Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach, ac awdurdodau esgobaethol. Bydd yn cynorthwyo i bontio i'r rhaglen dreigl o fuddsoddiad cyfalaf.

Dylid defnyddio'r canllawiau wrth baratoi Cynllun Amlinellol Strategol ar gyfer y cymal nesaf o gyllid cyfalaf gan y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, pan fydd Rhaglen Dreigl partneriaid cyflawni yn dechrau.

Cyflwyniad

Roedd ton fuddsoddi gyntaf y Rhaglen (Band A) o dan faner ‘Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif’, sef £1.6 biliwn dros y cyfnod o 5 mlynedd a ddaeth i ben yn 2018 i 2019. Cyfrannodd hyn at ailadeiladu ac ailwampio dros 170 o ysgolion. Dechreuodd buddsoddiad tranche dau (Band B) ym mis Ebrill 2019. Cafodd ei ehangu i gynnwys colegau addysg bellach, felly ailenwyd y Rhaglen yn ‘Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif’. Ym mis Ionawr 2022, ailenwyd y Rhaglen yn ‘Gymunedau Dysgu Cynaliadwy’ er mwyn gwneud datganiad clir am ein hymrwymiad i’r amgylchedd, cydlyniant cymunedol a chenedlaethau'r dyfodol. Bydd £2.3 biliwn arall yn cael ei fuddsoddi mewn seilwaith ysgolion a cholegau fel rhan o'r Rhaglen hon, gan ddefnyddio cyllid cyfalaf a refeniw cyhoeddus.

Drwy weithio ar y cyd, cyflwynir y rhaglen yn ôl amserlen a blaenoriaethau’r partneriaid cyflawni. Mae'r gwersi a ddysgwyd gan Fand A, a'r broses o symud ymlaen i Fand B, wedi tynnu sylw at y cymhlethdod sy'n gysylltiedig â chyflwyno nifer o brosiectau ar sail amserlenni ‘sefydlog’ presennol y Rhaglen, a pha mor hir y maent yn ei gymryd. Mae'r dull gweithredu hwn yn creu heriau i Lywodraeth Cymru a phartneriaid cyflawni wrth reoli a chyflawni buddsoddiad strategol yn y seilwaith ar gyfer yr ystâd addysg yng Nghymru. I'r perwyl hwnnw, mae rhaglen fuddsoddi dreigl yn cael ei rhoi ar waith er mwyn bod yn fwy effeithlon a gwella’r ddarpariaeth ar gyfer partneriaid a Llywodraeth Cymru.

Bydd y rhaglen dreigl yn cryfhau un o nodweddion allweddol y Rhaglen, sef datblygu prosiectau yn ôl amserlen a blaenoriaethau’r partneriaid cyflawni, gan wneud i ffwrdd â’r ‘optimistiaeth gormodol’, neu'r angen i bartneriaid cyflawni gyflwyno cynigion rhy uchelgeisiol ar gyfer cyfnod sy’n dynn iawn fel arfer.

Y rhaglen dreigl

Bydd trawsnewid addysgol yn nod hollbwysig o hyd i’n buddsoddiad yn y Rhaglen, ac rydym yn cydnabod ei bod yn eithriadol o bwysig rhoi sylw i gyflwr ac effeithlonrwydd adeiladau ein hysgolion a’n colegau. Dylai awdurdodau lleol ymgynghori â phob ysgol a ariennir gan y wladwriaeth i ystyried eu cynnwys yn y rhaglen:

  • ysgolion cymunedol
  • ysgolion â chymeriad crefyddol (yn rhai gwirfoddol a gynorthwyir ac yn rhai gwirfoddol a reolir)
  • ysgolion sefydledig

Gan fod y partneriaid cyflawni ar wahanol gamau o Band B, disgwylir i’r awdurdod lleol neu'r coleg, wrth iddynt agosáu at gwblhau eu rhaglen Band B, fel rheol pan fydd dros 60% o werth y rhaglen (£) naill ai wedi'i gwblhau neu ar y safle/o dan gontract, gyflwyno eu rhaglen amlinellol strategol newydd, a fydd yn cychwyn eu rhaglen dreigl.

Bydd hyn yn hyrwyddo trosglwyddiad llyfn yn rhaglen pob partner cyflawni ar yr adeg berthnasol, gan wneud i ffwrdd â’r stopio a’r ailgychwyn sy'n gysylltiedig â rhaglen fuddsoddi sefydlog.

Cyflwynir rhaglen gyfalaf 9 mlynedd i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys bras ragolwg cyllid ar gyfer y 9 mlynedd, er mwyn ystyried rhoi ymrwymiad a chefnogaeth ar gyfer y 3 blynedd gyntaf a chymorth mewn egwyddor ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6. Bydd blynyddoedd 7 i 9 yn adlewyrchu’r prosiectau hirdymor sydd gennych mewn golwg. Os yw'n briodol, gellir cynnwys prosiectau Band B ar ddechrau'r rhaglen gyfalaf 9 mlynedd.

Rhaglen gyfalaf 9 mlynedd
Blynyddoedd Disgwyliadau

1, 2 a 3

Disgwyl i brosiectau gyrraedd achos busnes llawn o fewn y 3 blynedd

4, 5 a 6

Prosiectau'n cael eu datblygu ac yn mynd drwy ymgynghoriad statudol

7, 8 a 9

Prosiectau hirdymor sydd mewn golwg

Rhaid i bartneriaid cyflawni adolygu ac ailgyflwyno eu Rhaglen erbyn Mawrth 2024 fan bellaf. Gall partneriaid cyflawni gyflwyno ac ymuno â'r rhaglen dreigl cyn y dyddiad hwn os ydynt yn agosáu at gwblhau eu rhaglen Band B. Mae'n ofynnol i bartneriaid cyflawni adolygu eu rhaglen dreigl o leiaf bob 3 blynedd, a phrosiectau blynyddoedd 1, 2 a 3 fyddai’r prosiectau hynny a nodwyd o dan flynyddoedd 4, 5 a 6 o'r fersiwn flaenorol, os yw’r prosiectau hynny yn parhau'n flaenoriaeth i'r partner cyflawni, a byddai 3 blynedd arall yn cael eu hychwanegu at y cynllun 9 mlynedd. Bydd y rhain yn canolbwyntio ar gynllun buddsoddi 3 blynedd a chyllidebau drafft, ochr yn ochr â’r Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru.

Yn achos prosiectau sy'n parhau i gael eu cyfrif yn brosiectau 'Band B', bydd y fframwaith presennol ar gyfer arfarnu a chymeradwyo achosion busnes yn parhau i herio blaenoriaethau ac anghenion strategol yr achosion busnes unigol a gyflwynir gan bartneriaid cyflawni yn y modd arferol. Dyma fydd y broses hefyd ar gyfer rhaglenni amlinellol strategol newydd.

Bydd prosiectau a nodir ar gyfer eu cyflawni o dan fframwaith cyflawni Model Buddsoddi Cydfuddiannol Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn parhau i gael eu cyfrif yn brosiectau Band B.

Rhaid i bob achos busnes a gyflwynir fod wedi’i seilio ar raglen amlinellol strategol sy’n rhoi darlun cyffredinol o strategaethau awdurdodau lleol/sefydliadau addysg bellach unigol. Wedyn gellir cymeradwyo prosiectau unigol ar yr amod bod achos busnes boddhaol wedi dod i law.

Byddai'r cyfraddau ymyrraeth presennol yn cael eu cadw er mwyn hwyluso’r gwaith o gyflawni rhaglenni unigol partneriaid cyflawni a sicrhau eu bod yn ariannol bosibl, yn unol â'r tabl isod.

Cyfraddau ymyrraeth
Categori

Cyfradd ymyrraeth (%)

Ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a reolir ac ysgolion sefydledig

65

Ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion â chymeriad crefyddol

85

Ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion

75

Model Buddsoddi Cydfuddiannol (elfen a ariennir gan refeniw)

81

Model Buddsoddi Cydfuddiannol (cost gyfalaf gysylltiedig)

65

Sefydliadau addysg bellach

65

Costau ychwanegol carbon sero-net (Band B)

100

 

Amcanion buddsoddi’r rhaglen

Trawsnewid amgylcheddau dysgu a phrofiad dysgwyr

  • Cefnogi pob dysgwr i fod yn ddinasyddion iach, brwdfrydig, mentrus ac egwyddorol, sy’n barod i chwarae rhan gyflawn mewn bywyd a gwaith, mewn safleoedd dysgu sy’n ddiogel, yn gynhwysol ac yn rhydd rhag gwahaniaethu a bwlio.
  • Gwella profiad a lles dysgwyr yn yr amgylchedd adeiledig, gan ategu’r gwaith o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru.
  • Darparu seilwaith digidol o'r radd flaenaf i wella amgylcheddau dysgu a dulliau addysgu ar gyfer myfyrwyr o bob oedran ac ar gyfer y gymuned ehangach.
  • Cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol a’r rhai o gefndiroedd difreintiedig.

Bodloni’r galw am leoedd ysgol

  • Darparu seilwaith addysgol effeithlon ac effeithiol a fydd yn bodloni'r galw presennol am leoedd a'r galw i’r dyfodol.
  • Cefnogi gweithredu Cynllun Strategol yr awdurdod ar gyfer y Gymraeg mewn Addysg.
  • Darparu'r nifer iawn o leoedd ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg a Saesneg.
  • Mynd i'r afael â materion digonolrwydd lle bo'n berthnasol.

Gwella cyflwr ac addasrwydd yr ystâd addysg

  • Lleihau’r ôl-groniad o ran costau cynnal a chadw ar gyfer yr ysgolion a'r colegau a ddewiswyd ar gyfer y rhaglen, gan ystyried yr ystâd gyffredinol.
  • Gwneud i ffwrdd ag adeiladau cyflwr ac addasrwydd categori D o’r ystâd.
  • Lleihau nifer adeiladau cyflwr ac addasrwydd categori C a gwella adeiladau i gategori A neu B.

Datblygu amgylcheddau dysgu cynaliadwy

  • Gweithio tuag at garbon sero-net oes gyfan drwy'r rhaglenni a fandadwyd felly a'r targedau carbon corfforedig yn unol ag Ymrwymiadau Lleihau Carbon Llywodraeth Cymru.
  • Darparu amgylcheddau dysgu cynaliadwy sy'n buddsoddi mewn bioamrywiaeth i wella'r ardaloedd o'u hamgylch a chefnogi teithio llesol.

Cefnogi'r gymuned

  • Ysgolion bro, defnyddio seilwaith ac adnoddau i’r eithaf i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ochr yn ochr ag athrawon, staff, cyrff llywodraethu, dysgwyr, teuluoedd a chymunedau. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau hyblygrwydd ein hasedau fel bod gofod a chyfleusterau ar gael y tu allan i oriau ysgol ar gyfer sesiynau dysgu allgyrsiol, sesiynau dysgu i oedolion a sesiynau dysgu i’r gymuned.
  • Sicrhau'r buddion cymunedol a gwerth cymdeithasol mwyaf posibl drwy'r gadwyn gyflenwi.
  • Rhoi mwy o gyfleoedd i oedolion ddysgu, gan ganiatáu i aelodau o'r gymuned ddysgu sgiliau newydd a datblygu eu hyder.
  • Cefnogi partneriaethau amlasiantaethol a chynnig dull integredig o gefnogi dysgwyr a'r gymuned, gan gynnwys cydleoli gwasanaethau.

Cwestiynau cyffredin

Pryd fyddaf i'n gymwys i gyflwyno rhaglen amlinellol strategol newydd?

Gall pob partner cyflawni gyflwyno rhaglen amlinellol strategol ddiwygiedig/newydd unrhyw bryd rhwng nawr a Mawrth 2024 lle gallant nodi cynnydd eu prosiectau cyfredol, fel rheol pan fydd dros 60% o werth y rhaglen Band B naill ai wedi'i gwblhau neu ar y safle/o dan gontract.

Beth os na fydd 60% wedi’i gwblhau oherwydd nifer neu natur y prosiectau yn y band cyllid presennol?

Os, oherwydd y nifer fechan o brosiectau yn eich rhaglen bresennol, mae 60% yn ganran anymarferol, neu fod eich prosiectau diwethaf yn brosiectau gwerth uchel, yna caiff eich achos ei ystyried fesul achos. Siaradwch ag un o’r Tîm Cymunedau Dysgu Cynaliadwy i gytuno ar beth fyddai’n lefel briodol yn eich achos chi.

Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i gymeradwyo rhaglen amlinellol strategol?

Bydd y Grŵp Craffu ar Achosion Busnes a'r Panel Buddsoddi mewn Addysg yn craffu ar raglenni amlinellol strategol ac yn eu cymeradwyo fel rhan o’u hamserlen arferol.

A fydd y partneriaid cyflawni yn cael amlen gyllid ar gyfer blynyddoedd 1 i 3?

Caiff y prosiectau sydd gennych mewn golwg eu cymeradwyo mewn egwyddor, ond ni chymeradwyir amlen gyllid oherwydd natur anwadal y farchnad bresennol. Creffir ar bob prosiect a'i gymeradwyo yn unol â’r broses bresennol, a chytunir ar gyllid pan lunnir Achos Busnes Llawn neu Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer prosiectau o dan £5m.

A fydd y cyllid yn cael ei ddarparu ar sail ‘y cyntaf i'r felin’?

Oherwydd natur y rhaglen, er bod cyllid cyfalaf yn cael ei ymrwymo dros sawl blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru a’r Tîm Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn dal i reoli'r cyllidebau'n flynyddol. Wrth i'r rhaglenni gael eu cyflwyno ar wahanol gamau, bydd yn rhaid i’r Tîm eu rheoli'n effeithiol yn unol â gofynion rhaglenni amlinellol strategol unigol, a mynd i’r afael ag unrhyw begynu yn y pwysau ar y gyllideb, gan sicrhau bod cyllid ar gael i'r holl bartneriaid cyflawni pryd bynnag y byddant yn cyflwyno eu rhaglen amlinellol strategol newydd.

Pam cynllun 9 mlynedd?

Mae cylch adolygu 3 blynedd yn cael ei ystyried yn gyfnod priodol, yn enwedig yn y farchnad anwadal bresennol. Mae blwyddyn 1 i 3 ar gyfer prosiectau cyfredol, blwyddyn 4 i 6 ar gyfer prosiectau sydd wedi’u cynllunio, a blynyddoedd 7 i 9 yn edrych i’r dyfodol yn batrwm sy’n cael ei gyfrif yn arfer da, felly.

Beth os na chaiff adolygiad ei gynnal erbyn Mawrth 2024?

Ni fydd achosion busnes newydd yn cael eu derbyn na chyllid ar gyfer prosiectau yn cael eu cymeradwyo heb i'r rhaglen amlinellol strategol newydd gael ei chymeradwyo.

Beth fydd yn digwydd i brosiectau presennol Band B?

Fel gydag unrhyw adolygiad, dylech sicrhau bod unrhyw brosiectau Band B yn dal i fod yn ddilys ac yn flaenoriaeth i chi a, lle bo'n berthnasol, dylid blaenoriaethu'r rhain fel prosiectau blynyddoedd cyntaf y rhaglen dreigl.

Pa brosiectau ddylwn i eu cynnwys ym mlynyddoedd 1 i 3?

Dylai’r rhain fod yn brosiectau blaenoriaeth cyfredol, gan gynnwys unrhyw brosiect Band B sy'n cael ei gyflwyno i'r rhaglen dreigl sydd wedi datblygu’n ddigonol i gychwyn o fewn yr amserlen 3 blynedd.

Pa brosiectau ddylwn i eu cynnwys ym mlynyddoedd 4 i 6?

Unwaith eto, dylai unrhyw brosiectau sy'n cael eu cynnwys fod wedi datblygu'n ddigonol i gael eu cyflawni o fewn yr amserlen. Wrth lunio amserlen, dylid caniatáu ar gyfer proses ymgynghori statudol lle bo angen.

Pa brosiectau ddylwn i eu cynnwys ym mlynyddoedd 7 i 9?

Dylai'r rhain fod yn brosiectau sydd mewn golwg sy’n edrych i’r dyfodol, sydd wedi dechrau cael eu trafod, ac sy'n debygol o gael eu rhoi ar waith.

Mwy o wybodaeth

Dylid cyfeirio ymholiadau am y ddogfen hon i:

Cynllunio Busnes a Llywodraethiant Addysg
Y Gyfarwyddiaeth Addysg 
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays 
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 03000 257672

Ebost: cymunedaudysgucynaliadwy@llyw.cymru