Neidio i'r prif gynnwy

Bydd rhaglen newydd gwerth hyd at £9.5 miliwn yn lleihau ôl troed carbon y tai cymdeithasol presennol yng Nghymru, gwneud biliau ynni yn haws i breswylwyr eu talu a rhoi cyfleoedd newydd ar gyfer swyddi a hyfforddiant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio, rhan o’r Rhaglen Tai Arloesol, yn darparu arian ar gyfer gosod mesurau defnyddio ynni’n effeithlon mewn hyd at 1000 o gartrefi sy’n berchen i landlordiaid tai cymdeithasol a chynghorau. Bydd y pecyn buddsoddi yn arwain at gartrefi gwell, yn helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd ac yn cyfrannu at ddatgarboneiddio.

Lansiodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP) yn ystod ymweliad â Craig Cefn Parc yn Abertawe. Mae’r cynllun ôl-osod hwn sy’n cynnwys chwech o fyngalos o’r 70au gan Gyngor Abertawe, yn treialu dull o leihau biliau ynni preswylwyr, gwneud tenantiaid yn fwy cyfforddus a lleihau allyriadau carbon.

Bydd yr ORP yn helpu’r sector i brofi gwahanol ddulliau o gyrraedd y nod o fod yn garbon niwtral. Bydd yn cynnwys cystadleuaeth arloesi – yn agor y mis nesaf – i gefnogi y broses o dreialu atebion newydd arloesol ar gyfer ôl-osod ein stoc tai. Bydd yr wybodaeth a’r hyn sy’n cael ei ddysgu yn dylanwadu ar ddyfodol Safon Ansawdd Tai Cymru fel bod modd i bawb sy’n byw mewn cartrefi cymdeithasol elwa o filiau ynni llai a chartrefi cynhesach, sy’n defnyddio ynni’n effeithlon. 

Mae’r ORP yn rhan allweddol o’r Rhaglen Tai Arloesol gwerth £45 miliwn a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, sy’n canolbwyntio ar adeiladu cartrefi carbon niwtral newydd gan ddefnyddio dulliau modern o adeiladu, a bydd y cynllun yn cyfrannu at gynlluniau i leihau nwyon tŷ gwydr 95% erbyn 2050, gydag uchelgais i gyrraedd sero net yn y dyfodol. Mae’r ceisiadau ar gyfer pedwaredd blwyddyn y Rhaglen Tai Arloesol bellach ar agor yn swyddogol.

Gan gydweithio ar draws Llywodraeth Cymru, mae’r rhaglen wedi ei hariannu’n rhannol drwy’r ffrydiau arloesi a chyllido. Mae wedi ei gydnabod ers amser y bydd ôl-osod cartrefi yn allweddol wrth adfer yr economi werdd, gyda’r uchelgais o greu swyddi, cynnig hyfforddiant a sgiliau o fewn y dechnoleg wresogi ac ôl-osod bresennol a newydd.

Y gobaith yw y bydd yn bosibl i’r dechnoleg a’r sgiliau a grëwyd drwy’r rhaglen gael eu cyflwyno yn ehangach ar draws cartrefi y sector preifat, gan sicrhau lle Cymru fel ‘rhanbarth arloesol’ ar gyfer datgarboneiddio cartrefi drwy leihau allyriadau carbon i oddeutu 300,000 o gartrefi cymdeithasol a thlawd o ran tanwydd.

Wrth gyhoeddi’r cynlluniau, dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:

Mae pandemig y coronafeirws wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cartref cynnes, diogel a fforddiadwy yn fwy nag erioed o’r blaen. Mae wedi dangos effaith bositif lleihau nwyon tŷ gwydr. 

Mae tai yn gyfrifol am 27% o’r holl ynni sy’n cael ei ddefnyddio yng Nghymru a 15% o holl allyriadau nwyon tŷ gwydr ymhlith defnyddwyr. Er bod gennym gynlluniau i sicrhau bod cartrefi newydd yn cael eu gwresogi ac yn derbyn ynni o ffynonellau ynni glân yn unig, mae’n hanfodol sicrhau bod ein stoc tai presennol yn defnyddio ynni mor effeithlon â phosibl os ydym i gyrraedd ein targed uchelgeisiol o leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr 95% erbyn 2050.

Mae’r cynllun hwn yn hanfodol i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, ac i leihau costau ynni cartrefi nawr ac yn y dyfodol. Mae’n helpu pobl, gan gynnwys y rhai hynny ar incwm is, i leihau eu biliau tanwydd tra’n cadw eu cartrefi yn gynnes. 

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi:

Yn hwb i’w groesawu i economi Cymru, bydd ôl-osod cartrefi yn cynnig swyddi a hyfforddiant o safon yng nghanol ein cymunedau. Er mwyn helpu i sbarduno arloesi ac i greu cadwyn gyflenwi yng Nghymru, byddwn yn lansio cystadleuaeth i landlordiaid cymdeithasol wneud cais am gyllid ymchwil ac arloesi ym mis Medi.

Meddai Clarissa Corbisiero, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Polisi a Materion Allanol Tai Cymunedol Cymru: 

Er gwaethaf bygythiad Covid-19 ar hyn o bryd, nid yw’r argyfwng hinsawdd wedi diflannu, ac mae’r pandemig wedi tynnu sylw at yr angen am ragor o gartrefi fforddiadwy o safon uchel. Mae cymdeithasau tai yng Nghymru wedi ymrwymo i chwarae eu rhan i fynd i’r afael â’r materion hyn. Mae gennym bellach gyfle i ddysgu o brofiadau’r misoedd diwethaf, ac i fod yn uchelgeisiol yn ein hymateb. Mae’r cyllid hwn yn gam cyntaf sydd i’w groesawu i ddatgarboneiddio 1,000 o gartrefi, creu cadwyni cyflenwi lleol a chreu swyddi yn ein cymunedau.