Neidio i'r prif gynnwy

Nod yr ymchwil a’r dull methodolegol

Mae’r gwaith ymchwil hwn, a ariannwyd gan gynllun Cymrodoriaeth Polisi ESRC ac a gynhaliwyd rhwng mis Chwefror 2022 a mis Awst 2023, yn archwilio’r heriau a’r cyfleoedd o integreiddio meddwl hirdymor drwy ragargoeli wrth lunio polisïau ac yn darparu’r sylfaen dystiolaeth i Lywodraeth Cymru ddatblygu ei swyddogaethau rhagargoeli ymhellach. Cafodd cam cychwynnol y Gymrodoriaeth ei neilltuo ar gyfer y cyd-ddylunio’r ymchwil. Yn ystod y cyfnod cyflawni, roedd tri deg pump o gyfweliadau’n canolbwyntio ar yr heriau a’r cyfleoedd o ddefnyddio rhagargoeli ar gyfer llunio polisïau yn ogystal â rhoi cipolwg ar wahanol drefniadau sefydliadol ar gyfer rhagargoeli mewn llywodraethau dethol eraill. Roedd cynlluniau peilot gyda thri thîm polisi Llywodraeth Cymru yn rhoi persbectif manwl ar sut y gallai rhagargoelion edrych yng nghyd-destun Llywodraeth Cymru, a chafodd dau weithdy terfynol i randdeiliaid eu trefnu i adolygu canfyddiadau’r ymchwil a thrafod mecanweithiau galluogi i ddatblygu penderfyniadau hirdymor yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (WFGA).

Gwybodaeth allweddol o’r llenyddiaeth

Mae’r llenyddiaeth a adolygir yn yr adroddiad hwn yn canolbwyntio ar ddulliau rhagargoeli cyfranogol, o safbwynt ac sy’n canolbwyntio ar bolisi y gellir eu defnyddio i gefnogi llunwyr polisïau i lywio ansicrwydd a datblygu polisïau sy’n edrych i’r dyfodol. Fodd bynnag, er y gall rhagargoeli fod yn drawsnewidiol, nid yw heb heriau. Gall amheuon a gwrthwynebiad, ynghyd ag adnoddau prin a lefelau isel o lythrennedd dyfodoleg, sy’n cwmpasu’r sgiliau sydd eu hangen i ddefnyddio rhagargoeli, lesteirio’r defnydd o ragargoelion mewn llywodraethau. Gwaethygir hyn gan y ffaith bod gwerthuso gweithgareddau rhagargoeli yn faes hanfodol ond heriol, ac mae hyn yn ei gwneud yn anodd mynegi a dangos cyfraniad rhagargoeli at lunio polisïau. Wrth ddatblygu swyddogaethau rhagargoeli, mae’n bwysig bod llywodraethau’n ystyried amgylchiadau lleol er mwyn creu modelau sefydliadol effeithiol a chynaliadwy.

Gwybodaeth allweddol o’r astudiaethau achos rhyngwladol

Dadansoddwyd dulliau rhagargoeli mewn llywodraethau ym Mhortiwgal, y Ffindir, y Deyrnas Unedig (DU), a Fflandrys i nodi themâu cyffredin. Mae’r llywodraethau hyn yn defnyddio rhagargoeli wrth wneud penderfyniadau mewn gwahanol ffyrdd. Mae swyddogaethau rhagargoeli a’u lleoliadau sefydliadol yn amrywio ar sail blaenoriaethau unigol, traddodiadau gweinyddiaeth gyhoeddus, diwylliannau ac anghenion sefydliadol. Ym mhob achos, mae’r gallu i gefnogi prosiectau a meithrin gallu ar draws y llywodraeth a thu hwnt yn aml yn her. Nid yw defnyddio dulliau rhagargoeli ar ben eu hunain yn ddigon i gyflawni newid systemig tuag at ymyriadau hirdymor a rhagddyfalus. Yn hytrach, mae ffocws sefydliadol ar ddatblygu camau gweithredu a defnyddio’r gwersi a ddysgwyd o ragargoeli yn allweddol. Mae’r broses hon yn cael ei chryfhau gan adnoddau mewnol pwrpasol sy’n canolbwyntio’n benodol ar ragargoeli ac sy’n gallu sicrhau nad yw capasiti a gallu sefydliadau ar gyfer rhagargoeli yn cael eu herydu gan y galw sy’n gysylltiedig ag anghenion sy’n newid (e.e. wrth ymateb i argyfwng). Mae meithrin ymrwymiad uwch arweinwyr hefyd yn elfen bwysig sy’n helpu i oresgyn amheuaeth a gwrthwynebiad. Yn ogystal, gall partneriaethau rhyngwladol a chydweithredu â llywodraethau eraill neu sefydliadau rhyngwladol fel yr OECD gynyddu proffil ac effeithiolrwydd gweithgareddau rhagargoeli, gan gynyddu ei werth canfyddedig yn ogystal fel swyddogaeth graidd.

Gwybodaeth allweddol o Gymru

Roedd cyfranogwyr o Gymru yn cytuno bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wedi cynyddu gwelededd a pherthnasedd rhagargeoli o ran iaith a disgwyliadau. Mae’r Ddeddf yn cael ei hystyried yn llwyfan cyffredin sy’n sbarduno’r gwaith o ddatblygu ecosystem rhagargoeli ddeinamig o fewn Llywodraeth Cymru ac yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Yng Nghymru, mae gan rai o’r sefydliadau allweddol yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector alluoedd a sgiliau rhagargoeli mewnol cryf ac maent yn aml yn cydweithio ar brosiectau neu drwy gyfnewid gwybodaeth. O fewn Llywodraeth Cymru, mae gan rai Cyfarwyddiaethau, er enghraifft yr Uned Tystiolaeth Strategol yn y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, gapasiti a galluoedd mewnol i ddefnyddio rhagargoeli a chafodd llawer o strategaethau hirdymor Llywodraeth Cymru, fel y Strategaeth Drafnidiaeth neu Strategaeth y Gymraeg eu llywio gan yr arfer hwn. Roedd data’r cyfweliadau a’r tri chynllun peilot polisi yn dangos bod galw mawr am fwy o waith rhagargoeli ac am fwy o integreiddio syniadau dyfodoleg wrth lunio polisïau. Fodd bynnag, mae bylchau sylweddol o hyd yng ngallu a chapasiti’r sefydliad. Er bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael ei chrybwyll yn aml fel galluogwr allweddol ar gyfer gwaith rhagweld, soniwyd am dueddiadau i weithio mewn seilos, prinder amser, bylchau llythrennedd dyfodoleg, mecanweithiau sefydliadol a datgysylltiadau â’r maes gwleidyddol fel rhwystrau presennol.

Casgliadau

Mae rhagargoeli yn gwella’r ffordd y llywodraethir llesiant a datblygu cynaliadwy drwy integreiddio safbwyntiau hirdymor a chefnogi llunwyr polisïau i gydnabod a llywio drwy ansicrwydd a deall canlyniadau hirdymor penderfyniadau. Mae adnoddau rhagargoeli mewnol pwrpasol yn allweddol ar gyfer parhad a chynaliadwyedd rhagargoeli, yn enwedig yn ystod argyfyngau, ond i fod yn drawsnewidiol dylai rhagargoeli hefyd gael ei gynnwys fel arferiad wrth lunio polisïau. Yn Llywodraeth Cymru, mae rhagargoeli yn tueddu i fod yn dameidiog ac yn aml yn cael ei gynnal yn ad hoc yn hytrach na’i wreiddio yn y cylch polisi neu’n cael ei ddefnyddio i lywio mentrau a phenderfyniadau’n uniongyrchol. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn llwyfan trawsnewidiol y gall Llywodraeth Cymru adeiladu arno ar adnoddau rhagargoeli presennol yn ogystal ag ar gydweithrediadau mewnol a rhyngwladol gyda llywodraethau a rhanddeiliaid eraill. O dan y fframwaith deddfwriaethol hwn, mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i fynd i’r afael â bylchau llythrennedd dyfodoleg ar hyn o bryd, a datgloi mecanweithiau i oresgyn rhwystrau fel seilos presennol rhwng timau polisi a gwreiddio meddwl hirdymor yn Llywodraeth Cymru ac yn y sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru.