Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar gyfer gwneud cais am drwydded i gyflogi gweithwyr medrus o dramor.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

I gyflogi (neu noddi) gweithiwr tramor mewn ról fedrus ar fisa Gweithiwr Medrus, rhaid i gyflogwr gael trwydded noddwr.

Trwyddedau noddwyr

Mae cael trwydded noddi yn galluogi cyflogwyr y DU i gystadlu am lafur yn y DU a marchnadoedd byd-eang. Mae'n un o nifer o opsiynau i sicrhau galluoedd technegol nad ydynt ar gael ar hyn o bryd yn y Deyrnas Unedig.

Mae trwydded noddi yn ddilys am 4 blynedd. Gellir ei ddefnyddio i noddi unrhyw nifer o weithwyr tramor mewn rolau medrus sy'n bodloni trothwyon isafswm cyflog penodol.

Gwneud cais am drwydded noddi

I wneud cais am drwydded noddwr, rhaid i chi yn gyntaf:

Os mai'r ateb yw "ydw" i'r ddau faen prawf, gallwch ddechrau eich cais ar-lein. Fel rhan o'r broses gofynnir cwestiynau sylfaenol i chi am eich sefydliad a'ch staff. Bydd angen i chi roi manylion y gweithwyr rydych yn bwriadu eu noddi a phenderfynu pwy fydd yn rheoli nawdd yn eich busnes.

Y rolau ar gyfer nawdd yw:

Swyddog awdurdodi

Person uwch a chymwys sy'n gyfrifol am gydymffurfio â'r rheoliadau mewnfudo. Rhaid i'r swyddog awdurdodi ddod o Brydain neu wedi setlo yn y DU (bod caniatâd amhenodol i aros).

Cyswllt allweddol

Y prif bwynt cyswllt â Fisâu a Mewnfudo'r DU (UKVI).

Defnyddiwr Lefel 1

Yn gyfrifol am reoli'r drwydded noddi o ddydd i ddydd. Byddant yn cyflawni unrhyw ddyletswyddau nawdd gan ddefnyddio'r system rheoli nawdd.

Gall cais am drwydded noddi gymryd hyd at 8 wythnos i'w brosesu. Gall gymeryd mwy o amser os bydd angen eglurhad neu wybodaeth ychwanegol ar UKVI. Mae gwasanaeth blaenoriaeth ar gael a fydd yn prosesu'ch cais yn gyflymach am ffi ychwanegol.

Byddwch yn derbyn penderfyniad ar eich cais drwy e-bost.

Gwneud cais am drwydded noddi ar GOV.UK

Y system rheoli nawdd a thystysgrifau nawdd

Unwaith y cewch eich trwydded noddi, bydd y defnyddwyr Lefel 1 yn cael mynediad at system rheoli nawdd ar-lein (SMS) y Swyddfa Gartref. Defnyddiwch yr SMS i aseinio tystysgrif nawdd electronig i unrhyw weithiwr tramor yr hoffech ei gyflogi. Bydd angen hyn ar y gweithiwr tramor i gefnogi eu cais am fisa personol.

Mae tystysgrif nawdd yn ddilys am 3 mis o'r dyddiad y caiff ei aseinio.

Mae'n rhaid i weithwyr gyflwyno cais am fisa o fewn 3 mis ar ôl i'w tystysgrifau gael eu haseinio.

Yn gyffredinol, ni ellir cyflwyno cais am fisa fwy na 3 mis cyn y dyddiad y disgwylir i'r gyflogaeth ddechrau. 
Mae tystysgrif nawdd naill ai "anniffiniedig" neu'n "ddiffiniedig".

Tystysgrifau anniffiniedig

Gellir aseinio tystysgrifau anniffiniedig i staff tramor sy'n gymwys i wneud cais am fisa o fewn y DU. Byddai hyn fel arfer yn berthnasol i staff ar fisâu Gweithiwr Medrus sydd angen estyniadau ar eu fisâu.

Fel rhan o'ch cais am drwydded noddwr, mae'n rhaid i chi amcangyfrif nifer y tystysgrifau anniffiniedig rydych chi'n bwriadu eu haseinio yn y flwyddyn ganlynol.

Byddwch yn cael nifer cyfyngedig o dystysgrifau anniffiniedig bob blwyddyn. Rhaid adnewyddu'r dyraniad blynyddol hwn bob blwyddyn gan ddefnyddio'r SMS. Bydd angen i chi roi esboniad ar gyfer eich gofynion disgwyliedig o ran tystysgrifau anniffiniedig.

Gallwch ofyn am dystysgrifau ychwanegol. Gall y ceisiadau hyn gymryd hyd at 13 wythnos i'w prosesu. Am ffi ychwanegol, gellir prosesu ceisiadau o fewn 5 diwrnod gwaith.

Tystysgrifau diffiniedig

Rhaid i noddwyr aseinio tystysgrif nawdd diffiniedig ar gyfer gweithwyr tramor sy'n gwneud cais am eu fisas o'r tu allan i'r DU.

Mae ceisiadau am dystysgrifau diffiniedig yn cael eu cyflwyno drwy'r SMS. Maent yn cael eu hasesu gan y Swyddfa Gartref fesul achos.

Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar nifer y tystysgrifau diffiniedig y gellir gofyn amdanynt.

Manylion gweithwyr

P'un a yw'n ddiffiniedig neu'n anniffiniedig, rhaid i'r dystysgrif gael ei llenwi â gwybodaeth bersonol y gweithiwr a manylion y rôl. Dim ond un dystysgrif y gellir ei rhoi i weithiwr ar adeg benodol.

Mae pob tystysgrif yn unigryw. Rhaid i ymgeiswyr am fisa gyfeirio at rifau eu tystysgrif fel rhan o'u proses ymgeisio am fisa eu hunain.

Dyletswyddau nawdd

Cyn rhoi trwydded noddwr, gall y Swyddfa Gartref ymweld â'ch safle i sicrhau eich bod yn deall eich dyletswyddau noddi. Byddant hefyd yn gwirio bod gennych systemau priodol ar waith ar gyfer noddi gweithwyr.

Gall y Swyddfa Gartref hefyd ymweld â'ch safle ar unrhyw adeg yn ystod cylch pedair blynedd trwydded noddwr. Byddant am sicrhau eich bod yn cydymffurfio â rheoliadau mewnfudo. Byddant hefyd yn gwirio eich bod yn bodloni eich dyletswyddau noddi. Gall timau gorfodi ymchwilio i weld a ydych wedi cynnal yr holl wiriadau 'hawl i weithio'. Efallai y byddant yn cyfweld â chi fel y cyflogwr a'ch cyflogeion.

Dylech ond neilltuo tystysgrif nawdd i weithiwr os ydych yn siŵr ei fod yn bodloni'r gofynion mewnfudo. Rhaid i delerau ac amodau gweithwyr noddedig fod yn gyson bob amser rhwng y contract cyflogaeth, y dystysgrif a'r amodau sy'n berthnasol mewn gwirionedd.

Efallai y bydd angen i chi ddweud wrth UKVI os:

  • bydd amodau cyflogaeth gweithiwr noddedig yn newid neu'n dod i ben
  • nad yw'r gwaith yn dechrau
  • oes mwy nag y dylid bod o absenoldebau gwaith penodol

Efallai y bydd angen i chi roi gwybod i'r Swyddfa Gartref am newidiadau sefydliadol hefyd, fel:

  • staff allweddol
  • brand cwmni
  • manylion cyswllt
  • lleoliadau
  • strwythurau perchnogaeth, gan gynnwys uno.

Costau nawdd

Cost Cost Cwmnïau bach* ac elusennau Cwmnïau canolig a mawr
Trwydded noddi – amserlen safonol £536 £1,476
Trwydded nawdd – cais am flaenoriaeth (dewisol) £500 yn ychwanegol £500 yn ychwanegol
Tystysgrif noddi – ei hangen ym mhob achos £199 £199
Tâl sgiliau mewnfudo – yn daladwy yn dibynnu ar statws mewnfudo'r ymgeisydd am fisa £364 am gyfnod o 12-mis o fisa Gweithiwr Medrus £1,000 fesul cyfnod o 12-mis o fisa Gweithiwr Medrus

* Fel arfer, bydd cwmni bach yn bodloni o leiaf 2 o'r meini prawf canlynol:

  • trosiant blynyddol o £10.2 miliwn neu lai
  • cyfanswm yr asedau yn werth £5.1 miliwn neu lai
  • 50 o weithwyr neu lai

Mae'r fisa Gweithiwr Medrus ei hun yn arwain at gostau (gweler isod). Fel arfer, mater i'r gweithiwr a'r cyflogwr yw penderfynu pwy sy'n talu'r ffioedd hyn:

Fisa Gweithiwr Medrus – faint mae’n gostio ar GOV.UK

Gwybodaeth ychwanegol

Nawdd fisa y DU i gyflogwyr ar GOV.UK
Nawdd: canllawiau i gyflogwyr ac addysgwyr ar GOV.UK
Gwefan Legal Choices

Gellir dod o hyd i fanylion cynghorwyr mewnfudo yn Dod o hyd i gynghorydd mewnfudo ar GOV.UK