Neidio i'r prif gynnwy

Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Diffinnir Tlodi Tanwydd fel methu â chynnal system wresogi foddhaol am gost fforddiadwy. Yng Nghymru, aelwydydd mewn tlodi tanwydd yw'r rhai y mae angen iddynt dalu mwy na 10% o incwm llawn y cartref er mwyn cynnal system wresogi foddhaol. Ystyrir bod y rhai sy'n gwario mwy nag 20% mewn tlodi tanwydd difrifol. Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun i fynd i'r afael â thlodi tanwydd 2021-2035. Erbyn 2035, ein bwriad yw na fydd mwy na 5% o holl aelwydydd Cymru yn byw mewn tlodi tanwydd ac na fydd unrhyw aelwyd mewn tlodi tanwydd parhaol na difrifol. 

Mae cynllun lleihau allyriadau Cymru Sero Net yn disgrifio sut y byddwn yn lleihau allyriadau ledled Cymru, gan weithio gyda llywodraethau lleol a rhanbarthol, busnesau a dinasyddion. Yn 2021, roedd cartrefi Cymru yn cyfrif am oddeutu 10% o'r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru (nodir y caiff allyriadau a yrrir gan eu defnydd o drydan eu cyfrif ar wahân). Roedd y cynllun yn nodi bod angen iddynt fod yn sero net erbyn 2050, gydag adeiladau cyhoeddus a thai cymdeithasol yn arwain y ffordd. 

Bydd y Rhaglen Cartrefi Clyd newydd yn ymateb i'r argyfwng costau byw cyfredol, mynd i'r afael ag allyriadau o'r sector tai preswyl, hyrwyddo deunyddiau Cymraeg cynaliadwy, cefnogi sgiliau a swyddi Cymraeg a dysgu o wersi a phrofiad a enillwyd yn Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio Llywodraeth Cymru. 

Bydd y Rhaglen Cartrefi Clyd yn dilyn dull gweithredu ffabrig, y gwaethaf a charbon isel yn gyntaf, er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni hirdymor y cartrefi incwm isel lleiaf thermol effeithlon yng Nghymru. Bydd yn dilyn dull gweithredu dwy ffordd; trwy ddarparu gwasanaeth cynghori a thrwy wella cartrefi'r bobl sy'n dlawd o ran tanwydd yn ffisegol. Bydd gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi yn gostwng y galw am wres, ac felly'n gostwng eu biliau ynni. Mae hyn yn golygu y bydd deiliaid tai yn fwy tebygol o allu fforddio system wresogi foddhaol, gan wella cysur mewnol. Mae oerfel gormodol mewn cartrefi yn y DU yn costio £857miliwn (BRE cost of poor housing) i'r GIG yn flynyddol  a bydd y cynllun newydd yn parhau i helpu i atal canlyniadau iechyd gwael, lleihau nifer y teithiau i'r ysbyty/apwyntiadau â meddygon/presgripsiynau yng Nghymru. Er bod costau cyfalaf y cynllun yn uchel, bydd yr effeithiau cadarnhaol tebygol yn arbed costau i gymdeithas yn y tymor hir. Mae adroddiad Cost Lawn Tai Gwael yng Nghymru 2017-2018 (Iechyd Cyoeddus Cymru) yn amcangyfrif y gallai ond mynd i'r afael ag oerfel gormodol arbed dros £41m y flwyddyn i'r GIG a chyfnod ad-dalu o 4.8 blwyddyn yn unig. Er y gallai'r gwaith gael effaith aflonyddol ar breswylwyr, bydd yn cael ei wneud cyn gynted â phosibl gyda chyn lleied o aflonyddwch â phosibl. 

Mae mesurau carbon isel fel pympiau gwres neu baneli solar gyda batri o fewn cwmpas y cynllun newydd a byddant yn gwneud aelwydydd yn fwy cydnerth wrth wynebu codiadau i brisiau yn y dyfodol.  Bydd gwella effeithlonrwydd ynni a symud i fathau o wres preswyl glanach hefyd yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae'r cynllun newydd wedi'i fodelu i arbed rhyw 2.11 miliwn tunnell o garbon, a fydd yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac yn cael effaith gadarnhaol uniongyrchol ar fioamrywiaeth. Canfu adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019 gan Gyfoeth Naturiol Cymru  fod 1 o bob 6 rhywogaeth yn wynebu risg o ddifodiant, ac ers i waith monitro gwyddonol trwyadl ddechrau yn yr 1970au, o'r 3,902 o rywogaethau a aseswyd yng Nghymru, mae 73 ohonynt wedi'u colli.

Gellir hefyd gyflawni buddiannau pellach, fel cynyddu niferoedd y plant mewn addysg, lleihau problemau iechyd meddwl, gwella cynhyrchiant economaidd ehangach o bosibl a hefyd gynyddu niferoedd y swyddi carbon isel drwy'r cadwyni cyflenwi gwaith wedi'u hôl-osod. 

Bydd y cynllun yn cynnwys meini prawf i leihau gwastraff wrth iddo gael ei gyflawni, a hynny trwy gronni adnoddau a defnyddio system gylchol o ailgylchu gymaint â phosibl. Er mwyn lleihau allyriadau, bydd masnachau lleol yn cael eu ffafrio gan y bydd hyn yn lleihau'r teithio sy'n ofynnol. Cynhaliodd BRE waith ymchwil i'r masnachau ôl-osod sydd ar gael yng Nghymru, ac er bod prinder contractwyr sydd wrthi'n cyflawni mesurau effeithlonrwydd ynni wedi'u nodi, mae masnachau addas eraill ar gael a allai gael eu huwchsgilio i gyflawni'r mesurau hyn. 

Drwy gydol datblygiad y rhaglen hon, mae nifer o bartneriaid wedi'u nodi a all rannu diddordeb yn y cynnig hwn. Ymhlith y rhain mae Llywodraeth Cymru, elusennau tlodi tanwydd a grwpiau eraill sy'n canolbwyntio ar ddinasyddion, cyrff anllywodraethol Newid Hinsawdd, cwmnïau ynni, masnachau adeiladu Cymreig, gweithgynhyrchwyr cynnyrch, cwmnïau technoleg adnewyddadwy a darparwyr Tai Cymru. 

Er mwyn ymgysylltu â'r partneriaid hyn, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu eu barn ar y rhaglen, gan gynnwys sawl gweithdy. Casglwyd dros 50 o ymatebion i'r ymgynghoriad ysgrifenedig a mynychodd dros 100 o gynrychiolwyr y gweithdai. Roedd hyn yn ogystal â'r Grŵp Cynghori Tlodi Tanwydd parhaus, sy'n ffynhonnell her a chymorth amhrisiadwy. Gwnaeth adroddiad oedd yn casglu ac yn asesu'r gwersi a ddysgwyd o fersiynau blaenorol y cynllun lywio dull gweithredu'r cynllun newydd hefyd. Cynhaliwyd digwyddiadau ymgysylltu â chyflenwyr i roi cyfle i fasnachau lleol leisio'u barn ar y rhaglen. 

Amcangyfrifir y bydd y cynnig yn costio oddeutu £260 miliwn dros oes lawn y rhaglen a bydd yn cael ei hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, bydd y gwasanaethau cynghori yn cyfeirio pobl at gyllid y Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO4), Cynllun Inswleiddio Prydain Fawr a chyllid y Cynllun Uwchraddio Boeleri o Lywodraeth y DU ac yn ceisio manteisio i'r eithaf arnynt. Bydd y rhaglen yn cadw'n fyw i gynlluniau newydd y DU ac yn adolygu cyfleoedd trosoli yn rheolaidd er mwyn gwireddu unrhyw arbedion posibl. 

Wrth i fân ddiwygiadau i reoliadau HEES gael eu cynllunio, bydd y rhain yn destun Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar wahân.

Casgliad

Sut mae'r bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi helpu i'w ddatblygu?

Ar aelwydydd incwm isel sy'n byw mewn Tlodi Tanwydd y bydd y Rhaglen Cartrefi Clyd yn cael yr effaith fwyaf. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus i gael adborth ar y rhaglen. Ymatebodd sawl elusen tlodi tanwydd, gan gynnwys National Energy Action a Chartrefi Cynnes gydag awgrymiadau a chynigion ar gyfer y rhaglen. Yn ystod y cyfnod ymgynghori, cynhaliwyd gweithdai rhithwir i randdeiliaid ar 28 Chwefror, 1 a 3 Mawrth. Roedd y gweithdai'n cynnwys cyflwyniadau agoriadol gan Lywodraeth Cymru a National Energy Action, gyda sesiynau grŵp thematig i ddilyn. Gan fod deiliaid tai unigol wedi'u hystyried yn annhebygol o ymateb, ystyriwyd gwersi a ddysgwyd o fersiynau blaenorol y cynllun hefyd.   

Mae natur y rhaglen yn golygu mai oedolion sydd fwyaf tebygol o ryngweithio'n uniongyrchol â'r rhaglen, felly nid ystyriwyd ei bod yn briodol ymgynghori'n uniongyrchol â phlant. Ymatebodd y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant i'r ymgynghoriad cyhoeddus, a defnyddiwyd eu safbwyntiau, ymhlith ymatebion eraill i'r ymgynghoriad i lywio dyluniad y cynllun. Mae'r Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb yn cadarnhau bod yr ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad gan sefydliadau a oedd yn cynrychioli grwpiau gwarchodedig amrywiol fel oedran neu hil, wedi cyfrannu at ddatblygiad y rhaglen hefyd. 

Bydd y gwasanaeth a ddarperir gan y rhaglen ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd y rhaglen yn creu cyfle i ddarparwyr gwasanaethau sy'n siarad Cymraeg a fydd yn rhyngweithio gyda phreswylwyr yn rheolaidd i ôl-osod yr aelwyd. Bydd hyn yn sicrhau y gall preswylwyr sy'n siarad Cymraeg gyfleu unrhyw ymholiadau neu bryderon a allai fod ganddynt yn effeithiol gyda'r gwasanaeth.

Pa effeithiau, yn gadarnhaol ac yn negyddol, fu'r rhai mwyaf arwyddocaol?

Bydd Rhaglen newydd Cartrefi Clyd yn parhau i weithredu fel prif ddull Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â thlodi tanwydd a bydd hefyd yn cyfrannu tuag at gyflawni Cymru Sero Net erbyn 2050. Bydd effaith sylweddol ar aelwydydd cymwys yng Nghymru sydd mewn tlodi tanwydd ar hyn o bryd a byddwn yn gweld arbediad ar eu biliau ynni o ganlyniad i welliannau effeithlonrwydd ynni i'w cartrefi fel gwelliannau i adeiladwaith neu dechnoleg carbon isel newydd. Gall y gwelliannau effeithlonrwydd ynni hefyd alluogi aelwydydd mewn tlodi tanwydd i wresogi eu cartrefi i lefel fwy cyfforddus.

Amcangyfrifir bod y gwelliant hwn mewn cysur thermol hefyd yn galluogi aelwydydd mewn tlodi tanwydd i wresogi eu cartrefi i lefel fwy cyfforddus. Mae'n debygol hefyd y bydd y gwelliant yn galluogi rhai preswylwyr agored i niwed i aros yn eu cartrefi am gyfnod hwy.

Disgwylir i'r rhaglen arwain at fuddiannau sylweddol i gymdeithas oherwydd y gostyngiad mewn allyriadau carbon. Bydd y gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn arbed amcangyfrif o 2.11 miliwn tunnell o garbon. Gan ddefnyddio canllawiau Trysorlys EF, amcangyfrifir y bydd hyn yn darparu buddiannau cymdeithasol gwerth £314m. Bydd arbed 2.11 miliwn tunnell o garbon yn gam cadarnhaol tuag at gyflawni nodau Sero Net Cymru. Bydd cyflawni'r nodau hyn yn gam tuag at ddadwneud rhywfaint o'r difrod a wnaed gan newid hinsawdd ac yn dechrau mynd i'r afael â'r cynnydd yn y tymereddau byd-eang. Bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar fioamrywiaeth yng Nghymru. 

Mae'r arbediad hwn ar filiau ynni yn hyrwyddo gwariant mewn meysydd eraill, gan alluogi aelwydydd i wario arian yn eu cymuned leol ac mewn lleoedd eraill ledled Cymru. Bydd y rhaglen yn ffynhonnell creu swyddi yn y gadwyn gyflenwi ar gyfer ôl-osod, gan gyflogi masnachau lleol ac yn rhoi hwb i'r galw am y sgiliau hyn mewn ardaloedd lleol. Bydd cynlluniau cymunedol fel systemau gwresogi cymunedol, systemau inswleiddio adeiladau cyfan a all effeithio'n gadarnhaol ar sawl cartref yn cael eu harchwilio fel rhan o'r rhaglen, gan ychwanegu at yr ymdeimlad o gymuned fydd yn cael ei ddatblygu drwy gynyddu incwm gwario trwy filiau ynni is. 

Bydd y rhaglen yn cael ei rhoi ar waith ledled Cymru, gan ymestyn dros ardaloedd trefol a gwledig. Bydd yr ardaloedd gwledig hyn, sy'n cynnwys cyfrannau uwch o aelwydydd sy'n siarad Cymraeg, yn teimlo budd sylweddol, a thrwy gryfhau'r cymunedau hyn, gellir cryfhau'r Gymraeg hefyd. 

Drwy ymgysylltu â'r rhanddeiliaid yn y broses o wneud penderfyniadau, daeth pwysigrwydd sicrhau y rhoddir cymorth a mesurau i'r rhai sydd eu hangen fwyaf yn glir. I'r perwyl hwn, bydd y rhaglen yn gweithredu dull “y gwaethaf yn gyntaf”, sy'n mynd i'r afael â'r aelwydydd incwm isel hynny ac sy'n byw yn y tai lleiaf ynni effeithlon fel mater o flaenoriaeth. 

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynnig cyngor diduedd, rhad ac am ddim ar arbedion ynni i'r holl ddeiliaid tai yng Nghymru. Bydd hyn yn arbennig o bwysig i ddeiliaid tai a chanddynt dechnolegau newydd wedi'u gosod fel pympiau gwres, solar ffotofoltäig, batri storio, gan fod y rhain o bosibl yn newydd ac yn anghyfarwydd i'w gweithredu. Byddwn yn awyddus i ddwyn ynghyd gyngor ar garbon isel sy'n cael ei ddatblygu a'i gynnig ym mhob chwaer raglen, er mwyn cefnogi pob aelwyd yng Nghymru i allu cael cyngor dibynadwy a hygyrch.

Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig: 

•    yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant;  a/neu,
•    yn osgoi, yn lleihau neu'n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Mae'r Rhaglen Lywodraethu (Mehefin 2021) yn nodi'r 10 amcan llesiant y bydd y llywodraeth yn eu defnyddio i wneud y mwyaf o'i chyfraniad at 7 nod llesiant hirdymor Cymru a'r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i'w cyflawni. Bydd y rhaglen yn cyflawni'r nodau llesiant hyn drwy fynd i'r afael â thlodi tanwydd a symud i ddileu'r anghydraddoldeb economaidd hwn. Bydd hyn yn arwain at Gymru sy'n Fwy Cyfartal. Bydd yr arbedion carbon sy'n gysylltiedig â'r rhaglen hon, ynghyd â'r nifer sylweddol o swyddi fydd yn cael eu creu mewn cysylltiad â gweithredu rhaglen o'r maint hwn yn dechrau adeiladu tuag at economi gryfach a gwyrddach ac yn gwneud cynnydd tuag at ddatgarboneiddio. Bydd hyn yn cyfrannu at Gymru sy'n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang, Cymru Lewyrchus a Chymru Gydnerth wrth i'r aelwydydd gael eu gwella. Mae cynnwys cynlluniau cymunedol, ynghyd â chynnydd mewn incwm gwario, yn golygu y gall pobl Cymru dreulio mwy o amser yn ymgysylltu â'u cymuned a chyfrannu at Gymru o Gymunedau Cydlynus. Bydd sicrhau bod y rhaglen ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg yn cyfrannu at Gymru â Diwylliant Bywiog lle mae'r Gymraeg yn Ffynnu. 

Gwneir y gorau o'r effeithiau y manylir arnynt uchod drwy adolygu'r rhaglen yn ofalus wrth iddi fynd yn ei blaen. Bydd mesurau ond yn cael eu cymhwyso i aelwydydd ar ôl Asesiad Tŷ Cyfan, yn unol â PAS 2035. Bydd hyn yn sicrhau y caiff y mesurau mwyaf priodol eu cymhwyso i bob aelwyd. Er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn cadw i fyny â'r dechnoleg newydd, bydd disgwyl i weithredwr y cynllun ganiatáu i dechnoleg newydd gael ei defnyddio, ar ôl iddi gael ei phrofi'n drwyadl i'r safonau perthnasol. Trwy ddilyn fersiwn ddiweddaraf PAS 2035 yn agos, gall y rhaglen osgoi effeithiau negyddol sy'n gysylltiedig â gosod mesurau anghywir. Bydd hyn yn cynnwys unrhyw adeiladau traddodiadol a gwarchodedig sy'n cael eu cyfrif amdanynt o dan PAS 2035. 

Gwneir y mwyaf o effaith y cynllun trwy gynnwys cyngor am ddim ar effeithlonrwydd ynni neu drwy gyfeirio at gyngor addas a fydd ar gael i bob aelwyd yng Nghymru. Mae hyn yn bwysig iawn er mwyn helpu deiliaid tai i bontio i dechnoleg carbon isel ac i'n helpu i gyrraedd ein hallyriadau targed Sero Net. 

Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo a phan ddaw i ben? 

Mae fersiynau blaenorol o'r Rhaglen Cartrefi Clyd wedi bod yn destun proses fonitro ac adolygu gan ddefnyddio darparwr sicrhau ansawdd annibynnol. Byddwn yn cadw at y dull gweithredu hwn o fewn y rhaglen newydd, gydag elfennau sicrhau ansawdd gwell sydd i'w canfod o fewn PAS 2035. O dan PAS 2035, bydd y Cydlynydd Ôl-osod cysylltiedig yn “ensure that every retrofit project is subject to monitoring and evaluation to determine whether the intended outcomes of the retrofit project have been realized, and to identify and learn from any project-specific or systematic problems with the retrofit risk assessment, the dwelling assessment, the retrofit design, the installation of EEMs (Energy Efficiency Measures) or the testing, commissioning or handover of EEMs.”  

Bydd arolygiadau sy'n arwain at gwblhau adroddiadau blynyddol gan y darparwr Sicrhau Ansawdd Annibynnol yn mynd ati i asesu a yw mesurau'n cael eu cymhwyso yn y ffordd briodol. Bydd y gwasanaethau cyngor hefyd yn destun arolygiadau i sicrhau bod ansawdd y cyngor yn briodol.