Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi gwybodaeth gyffredinol ichi am sut rydym yn trin eich data wrth ichi gofrestru i gwblhau Rhaglen Gallu Rheoli Contract.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi sawl rhaglen ar gyfer datblygu gallu a chapasiti caffael ehangach sy'n cynnwys darparu cyfleoedd dysgu a datblygu proffesiynol drwy Raglen Gallu Rheoli Contract Swyddogaeth Fasnachol y Llywodraeth. Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw data personol i gynorthwyo gyda'r gwaith o ddatblygu, cydlynu a hyrwyddo rhaglenni.

Llywodraeth Cymru a’r GCO yw'r rheolwyr data a'r prosesydd data ar gyfer yr holl ddata a gesglir gan y tîm. Mae rheolwr data yn penderfynu sut a pham y gellir prosesu data personol.

Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael yr wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) fel:

'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy gyfeirio at rywbeth fyddai’n ei adnabod.'

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r Swyddogaeth Fasnachol y Llywodraeth i ddarparu Gallu Rheoli Contract ar gyfer sector cyhoeddus Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu nifer penodol o leoedd i fyfyrwyr astudio rhaglenni i sicrhau cysondeb ar draws y sector a gosod meincnodau gallu clir ar gyfer unigolion.

Pan fydd myfyriwr yn cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb ac yn arwyddo Cytundeb y Dysgwyr, bydd Llywodraeth Cymru yn casglu eich data personol chi a data personol eich rheolwr llinell. Mae hyn yn cynnwys:

  • Enw
  • Cyfeiriad e-bost
  • Sefydliad
  • Manylion cyflogaeth
  • Unrhyw ddata personol arall a ddarperir inni fel rhan o'ch cais neu gyfranogiad yn y rhaglen gan gynnwys canlyniadau arholiadau.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw eich data personol i ddatblygu, cydlynu, hyrwyddo a chyflwyno y rhaglenni Rheoli Contract. Ymhlith y gweithgareddau penodol sydd angen defnyddio eich data mae:

  • Ymateb i ymholiadau
  • Helpu'r broses o ddewis myfyrwyr
  • Cynnwys myfyrwyr ar raglenni
  • Gwaith gweinyddol o ddydd i ddydd
  • Monitro cynnydd y rhaglen er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r Cytundeb Dysgu
  • Casglu adborth am raglenni a chofnodi canlyniadau.
  • Monitro cyllid, gwaith gweinyddol, a darparu rhaglenni
  • Monitro pwy sy'n gohirio ei aelodaeth i raglenni neu sy'n ei thynnu yn ôl

Adrodd

Bydd gan Lywodraeth Cymru fynediad at ganlyniadau myfyrwyr. Bydd y data hyn yn cael eu defnyddio i adrodd i uwch dimau rheoli. Lle bo hynny'n bosibl, bydd Llywodraeth Cymru yn dileu eich gwybodaeth bersonol wrth adrodd i gynulleidfaoedd ehangach.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn casglu adborth ar y rhaglen Gallu Rheoli Contract i gynorthwyo gydag adrodd y manteision sy’n gysylltiedig â rhoi’r rhaglen ar waith.

Beth yw'r sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio eich data personol?

O dan Erthygl 6 o Reoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data y Deyrnas Unedig, y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yw Buddiant Dilys. Hynny yw drwy brosesu eich data personol, bydd Llywodraeth Cymru yn gallu eich helpu i ddatblygu, cydlynu, hyrwyddo a chyflwyno rhaglen Gallu Rheoli Contract. Bydd mwy o allu ar draws Sector Cyhoeddus Cymru yn sicrhau y bydd yr arfer gorau yn cael ei rannu ar draws timau caffael gan ganiatáu gwell gwerth am arian mewn gwariant caffael.

Pa mor ddiogel yw eich data personol a gyda phwy rydym yn rhannu eich gwybodaeth?

Bydd gwybodaeth bersonol adnabyddadwy a rennir yn cael ei chadw gan Dîm Galluogrwydd Caffael Masnachol Llywodraeth Cymru a chaiff aelodau staff yn yr adran hon fynediad ati i rannu cyfathrebiadau am ein gwasanaethau yn unig. Caiff unrhyw wybodaeth a ddarperir ei storio mewn ardal warchodedig o iShare (system rheoli dogfennau fewnol Llywodraeth Cymru).

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu eich gwybodaeth gyda GCO i sicrhau bod y rhaglen a ddarperir yn diwallu anghenion y Cytundeb Dysgwyr. Mae gan GCO yr hawl i gadw eich data, ac mae eu Hysbysiad Preifatrwydd ar gael trwy ddilyn y dolenni isod:

Privacy policy for the Government Commercial College ar GOV.UK

Personal information charter ar GOV.UK

Am ba mor hir ydyn ni'n cadw eich data personol?

Byddwn yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy am hyd at 5 mlynedd. Ar ôl cyfnod o 5 mlynedd bydd y data a gedwir ar ffeil yn cael eu hadolygu. Os nad yw'r data'n cael eu defnyddio mwyach, cânt eu dileu o'n cofnodion.

Gellir rhoi myfyrwyr nad ydynt yn llwyddo i gael cyllid ar gyfer cwblhau yr hyfforddiant rheoli contract  ar restr aros. O ystyried yr amgylchiadau hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn cadw data personol hyd nes y bydd eich lleoliad wedi'i gwblhau.

Hawliau unigolyn

O dan y GDPR, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych drwy unrhyw un o'r ymchwil a gynhaliwyd drwy'r Rhaglen Ymchwil i Weithwyr, ac yn benodol mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:

  • Cael copi o’ch data eich hun
  • Inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • I wrthwynebu neu gyfyngu ar y gwaith o brosesu'r data (mewn rhai amgylchiadau)
  • I’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn rhai amgylchiadau), ac
  • I wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 or 0303 123 1113

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r gwaith hwn yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os ydych am arfer eich hawliau gan ddefnyddio'r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â ni:

David Nicholson

Rhif ffôn: 03000 257310

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.