Neidio i'r prif gynnwy

Mae rhaglen cymorth busnes llwyddiannus Llywodraeth Cymru wedi rhoi hwb o fwy na £60 miliwn i refeniw'r busnesau sy'n cymryd rhan drwy allforio, gyda 15 o gwmnïau eraill bellach wedi'u dewis i gyflymu eu potensial allforio a thyfu ymhellach drwy fasnach ryngwladol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bob blwyddyn, mae'r Rhaglen Allforwyr Newydd yn darparu cymorth pwrpasol i garfan o fusnesau bach a chanolig o bob cwr o Gymru sydd wedi'i gynllunio i gynyddu eu potensial allforio drwy ymgorffori allforion fel agwedd graidd ar eu strategaeth twf busnes gyffredinol.

Mae'r rhaglen, sy'n rhan greiddiol o Gynllun Gweithredu Allforio Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru, yn cynnig cymorth wedi'i deilwra sy'n canolbwyntio ar sgiliau allforio hanfodol fel mireinio cynnyrch, marchnata rhyngwladol, cyflwyno allforion, prosesau gwerthu tramor a datblygu strategaethau allforio ochr yn ochr ag ymweliad â'r farchnad yn yr Iseldiroedd i gwrdd â phartneriaid busnes a chwsmeriaid posibl yn bersonol.

Mae cyfranogwyr yn nhair blwyddyn gyntaf y Rhaglen Allforwyr Newydd wedi gweld eu teithiau allforio yn cyflymu a refeniw yn cynyddu i gyfanswm o £62 miliwn.

Cymerodd y gwneuthurwr arobryn o Ogledd Cymru Limb-art ran yn y Rhaglen Allforwyr Newydd. Mae'n dylunio ac yn cynhyrchu gorchuddion coesau prosthetig addurniadol o ansawdd uchel ar gyfer y rhai sydd wedi colli eu haelodau isaf ac mae bellach yn allforio i farchnadoedd allweddol ledled y byd.

Mae Limb-art yn disgwyl cynhyrchu mwy na £500,000 mewn refeniw allforion dros y tair i bum mlynedd nesaf, gydag allforion yn cyfrif am 50% o'i werthiannau dros yr un cyfnod. Mae cynlluniau i greu tair swydd newydd o ganlyniad i hyn.

Dywedodd sylfaenydd Limb-art, a'r cyn athletwr Paralympaidd, Mark Williams:

Mae wedi bod yn anhygoel gweld sut mae allforio wedi trawsnewid ein ffrydiau refeniw yn llwyr, a gallwn weld sut y gallai gwerthiannau rhyngwladol gynyddu ein twf dros y blynyddoedd i ddod.

"Nid yw ein taith allforio wedi bod heb heriau. Mae gwaith papur wedi bod yn anhawster arbennig i ni wrth fynd i mewn i farchnadoedd newydd gan fod ein cynnyrch mor unigryw nad yw'n ymddangos ar ffurflenni arferol.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol wrth ei gwneud mor hawdd â phosibl i ni gael ein cynnyrch i'n dosbarthwyr tramor, gan arbed amser ac egni gwerthfawr i ni."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

Mae cymorth allforio i fusnesau yng Nghymru yn flaenoriaeth uchel i'r Llywodraeth hon gan ein bod yn gwybod yr effaith y gall ei gael ar dwf a chadernid busnes.

“Trwy ein Cynllun Gweithredu Allforio rydym yn helpu i drawsnewid busnesau, gyrru arloesedd a chynhyrchiant a darparu gwaith hirdymor, cynaliadwy mewn economi fyd-eang gystadleuol.”