid rhaglenni a sianeli plant yn unig y bydd plant yn eu gwylio. Mae hyn yn wir am gyfryngau heblaw'r rhai sy'n cael eu darlledu hefyd. Er enghraifft, gemau ar-lein a gwefannau rhannu fideos. Mae hynny'n golygu, hyd yn oed pan fydd y rheolau newydd mewn grym, bydd llawer o blant yn parhau i ddod ar draws hysbysebion cynhyrchion afiach.  

"Oherwydd bod gordewdra’n broblem mor fawr ledled y Deyrnas Unedig, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i alw am wahardd hysbysebu bwydydd sydd â llawer o fraster, halen neu siwgr ynddyn nhw ar yr holl gyfryngau y gallai ein plant ddod ar eu traws, gan gynnwys y teledu. 

"Rwy'n annog yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd i weithredu'n gadarn a chefnogi'r gwaharddiad."