Neidio i'r prif gynnwy

Yn cynnwys data am awdurdodau’r heddlu, tân a pharciau cenedlaethol ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023.

Refeniw 

  • Yn 2022-23, bu cynnydd o 5.3% i £10.0 biliwn yng nghyfanswm gwariant refeniw gros awdurdodau lleol Cymru. Roedd gwariant gros y pen yn £3,219 neu £223 yn uwch na'r flwyddyn flaenorol.
  • Cyn effaith y dirwasgiad a'r mesurau cyni a ddaeth yn ei sgil, adroddwyd yn rheolaidd am gynnydd blynyddol o 5% neu 6% ond ers 2010-11, dim ond yn ystod pedair blynedd yn unig y gwelwyd twf sy'n uwch na 2%, gyda thair ohonynt wedi bod yn y tair blynedd diwethaf. 
  • Dros amser, mae gwasanaethau statudol fel addysg a gwasanaethau cymdeithasol wedi cael eu diogelu (ac ym maes gwasanaethau cymdeithasol y gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn gwariant) ond, mewn gwasanaethau eraill fel llyfrgelloedd, ffyrdd a thrafnidiaeth a chynllunio, gwelwyd gostyngiadau cyffredinol ers 2010-11. Addysg a gwasanaethau cymdeithasol sydd i gyfrif yn awr am 68% o wariant cyffredinol awdurdodau unedol o'i gymharu â 59% yn 2010-11 a 60% ym 1999-2000.

Cyfalaf

  • Bu cynnydd o 6.5% mewn gwariant cyfalaf yn 2022-23 i £1,571 miliwn neu £506 y pen o'r boblogaeth. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o £96 miliwn ar y flwyddyn flaenorol.
  • Yn gyffredinol, mae gwariant cyfalaf yn fwy anwadal a gall gael ei effeithio'n sylweddol gan fuddsoddiadau mawr neu addasiadau. Cynyddodd gwariant yn 2022-23 yn rhannol oherwydd cynnydd mewn addysg a thrafnidiaeth.Cafodd y rhan fwyaf o'r gwariant cyfalaf hwn ei wario gan awdurdodau unedol. Adroddodd awdurdodau’r heddlu, awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau parciau cenedlaethol wariant o £55 miliwn, £20 miliwn a £3 filiwn yn eu trefn.

Adroddiadau

Refeniw a gwariant cyfalaf alldro awdurdodau lleol: Ebrill 2022 i Fawrth 2023 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 431 KB

PDF
Saesneg yn unig
431 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Anthony Newby

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.