Cymhwystra ar gyfer y brechiad feirws syncytaidd anadlol (RSV) i atal salwch difrifol.
Cynnwys
Beth yw RSV?
Mae'r RSV yn un o’r feirysau cyffredin sy’n achosi peswch ac annwyd yn y gaeaf.
Yn fyd-eang, mae RSV yn heintio hyd at 90% o blant yn ystod 2 flynedd gyntaf eu bywyd, a bydd plant hŷn ac oedolion yn aml yn cael eu hailheintio gan y feirws. Babanod o dan flwydd oed a’r henoed sy’n wynebu’r risg fwyaf o orfod mynd i’r ysbyty oherwydd yr haint.
Argymhellodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) y dylid cynnig brechiad RSV i grwpiau penodol o bobl.
Pwy sy'n gymwys
Caiff brechiad RSV rheolaidd ei gynnig drwy gydol y flwyddyn i'r grwpiau canlynol:
- pob oedolyn hŷn, a gaiff gynnig brechiad yn rheolaidd wrth iddynt droi'n 75 oed
- pob preswylydd mewn cartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn
- menywod beichiog, o 28 wythnos o feichiogrwydd (gyda'r nod o ddiogelu eu babanod newydd-anedig)
Bydd mamau'n cael cynnig y brechiad yn ystod pob beichiogrwydd er mwyn diogelu pob baban rhag RSV.
O 1 Medi 2026 ymlaen, bydd pob unigolyn 65 i 74 oed sydd ag imiwnedd isel neu sydd â chlefyd anadlol cronig (ac eithrio asthma sydd wedi'i reoli'n dda) hefyd yn gymwys i gael brechiad RSV.
