Neidio i'r prif gynnwy

Rydym eisiau gwella mynediad i wasanaethau deintyddol ac annog pobl i ofalu am iechyd y geg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nid yw ein rhaglen diwygio’r contract deintyddol newydd bellach yn mesur perfformiad yn seiliedig ar unedau o weithgarwch deintyddol yn unig.

Yn hytrach, mae’n canolbwyntio ar:

  • atal
  • gwella mynediad at wasanaethau deintyddol
  • defnyddio sgiliau’r tîm deintyddol cyfan
  • hunanofal

Mae’r gwaith hwn yn flaenoriaeth yn ein strategaeth gwella iechyd y geg. Mae hefyd yn rhan o ymateb ein gwasanaethau deintyddol ac iechyd y geg i Cymru Iachach: Ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol 

Bydd rhannu arferion gorau a syniadau ar gyfer gwella yn ein galluogi i gael gwell gwerth o’n cyllid ar gyfer gwasanaethau a rhaglenni deintyddol.

Roedd mwy na 40% o'r holl bractisau deintyddol yn cymryd rhan yn y rhaglen diwygio contractau cyn iddi ddod i ben dros dro oherwydd y pandemig Covid-19. Rydym bellach yn defnyddio'r gwersi a ddysgwyd i gefnogi'r broses adfer. Mae asesiad risg ac angen cynhwysfawr ar gael ar gyfer pob claf erbyn hyn. Mae hyn yn golygu y gall practisau, cleifion a byrddau iechyd ganolbwyntio ar anghenion, ar atal ac at fynediad at wasanaethau. Gobeithiwn y bydd modd i'r rhaglen diwygio contractau ailddechrau ym mis Hydref 2021.