Reoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2025: asesiad effaith integredig
Asesiad ar effeithiau'r strategaeth Reoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Crynodeb o'r cynnig
Mae'r Asesiad Effaith Integredig hwn (IIA) yn cyd-fynd â Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2025. Mae'r cynnig yn diweddaru Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006 i ganiatáu i Weinidogion Cymru bennu ffioedd apelio ar gyfer cynlluniau o dan y Gyfraith Gymhathu, i alinio â Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023. Ei nod yw cefnogi eu gweinyddiaeth effeithiol a chysondeb deddfwriaethol.
Asesiadau o'r Effaith
Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant
Nid yw'r cynnig yn effeithio'n uniongyrchol ar hawliau plant. Fodd bynnag, rhoddwyd sylw dyledus i ddyletswyddau statudol Llywodraeth Cymru o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.
Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb
Mae'r strwythur ffioedd wedi'i gynllunio i sicrhau tegwch ac adennill costau. Mae Opsiwn 3, yr opsiwn a ffefrir, yn cynnwys mecanwaith ad-dalu ar gyfer apelau llwyddiannus, gan sicrhau bod gan bawb yr un hawl i gyfiawnder.
Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg
Bydd yr holl ddogfennau apelio a deunydd cyfathrebu ar gael yn ddwyieithog, gan sicrhau cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg.
Asesiad o’r Effaith ar yr Economi
Rhagwelir y bydd y strwythur ffioedd a ffefrir (Opsiwn 3) yn cynhyrchu oddeutu £21,840 bob blwyddyn, gan leihau'r cymhorthdal cyhoeddus net. Mae hyn yn cefnogi cynaliadwyedd ariannol a thegwch yr un pryd.
Asesu Effaith ar yr Amgylchedd
Nid oes costau amgylcheddol uniongyrchol yn gysylltiedig â’r opsiwn hwn.
Prawfesur Gwledig
Mae'r cynlluniau'n effeithio'n bennaf ar gymunedau gwledig. Mae'r strwythur ffioedd apelio diwygiedig yn sicrhau bod panel apelio annibynnol ar gael i
ymgeiswyr am grantiau a chymorthdaliadau gwledig, gyda mecanweithiau ad-dalu ar waith ar gyfer apelau llwyddiannus.
Ymgynghori
Roedd yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn 2023 o blaid craffu annibynnol. O ganlyniad i adborth rhanddeiliaid, penderfynwyd gwrthod trefn fyddai'n adennill y costau llawn a mabwysiadu model ffioedd annibynnol sy'n seiliedig ar graffu.
Monitro ac adolygu
Bydd effaith y rheoliadau diwygiedig yn cael ei monitro bob blwyddyn, gan ganolbwyntio ar nifer yr apelau, eu canlyniadau a'u had-daliadau. Bydd adolygiad mewnol yn cael ei gynnal o fewn tair blynedd i asesu effeithiolrwydd y strwythur ffioedd.
