Neidio i'r prif gynnwy

RDP 2014-2020 – Gwybodaeth Ychwanegol ar gyfer Tendro Cystadleuol (y broses o fis Tachwedd 2021 ymlaen - diweddarwyd Gorff 2022)

Mae'r canllawiau hyn yn rhoi gwybodaeth ychwanegol ac yn canolbwyntio ar sut y disgwylir i'ch prosiect ddefnyddio'r Proffil Cyflawni a’r Gofrestr Wariant (DPv2) newydd o fis Tachwedd 2021 ymlaen.

Wrth i'ch prosiect fynd rhagddo, bydd angen ichi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i  Taliadau Gwledig Cymru (RPW) drwy gyflwyno’ch cofnodion am y broses tendro cystadleuol neu ofyn am newidiadau i'r prosiect. 

Ni fyddwch yn cael hawlio am eitemau nes bod y tendr cystadleuol ar gyfer yr eitemau hynny wedi'i gymeradwyo gan RPW.

Yn dilyn eich adborth, rydym wedi adolygu’r Cofnod Tendro Cystadleuol (gweler isod am fanylion).

Sut i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i RPW ar ôl ichi gwblhau’ch proses tendro cystadleuol

Pan fyddwch wedi cwblhau proses dendro ar gyfer eitemau nad ydynt wedi cael eu cymeradwyo gan RPW eto , er enghraifft, rhai sydd wedi'u marcio “I’w cadarnhau” ar y gofrestr wariant, rhaid ichi roi gwybod inni drwy WEFO Ar-lein a hysbysu RPW drwy RPW Ar-lein unwaith y bydd hyn wedi’i gwblhau, fel y nodir isod:

1) Os nad oes angen unrhyw newidiadau eraill, dylech gyflwyno Gofnod Tendro Cystadleuol wedi'i gwblhau, gan roi cyfeirnod yr eitem ar y gofrestr a darparu'r dystiolaeth ategol h.y. dyfynbrisiau, hysbysebion etc. Bydd angen ichi hefyd lenwi'r DPv2 os na fyddwch wedi gwneud hynny eisoes.

2) Pan fo angen newidiadau bach eraill h.y. newid o lai na 15% yn y costau cymeradwy, dylech ddiweddaru’r DPv2 a’i chyflwyno hi a'r Cofnod Tendro Cystadleuol, gan roi cyfeirnod yr eitem ar y gofrestr a'r dystiolaeth ategol h.y. dyfynbrisiau, hysbysebion etc.

3) Pan fo angen newidiadau sylweddol, megis newid o fwy na 15% rhwng y penawdau costau, neu estyniadau i’r prosiect etc, bydd angen ichi:

a. Gofyn am ailwerthusiad drwy ddilyn y Canllawiau ar ofyn am       newidiadau i brosiect sydd wedi’i gymeradwyo a

b. Pan fyddwn yn gofyn ichi wneud hynny, dylech gyflwyno DPv2  wedi'i diweddaru ynghyd â'r Cofnod Tendro Cystadleuol, gan roi   cyfeirnod yr eitem ar y gofrestr a darparu’r dystiolaeth ategol h.y. dyfynbrisiau, hysbysebion etc.

Tabl 1
Senario

Yr hyn y mae angen ichi ei wneud

Tystiolaeth Ategol

Dim newid

Cyflwyno Cofnod Tendro Cystadleuol sydd wedi’i gysylltu â chyfeirnod yr eitem

Dyfynbrisiau, hysbysebion etc.

Newid o lai na 15% Cyflwyno DPv2 wedi'i diweddaru ynghyd â sylwadau o dan y rhesymau dros newid Cofnod Tendro Cystadleuol sydd wedi’i gysylltu â chyfeirnod yr eitem, dyfynbrisiau, hysbysebion etc.
Newid o fwy na 15%

Gwneud cais i Newid Prosiect, mae rhagor o fanylion yn y Canllawiau ar ofyn am newidiadau i brosiect sydd wedi’i gymeradwyo

Pan fyddwn yn gofyn ichi, cyflwyno DPv2 wedi'i diweddaru

Cofnod Tendro Cystadleuol dyfynbrisiau, hysbysebion etc.

Fe welwch gyfarwyddiadau ar sut i lanlwytho dogfennau ar eich cyfrif WEFO Ar-lein o dan y ddolen Sut i ddefnyddio WEFO Ar-lein; defnyddiwch yr opsiwn Dogfennau Achos.

Ar ôl i’r wybodaeth hon ddod i law, bydd RPW yn gwirio ac yn diweddaru’ch DPv2 drwy nodi’r canlyniad arni a bydd yn ei hanfon yn ôl atoch drwy RPW Ar-lein.

Ein nod yw cwblhau'r gwiriadau hyn ymhen 7 diwrnod gwaith ar ôl ichi gyflwyno cais cyflawn sy’n cydymffurfio â’r gofynion. 

Os oes angen ailwerthuso hefyd, bydd y gwiriad yn cymryd mwy na 7 diwrnod gwaith.

Templedi Cofnodion Tendro Cystadleuol

Rydym wedi symleiddio’r templedi gan ddibynnu ar werth yr eitem:

  1. Ar gyfer eitemau dros £5,000, bydd dal gofyn ichi lenwi Cofnod Tendro Cystadleuol ar gyfer pob eitem dros £5,000
  2. Ar gyfer eitemau dros £500 a than £5,000, gallwch gwblhau’r Cofnod Tendro Cystadleuol newydd ar gyfer eitemau dros £500 a than £5,000

Canlyniadau posibl ein gwiriadau

Pan fyddwn wedi cwblhau’n gwiriadau, byddwn yn cadarnhau hynny drwy’ch cyfrif RPW, a byddwn yn diweddaru ac yn atodi’r DPv2, gan nodi un o’r canlyniadau hyn:

  1. Cymeradwywyd: roedd y dystiolaeth yn bodloni'r gofynion a chewch hawlio pan fyddwch wedi talu am y gwariant.
  1. Cymeradwywyd ond rhoddwyd cosb: nid oedd y dystiolaeth yn bodloni'r gofynion yn llawn ond cymeradwywyd eich cais a rhoddwyd cosb. Pan fyddwch yn hawlio, bydd cosb yn cael ei rhoi ar y swm a hawlir, a bydd hynny, i bob pwrpas, yn lleihau uchafswm y grant sy’n daladwy ar gyfer y prosiect. Bydd RPW yn esbonio'r rheswm dros y gosb yn y Llythyr Canlyniadau yn Atodiad A ac ni cheir ailddyrannu gwerth y gosb a'i ddefnyddio ar eitemau neu weithgareddau cymwys eraill sy’n rhan o’r prosiect.
  1. Capiwyd ar sail y dyfynbris isaf: nid oedd y dystiolaeth ar gyfer y dyfynbris a ffefrir yn bodloni'r gofynion ac mae RPW wedi capio cost cymeradwy yr eitem ar sail y dyfynbris isaf a ddarparwyd. Bydd y gwahaniaeth o ran gwerth rhwng y dyfynbris a ffefrir a'r dyfynbris cymeradwy yn dal i fod ar gael i'r prosiect i'w ddefnyddio ar eitemau neu weithgareddau cymwys eraill.
  1. Heb ei gymeradwyo: mae hyn yn golygu nad oedd y dystiolaeth yn bodloni'r gofynion ac mae RPW o'r farn bod yr eitem hon yn anghymwys, fel y nodir o dan y rheswm yn y Llythyr Canlyniadau yn Atodiad A; rhaid ichi beidio â hawlio am yr eitem hon.

Gallwch weld enghraifft o'r senarios uchod yn enghraifft o templed proffil cyflenwi.

 

Eitemau lle nad oes angen i dendrau cystadleuol gael eu cymeradwyo cyn cyflwyno hawliad

  1. Costau syml ar gyfer staff – caiff y costau hyn eu cymeradwyo wrth ddyfarnu’r grant. Dylid cyflwyno unrhyw geisiadau am newidiadau i’r costau hyn drwy ailwerthuso ar RPW ar-lein.
  1. Eitemau amrywiol o dan £500, rhaid ichi nodi'r eitemau ar y gofrestr wariant o hyd, a bydd angen ichi gadarnhau yn ystod y cam hawlio pam mae'r eitem yn un o gostau cymwys gofynnol y prosiect.

Costau terfynol sy'n wahanol i’r dyfynbris cymeradwy ar gyfer yr eitemau

Os yw cost derfynol eitemau a gymeradwywyd gan RPW yn fwy na'r gwerth cymeradwy, bydd angen ichi roi esboniad am y gwahaniaeth pan fyddwch yn cyflwyno'r hawliad am yr eitem honno.

Os yw’r cynnydd yn fwy na 15% o werth yr eitem, mae RPW yn disgwyl i'r esboniad fod yn un cynhwysfawr, a dylid cyflwyno tystiolaeth ategol pan fo hynny’n briodol. Sylwer:

  1.  Nid oes unrhyw sicrwydd y bydd taliadau sy'n uwch na'r gwerth cymeradwy yn cael eu talu a,
  2.  Ni all cyfanswm y grant sy'n daladwy ar gyfer y prosiect fod yn fwy na'r costau a gymeradwywyd.

 

Fersiwn 4 – Gorff 2022