Rhaglen Clystyrau Darbodus Toyota Cymru
Cyfeirnod y cymhorthdal SC11239 - Cynllun i helpu busnesau i dyfu drwy sbarduno cynhyrchiant rhanbarthol a hybu cystadleurwydd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pwyntiau i'w nodi
Os ydych chi'n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, mae'n rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
1. Rhanbarth
Cymru gyfan
2. Teitl y cynllun cymhorthdal
Rhaglen Clystyrau Darbodus Toyota Cymru
3. Sail gyfreithiol yn y DU
- Adran 60(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006
- Adran 1(2), 1(3)d ac 1(7)f o Ddeddf Asiantaeth Datblygu Cymru 1975
4. Amcan polisi penodol y cynllun
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn seiliedig ar sawl egwyddor allweddol i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Yn gyffredinol, mae cynhyrchiant cenedlaethol uwch yn arwain at safonau byw materol uwch ac enillion uwch. Mae Cymru yn wynebu problem o ran cynhyrchiant, gyda’r allbwn fesul awr sy'n cael ei weithio yn un o'r isaf ymhlith holl genhedloedd a rhanbarthau'r DU. Mae ein Galwadau i Weithredu wedi'u creu i fynd i'r afael â'r mater hwn.
Mae gan Lywodraeth Cymru amcan polisi i ddarparu economi fwy ffyniannus sy'n gweithredu o fewn terfynau amgylcheddol diogel ac sy'n hyrwyddo llesiant cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol drwy ein Cenhadaeth Economaidd. Mae hyn yn diffinio cynhyrchiant fel rhywbeth sy'n hanfodol ar gyfer economi gynaliadwy sy'n tyfu ac sy'n cynhyrchu mwy gyda llai, yn arloesi, yn creu enillion ac yn gwobrwyo gweithwyr a pherchnogion busnes. Mae cynhyrchiant a busnesau sy’n tyfu yn darparu sail ar gyfer ehangu’r sylfaen drethu, sy’n cynhyrchu adnoddau’r llywodraeth i ariannu’r buddsoddiadau hyn.
Mae fframwaith "Dyfodol Gweithgynhyrchu i Gymru" Llywodraeth Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd cefnogi cynhyrchiant drwy sbardunau amrywiol megis sgiliau, arloesedd a chystadleurwydd. Mae'r fframwaith yn tynnu sylw at yr angen i chwilio am gyfleoedd yng Nghymru a rhanbarthau cyffelyb i rannu arferion gorau a meincnodi perfformiad.
Mae Llywodraeth Cymru eisiau helpu busnesau i dyfu drwy sbarduno cynhyrchiant rhanbarthol a hybu cystadleurwydd.
5. Diben y cynllun
Mae rhaglen Clystyrau Darbodus Toyota wedi'i sefydlu i gefnogi cwmnïau o Gymru i wella eu perfformiad gweithredol a chynyddu lefelau cynhyrchiant drwy roi blaenoriaeth i ddatblygu pobl, a hynny drwy ddarparu prosiectau gan ddefnyddio dull y Toyota Way, sef meddylfryd systemau.
Mae Cymru yn wynebu problem o ran cynhyrchiant, gyda’r allbwn fesul awr sy'n cael ei weithio yng Nghymru yr isaf ymhlith holl genhedloedd a rhanbarthau'r DU. Y lefel isel hon o gynhyrchiant yw'r prif ffactor sydd i gyfrif am y bwlch o ran y Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) rhwng Cymru a'r DU. Mae'r rhesymau am y diffyg cynhyrchiant hwn yn gymhleth, ac nid oes modd rhoi un ateb syml. Mae buddsoddi mewn cyfalaf dynol, seilwaith a chyfalaf ffisegol; arloesedd a gwyddoniaeth; menter a chystadleuaeth i gyd yn bwysig. Nod y Galwadau i Weithredu hyn yw mynd i'r afael â hyn o fewn Ffyniant i Bawb: Y Cynllun Gweithredu ar yr Economi.
6. Awdurdodau Cyhoeddus sydd wedi'u hawdurdodi i weithredu'r Cynllun
Llywodraeth Cymru
7. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys
Nid oes gan y cynllun unrhyw gyfyngiadau yn seiliedig ar faint neu strwythur. Fodd bynnag, byddai unig berchnogion yn cael eu gwahardd rhag gwneud cais oherwydd natur canlyniadau'r rhaglen.
8. Crynodeb o delerau ac amodau'r cynllun
Mae angen i bob menter sy'n cymryd rhan fod wedi'i lleoli yng Nghymru. Bydd cymhwystra'n cael ei benderfynu gan Toyota Manufacturing UK. Er enghraifft, ni fydd cystadleuwyr Toyota yn gymwys, yn yr un modd ag ymgynghorwyr.
9. Sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau o dan y Cynllun, gan gynnwys crynodeb o unrhyw amodau sy'n ymwneud â chymarebau neu symiau cymhorthdal
Mae angen i bob menter sy'n cymryd rhan fod wedi'i lleoli yng Nghymru. Bydd cymhwystra'n cael ei benderfynu gan Toyota Manufacturing UK. Er enghraifft, ni fydd cystadleuwyr Toyota yn gymwys, yn yr un modd ag ymgynghorwyr.
10. Sectorau i'w cefnogi
- Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota
- Cloddio a chwarela
- Gweithgynhyrchu
- Cyflenwi trydan, nwy, ager ac aerdymheru
- Cludo a storio
- Masnach cyfanwerthu a manwerthu; atgyweirio cerbydau modur a beiciau modur
- Adeiladu
- Cyflenwad dŵr, carthffosiaeth, rheoli gwastraff a gweithgareddau adfer
- Gweithgareddau llety a gwasanaethau bwyd
- Gwybodaeth a chyfathrebu
- Gweithgareddau ariannol ac yswiriant
- Gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol
- Gweithgareddau gweinyddol a gwasanaethau cymorth
- Gweinyddiaeth gyhoeddus ac amddiffyn; nawdd cymdeithasol gorfodol
- Addysg
- Gweithgareddau iechyd pobl a gwaith cymdeithasol
- Y celfyddydau, adloniant a hamdden
11. Hyd y cynllun
1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2030
12. Y gyllideb ar gyfer cymorth o dan y cynllun
£2,000,000
13. Ffurf y cymorth
Grantiau uniongyrchol
14. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau
Mae'r model presennol wedi'i feincnodi a'i ddatblygu yn seiliedig ar fframwaith tebyg a ddyluniwyd gan Enterprise Ireland sydd wedi bod o gymorth mawr i Lywodraeth Cymru wrth rannu eu syniadau ar yr hyn a weithiodd a'r hyn y gellid ei wella.
O ystyried methiant y farchnad ac anghydraddoldeb o ran lefelau cynhyrchiant ledled y DU, mae'r grant cymhorthdal a'i gyfradd ymyrraeth (50% a 75%) yn arwyddocaol i broses recriwtio lwyddiannus ar gyfer y rhaglen ac i gynyddu nifer y sefydliadau a fydd yn ymgysylltu â Toyota a'u Canolfan Rheoli Darbodus.
15. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun
£15,000
16. Manylion cyswllt
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig
Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
