Neidio i'r prif gynnwy

Pwrpas

Mae amcanion sero net a thaclo tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru yn gydnaws â’i gilydd. Ein huchelgais tymor hir yw gwneud cartrefi Cymru’n fwy ynni effeithiol gan ddefnyddio dim ond yr ynni sydd ei angen arnom i gadw cartrefi’n gyfforddus o glyd am gost y gellid ei fforddio. 

Ystyr Tlodi Tanwydd yw bod rhywun yn ei chael hi’n amhosib cynnal system wresogi foddhaol am bris fforddiadwy. Yng Nghymru, aelwyd tlawd o ran tanwydd yw aelwyd sy’n gorfod talu mwy na 10% o’i hincwm i gynnal system wresogi foddhaol. Mae aelwydydd sy’n gorfod talu mwy nag 20% yn cael eu hystyried yn ddifrifol o dlawd o ran tanwydd. Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun 2021/35 i Drechu Tlodi Tanwydd. Ein nod erbyn 2025 yw na fydd mwy na 5% o aelwydydd Cymru mewn tlodi tanwydd ac na fydd unrhyw aelwyd mewn tlodi tanwydd parhaus neu ddifrifol.

Mae hi’n argyfwng hinsawdd arnom ni.  Mae ein cynllun lleihau allyriadau 2021-2025, Cymru Sero Net yn esbonio sut y byddwn, trwy weithio gyda llywodraeth leol a rhanbarthol, busnesau, pobl ac eraill, yn lleihau allyriadau ledled Cymru. Yn 2020, roedd cartrefi Cymru’n gyfrifol am ryw 11% o holl allyriadau tŷ gwydr Cymru. Gwnaethom ni gyhoeddi’r nod iddynt fod yn sero net erbyn 2050, gydag adeiladau cyhoeddus a thai cymdeithasol yn dangos y ffordd. 

Y Rhaglen Cartrefi Clyd newydd fydd prif fecanwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer taclo tlodi tanwydd o hyd a bydd yn cyfrannu hefyd at wneud Cymru’n sero net erbyn 2050 ac yn cyfrannu’n uniongyrchol at wneud y newid hwnnw’n un cyfiawn - gan sicrhau na chaiff neb ei adael ar ôl wrth i ni symud at Gymru lanach, gryfach a thecach, trwy ein hamcanion deublyg o drechu tlodi tanwydd a'r argyfwng hinsawdd.

Mae’r Rhaglen Cartrefi Clyd newydd yn gyfle i ddatblygu ffordd integredig o weithredu fydd yn ymateb i'r argyfwng costau byw, yn hyrwyddo deunyddiau Cymreig cynaliadwy, yn darparu cyngor dibynadwy ar ddefnyddio ynni’n effeithlon a datgarboneiddio, yn cefnogi sgiliau a swyddi yng Nghymru ac yn dysgu gwersi a phrofiadau Rhaglen Ôl-osod Llywodraeth Cymru er mwyn Optimeiddio (ORP).

Bwriad Llywodraeth Cymru felly yw parhau i roi’r ‘Adeiladwaith yn Gyntaf’, gan gyflwyno mesurau i wneud yr aelwydydd sydd â’r incwm isaf ac sydd leiaf effeithlon o ran gwres yn fwy ynni effeithlon. 

Rhennir y gwaith hwnnw yn ddwy ran: 

Rhan 1

Drwy fwrw’n gynt yn ein blaenau â’r broses i gaffael gwasanaeth newydd sy'n seiliedig ar y galw, byddwn yn sicrhau dilyniant i helpu’r rhai lleiaf abl i ymateb i'r argyfwng costau byw. Bydd hyn hefyd yn sicrhau newid cyfiawn a fforddiadwy i gartrefi carbon isel.

Rhan 2

Datblygu ffordd integredig ar draws pob math o ddeiliadaeth a lefel incwm i sbarduno datgarboneiddio. Bydd y ffordd integredig o weithio yn seiliedig ar ein profiadau o’r Rhaglen ORP a mentrau tai eraill yng Nghymru.

Mae’r datganiad polisi’n ymdrin â Rhan 1 – gwasanaeth sy’n cymryd lle’r Rhaglen bresennol, fydd yn seiliedig ar alw.

Pwy i’w helpu

Dylai pob aelwyd yng Nghymru, nid dim ond y rheini sydd mewn neu ar fin bod mewn tlodi tanwydd, gael manteisio ar y Rhaglen Cartrefi Clyd am gyngor a help ar sut orau i wneud eu cartrefi’n fwy ynni effeithlon, a sut i ariannu mesurau. Mae hyn yn efelychu'r gwasanaeth presennol, sydd ar gael i bob cartref, waeth beth yw ei ddeiliadaeth a’i incwm. Wrth i dechnolegau newydd ddod yn fwy cyffredin, rydym yn cydnabod y gallai fod angen cyngor a help ychwanegol ar ddeiliaid tai, er enghraifft wrth iddynt newid i wres carbon isel.

Mewn perthynas â gosod mesurau ynni effeithlon, mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylai'r Rhaglen Cartrefi Clyd ganolbwyntio’i hymdrechion a’i chyllid lle bo’i angen, ar wneud aelwydydd sydd leiaf abl i dalu am eu gwelliannau eu hunain yn fwy ynni effeithlon (h.y. cartrefi sydd mewn, neu mewn perygl o fod mewn tlodi tanwydd a'r rhai mewn tlodi tanwydd difrifol). Hynny yn y sectorau meddiannydd-berchennog, rhentu preifat a thai cydweithredol. Mae'r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP) a Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) yn ymdrin ag arbed ynni yn y sector tai cymdeithasol.

Mae angen caboli’r amodau ynghylch pwy sy’n gymwys a geir yn y Rhaglen bresennol. I fod yn gymwys am gymorth ariannol ar hyn o bryd, rhaid bod aelodau’r aelwyd yn derbyn budd-daliadau’n sy’n dibynnu ar brawf modd, a’u bod yn byw mewn annedd preifat sydd â Gradd Perfformiad Ynni (EPC) o E neu waeth. 

Er mwyn bod yn gymwys am gymorth y Rhaglen newydd gyda mesurau arbed ynni, dyma’r amodau y bydd yn rhaid eu bodloni: 

  • Trothwy incwm isel, yn hytrach na budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd. Bydd hynny’n ffordd well o dargedu’r tlotaf yn ein cymdeithas. 
  • Anheddau sydd ag EPC o E neu is

Bydd pobl sydd â chyflwr iechyd cydnabyddedig (fel cyflwr cronig sy’n gysylltiedig ag anadlu, cylchrediad y gwaed neu iechyd meddwl) sy’n byw mewn annedd ag EPC o D hefyd yn gymwys. Caiff aelwyd incwm isel mewn annedd Gradd D sydd heb gyflwr iechyd ei rhoi ar restr wrth gefn. Caiff y rhestr honno ei hadolygu’n rheolaidd i sicrhau ein bod yn gweithio ar gymaint o brosiectau â phosibl. Fel y Rhaglen bresennol, ni chaiff cartrefi cymwys sydd heb gael Gradd ei gwahardd rhag ymgeisio; bydd cartref ymgeiswyr sydd o dan y trothwy incwm isel yn cael ei asesu, gan benderfynu a fyddan nhw’n gallu cael cymorth. 

Mae’r Rhaglen bresennol yn gallu helpu cartrefi preifat hefyd sydd wedi’u cofrestru fel busnesau cyn belled â’u bod yn bodloni amodau penodol. Byddwn yn esbonio hyn yn glir yn y Rhaglen newydd. 

Mewn adeilad sydd â mwy nag un annedd e.e. bloc o fflatiau, mae’n debygol y byddai’n well cynnal mesurau arbed ynni, yn enwedig gwelliannau i adeiladwaith, ar yr adeilad cyfan yn hytrach na’r anheddau unigol ar wahân. Efallai y caiff yr amodau ynghylch pwy sy’n gymwys eu newid rhag rhoi aelwydydd sy’n dlawd o ran tanwydd sy’n rhannu adeiladau ac sy’n byw wrth ymyl aelwydydd nad ydynt yn gymwys, o dan anfantais. Yn unol ag arfer presennol Llywodraeth Cymru, cyfyngir ar nifer eiddo landlordiaid gaiff manteisio ar y cynllun. 

Amcangyfrifir bod yr argyfwng costau byw a’r cynnydd ym mhrisiau ynni wedi gwneud hyd at 45% o Gartrefi Cymru yn dlawd o ran tanwydd. Mae’n bwysicach nag erioed felly’n bod yn targedu aelwydydd yn well er mwyn helpu’r rhai sydd â’r angen mwyaf ac a all elwa fwyaf ar gael cymorth, er enghraifft y rheini sy’n byw yn y cartrefi gwaethaf eu hadeiladwaith, cartrefi oddi ar y grid a chartrefi gwledig ac ati. Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol a chwmnïau ynni i fanteisio’n llawn ar ffrydiau ariannu eraill fel y Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni. 

Beth ydym yn ei wneud: mesurau

Fel rhan sylfaenol o’r Rhaglen Cartrefi Clyd newydd, rhaid deall taith pob cartref at ddyfodol carbon isel ac at fod yn ynni effeithiol. Bydd y ddealltwriaeth honno’n debygol o fod yn seiliedig ar Asesiad o’r Tŷ Cyfan a chaiff y canlyniad ei grynhoi mewn ‘pasbort’, i bawb ddeall pa waith sydd ei angen ac ym mha drefn y dylid ei wneud. Gellir felly rhoi’r mesurau ar waith ar yr amser gorau. 

Ceir mesurau yn y Rhaglen bresennol i wneud cartrefi’n fwy ynni effeithlon sy’n dal i fod yn berthnasol ac yn gymwys, felly disgwylir eu cadw. 

  • Yr Adeiladwaith yn Gyntaf – Ni fydd modd cynnal mesurau gwresogi ac awyru nes bod defnydd yr adeilad o wres wedi’i wella at safon ddigonol i allu eu cyfiawnhau. 
  • Rhoddir blaenoriaeth i dechnolegau carbon isel pan fydd hynny’n gwneud synnwyr. 

Bydd Llywodraeth Cymru am weld codi’r cap ar y gyllideb a roddir i bob cartref. Hynny gan fod y gwaith ôl-osod sydd ei angen i newid o danwydd ffosil i ddyfodol glanach, carbon isel yn fwy beichus. Bydd hynny, gyda’r pasbort, yn help i asiantwyr allu gwneud y newidiadau sydd eu hangen ar yr adegau gorau posibl er lles aelwydydd sydd angen yr help fwyaf ac i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol. Byddwn yn disgwyl i gartref gamu i fyny o leiaf un band EPC neu gyrraedd o leiaf band E – pa un bynnag yw’r uchaf.

Mae'r Rhaglen bresennol wedi'i chyfyngu gan y Rheoliadau a dim ond un cais gan bob cartref a ganiateir. Bwriad Llywodraeth Cymru yw diweddaru'r Rheoliadau i ganiatáu nifer o geisiadau, sy'n golygu os yw aelwyd sydd wedi cael cymorth cynllun Cartrefi Clyd eisoes, yn dal i fod mewn tlodi tanwydd ac yn dal i fod yn gymwys, gall wneud cais am gymorth ychwanegol. Mae Llywodraeth Cymru'n disgwyl i aelwydydd yn y categori hwn fod yn lleiafrif bach o’r holl grantiau a roddir. Byddai’n rhaid cymharu’r mesurau blaenorol a gymerwyd â 'phasbort' y cartref.
Bydd canolbwyntio adnoddau ar waith i ôl-osod cartrefi’r tlotaf yn y gymdeithas yn tanlinellu ein hymrwymiad i drawsnewid cyfiawn a bydd yn ein helpu i ddysgu gwersi fydd yn ein helpu i wneud gwaith ôl-osod ehangach a thrylwyrach yn y dyfodol. Hefyd, mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod bod angen ysgogi’r sector i ddysgu sgiliau a datblygu cadwyni cyflenwi. Gallai’r rheini sy’n mabwysiadu gwresogi carbon isel yn fuan dalu premiwm am hyn. 

Er ein bod yn cydnabod bod y llwybr hwn i ddatgarboneiddio yn un tymor hir, mae'n bwysig bod gan y Rhaglen Cartrefi Clyd newydd rywfaint o hyblygrwydd o dan amgylchiadau eithriadol i allu helpu’r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Pan nad yw’n ymarferol newid i ffynhonnell wresogi carbon is, naill ai am nad yw’r dechnegol yn bosibl (er enghraifft, mewn adeiladau rhestredig) neu am y byddai’r costau rhedeg yn rhy uchel, gellid ystyried mesurau amgen cyn belled â’u bod yn gostwng biliau ynni ac allyriadau carbon yr aelwyd.  

Er enghraifft, pe bai’r newid oddi wrth danwydd ffosil i system wresogi drydan yn golygu cynnydd sylweddol yn y costau rhedeg (oherwydd cymhlethdodau'r gwelliannau i’r adeiladwaith), gellid rhoi blaenoriaeth i drwsio boeleri nwy ynni-effeithlon.

Gellid ystyried technolegau arloesol eraill fel pympiau gwres hybrid neu systemau cymunedol os nad yw trwsio yn opsiwn cost-effeithiol neu ymarferol. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y bydd y Rhaglen Cartrefi Clyd newydd yn caniatáu buddsoddi hirdymor mewn system wresogi â thanwydd ffosil. 

Ers lansio’r cynllun talebau Cartrefi Gwyrdd yn Lloegr yn 2020, mae galw wedi bod ar Lywodraeth Cymru i ddarparu drysau a ffenestri newydd mewn cartrefi sy’n dlawd o ran tanwydd. Er bod y manteision o ran gwresogi a geir trwy ddarparu drysau a ffenestri newydd yn fach fel arfer o'u cymharu â waliau, lloriau a thoeau, gallent gyfrannu at wneud y cartref yn fwy aerdyn a chyfforddus. Gellid eu hystyried pe gallai peidio â’u darparu effeithio'n sylweddol ac yn andwyol ar fanteision y mesurau newydd.

Bydd y Rhaglen newydd yn ystyried rhoi grant ar gyfer gwaith ôl-osod ynni effeithiol neu gynnal a chadw na fyddai’n gofyn am lawer o arian i’w wneud. Er enghraifft, gosod teils to newydd er mwyn gallu gosod paneli solar. Penderfynir ar derfyn ariannol ymlaen llaw. 

Mae ychydig yn ddrutach cynnal gwaith cynnal a chadw ar systemau carbon isel nag ar systemau tanwydd ffosil. Bydd y Rhaglen newydd yn cynnwys cynyddu’r cymorth ar gyfer gwasanaethu technolegau carbon isel, a’i gynnig am gyfnod hwy na’r 12 mis presennol. 

Fel gyda’r Rhaglen bresennol, byddwn yn gosod amodau ar eich cyflenwyr i wneud yn siŵr eu bod yn defnyddio contractwyr lleol ac yn cadw cymaint o fudd y contract yng Nghymru. 

Rhaid defnyddio asiant nad yw’n rhan o’r Asesiad o’r Tŷ Cyfan i wneud y gwaith gosod.

Beth ydym yn ei wneud: Cyngor

Mae Llywodraeth Cymru’n deall bod angen cyngor da a dibynadwy ar aelwydydd sy’n datgarboneiddio. Er mwyn cynnal hyder pobl yn y cyngor a roddir gan y Rhaglen Cartrefi Clyd, mae’n bwysig ei fod yn annibynnol ar y rheini sy’n gwneud y gwaith gosod o dan y cynllun. 

Mae Llywodraeth Cymru felly’n ymrwymo i gynnig cyngor di-dâl annibynnol ar arbed ynni i bob aelwyd yng Nghymru. Bydd y cyngor hwn yn arbennig o bwysig i’r aelwydydd sydd am gael technolegau newydd fel pympiau gwres, paneli solar, batrïau storio, gan y gallen nhw fod yn newydd ac yn anghyfarwydd iddynt. 

Bydd Llywodraeth Cymru am ddod â’r holl gyngor ar ynni carbon isel sy’n cael ei ddatblygu a’i gynnig gan raglenni eraill ynghyd, fel bod cyngor dibynadwy a hawdd cael ato ar gael i bob aelwyd yng Nghymru. 

Safonau

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod aelwydydd yn cael eu diogelu rhag cael mesurau anaddas neu o safon isel wedi’u gosod. Mae’r Rhaglen bresennol yn gweithio at safon PAS 2030 ac mae wedi mabwysiadu rhai o egwyddorion PAS 2035. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i hyn barhau yn y Rhaglen newydd.

Mae sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud at safonau PAS yn rhoi sail cyfreithiol iddo a hefyd yn cynnig ffrydiau ariannol eraill fel y Cynllun Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO)4 y byddwn am i gymaint o aelwydydd cymwys â phosibl yng Nghymru ymgeisio amdano.

Mae Llywodraeth Cymru’n credu y gellid sicrhau annibyniaeth y cyngor a’r cwmni sy’n gosod y mesurau trwy gynnal archwiliadau ar hap o ansawdd gwaith yr asiantwyr sy’n gosod.

Monitro

Mae angen trefniadau monitro a gwerthuso cadarn.  Dylai’r llinynnau mesur fod yn ystyrlon ac yn berthnasol i amcanion y Rhaglen. 
Fel a nodwyd yn y cynllun tlodi tanwydd a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021, derbyniodd Llywodraeth Cymru bod angen i’r amcanion fod yn seiliedig ar gyflawni. 

Mae swyddogion yn disgwyl cynnwys targedau lleihau carbon blynyddol ac adroddiadau arnynt, hynny o safbwynt yr aelwydydd unigol sy’n elwa ar y rhaglen a hefyd o safbwynt y rhaglen gyfan. 

Bydd angen i’r Rhaglen asesu: 

  • effaith y mesurau ar aelwydydd unigol, o ran eu biliau e.e. dylai’r mesurau arbed ynni, ar ôl eu gosod, arwain at ostyngiad yn yr oriau cilowat sydd eu hangen i gynnal lefel foddhaol o wres yn y cartref. 
  • effaith y cynllun ar dlodi tanwydd.
  • arbedion carbon dros oes yr ased gafodd ei ôl-osod, wedi’i fesur mewn CO2e.
  • Y cyfraniad at fanteision cymunedol ehangach, fel sgiliau a’r economi sylfaen. 

Mae angen trefniadau cryf ar gyfer rheoli contractau, gan gynnwys monitro tynnach sut y cydymffurfir â’r contract, edrych a oes amrywiaeth yng nghostau cyflenwi a gosod rhai mesurau arbed ynni a gwella’r wybodaeth reoli. 

Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod bod angen proses apelio glir ac yn ymrwymo i’w darparu. 

Integreiddio

Mae Rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru’n gwneud cyfraniad arwyddocaol at o leiaf wyth o amcanion llesiant Llywodraeth Cymru. 
Mae gweithredu dros ddefnyddio ynni’n effeithiol yn ffactor bwysig mewn twf gwyrdd ac wrth ddatblygu swyddi, sgiliau a chadwyni cyflenwi. Mae’n angenrheidiol i gyflawni’n hymrwymiadau i leihau allyriadau carbon ac mae’n mynd i’r afael yn uniongyrchol â thlodi tanwydd a lleihau biliau ynni domestig. 

Mae Llywodraeth Cymru yn credu y byddai ystyried y stoc dai gyfan wrth fynd i’r afael â datgarboneiddio yn strategaeth tymor hir ar gyfer gwneud cartrefi’n fwy ynni effeithlon, lleihau tlodi tanwydd a datgarboneiddio’r sector. Bydd hynny’n help i gwrdd â disgwyliadau ail gyllideb garbon Net Sero Cymru ac yn integreiddio â’r amcanion tai ehangach.

Er mwyn gallu mynd i’r afael â datgarboneiddio ar sail y stoc dai gyfan, bydd Llywodraeth Cymru yn dysgu gwersi’r Rhaglen Cartrefi Clyd bresennol a’r Rhaglen ôl-osod wedi’i Optimeiddio (ORP) ac alinio â chynlluniau eraill Llywodraeth Cymru fel Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS) a Chynlluniau Ynni’r Ardal Leol.  Byddwn yn ystyried hefyd y dystiolaeth fydd yn sail ar gyfer ein Strategaeth Wres a gyhoeddir maes o law a fydd yn un o’n prif raglenni. 

Elfen graidd o’r Rhaglen newydd fydd dysgu gwersi’r prosiectau cydweithio a phartneriaethau a gynhaliwyd trwy’n rhaglenni tai niferus er enghraifft prosiectau llwyddiannus ag awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, grwpiau cymunedol ac eraill. 

Mae Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi Cynllun gweithredu sgiliau sero net. Bydd y Rhaglen Cartrefi Clyd yn rhan bwysig ohono, gan gefnogi prentisiaethau a helpu i wella sgiliau yn y crefftau gwres carbon isel a meysydd arbed ynni cysylltiedig. 

Byddwn yn annog cyflenwyr i ddilyn esiampl ymrwymiad Llywodraeth Cymru i brynu deunyddiau o Gymru. Er enghraifft trwy:

  • Defnyddio deunydd cynaliadwy neu wedi’u hailgylchu lle medrir a sicrhau bod allyriadau corfforedig y cynnyrch mor fach â phosibl;
  • Cefnogi datblygiad y marchnadoedd a’r sgiliau perthnasol;
  • Sicrhau nad yw’r rhaglen yn creu canlyniadau anfwriadol trwy ddefnyddio deunydd sydd â lefel uchel o garbon corfforedig.