Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau i Awdurdodau Lleol ar y cyllid sydd ar gael i ariannu prosiectau ym maes gofal cymdeithasol sy'n cyfrannu at leihau allyriadau neu sy'n helpu i addasu i effeithiau'r newid yn yr hinsawdd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Canllawiau Cyllid Grant (Chwefror 2023)

Mae Rhaglen Genedlaethol yr Argyfwng Hinsawdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn bwriadu cyllido prosiectau gan bob ran o’r sector gofal cymdeithasol sy'n cyfrannu at leihau allyriadau neu sy’n helpu'r sector i addasu i effeithiau'r newid yn yr hinsawdd.

Gall Awdurdodau Lleol wneud cais ar y cyd â darparwyr gofal cymdeithasol am gyfran o Gynllun Cyllid Rhaglen Genedlaethol yr Argyfwng Hinsawdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol gwerth £2.4m gan Lywodraeth Cymru.

Mae cyllid hyd at £30,000 ar gael ar gyfer pob Awdurdod Lleol.

Rhaid i’r prosiectau sy’n cael eu cyllido gyd-fynd â Datgarboneiddio Gofal Cymdeithasol yng Nghymru a rhaid iddynt gyflawni tuag at yr uchelgais o sicrhau Sector Cyhoeddus Cymru sy’n sero net ar y cyd erbyn 2030 a/neu wella’r gallu i wrthsefyll effeithiau'r newid yn yr hinsawdd, drwy wneud y canlynol:

  • Cefnogi gweithgarwch cyfathrebu, ymgysylltu neu newid ymddygiad sy'n helpu i ymgorffori'r agenda newid hinsawdd mewn sefydliadau gofal cymdeithasol, a/neu
  • Sbarduno'r gwaith o weithredu Cynlluniau Gweithredu Datgarboneiddio neu Addasu ar lefel y sefydliad, gan gynnwys drwy gyllido mentrau neu swyddi penodol, a/neu
  • Gweithio gyda phartneriaid cyflawni lleol, yn arbennig darparwyr gofal cartref, i ymchwilio i ffyrdd newydd neu arloesol o ddarparu gofal yn y gymuned.
  • Darparu cyllid i fentrau bach i ganolig eu maint ar lawr gwlad (er enghraifft gweithgareddau sy'n cael eu harwain gan 'Grwpiau Gwyrdd' mewn sefydliadau) neu ar gyfer gweithgarwch arloesi a/neu ddatblygu’r camau a nodir yn Datgarboneiddio Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.

Mae angen i bob prosiect sy’n cael ei gyllido ddangos yr uchelgais a'r potensial i'r prosiect gael ei uwchraddio, ei ehangu a'i fabwysiadu'n ehangach yn y sector gofal cymdeithasol a/neu ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol ehangach.

Fel un o amodau'r cyllid, bydd angen i sefydliadau ymrwymo i ddarparu’r canlynol:

  • adroddiadau chwarterol ar gynnydd drwy gydol y cyfnod cyllido
  • astudiaeth achos fer ar y gwaith a wnaed, gan gynnwys y gwersi a ddysgwyd ac argymhellion ar y potensial i'r prosiect gael ei fabwysiadu'n ehangach (ar lefel leol, rhanbarthol neu genedlaethol)

Efallai y gofynnir i arweinwyr prosiectau gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfathrebu sy'n gysylltiedig â gwaith y Rhaglen Genedlaethol hefyd, gyda'r nod o rannu profiadau, arferion gorau a gwersi a ddysgwyd.

Cefndir a chyd-destun

Nod Rhaglen Genedlaethol yr Argyfwng Hinsawdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw cydnabod y cyfle pwysig i systemau iechyd a gofal cymdeithasol arwain y ffordd o ran lleihau allyriadau carbon o'r sector cyhoeddus a sicrhau ein cyfraniad at yr uchelgais o gael sector cyhoeddus sy’n sero net ar y cyd erbyn 2030.

Mae angen gweithredu nid yn unig gan fod y system iechyd a gofal cymdeithasol yn un o’r allyrwyr sector cyhoeddus mwyaf, ond hefyd am fod y systemau iechyd a gofal cymdeithasol ar flaen y gad o ran ymateb i effaith yr argyfwng hinsawdd ar bobl a’u canlyniadau llesiant.

Mewn ymateb i'r her hon cyhoeddwyd Cynllun Cyflawni Strategol ar gyfer Datgarboneiddio GIG Cymru ym mis Mawrth 2021 a lansiwyd Datgarboneiddio Gofal Cymdeithasol yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2022, ar y cyd â’r Fframwaith Gofal Sylfaenol Gwyrddach. Gyda'i gilydd, mae'r cynlluniau hyn yn rhoi mandad clir ac uchelgeisiol ar gyfer y camau y mae angen eu cymryd ym mhob rhan o’r system iechyd a gofal cymdeithasol.

At hynny, mae gweithgarwch pellach ar y gweill i wella’r ffordd y mae’r system yn mynd ati i gynllunio addasiadau er mwyn sicrhau ei bod yn gallu gwrthsefyll risgiau i lesiant a darparu gwasanaethau yn sgil y newid yn yr hinsawdd.

Nod y cynllun cyllid grant Gofal Cymdeithasol Awdurdodau Lleol hwn yw cefnogi prosiectau a mentrau sydd â'r potensial i wneud gwahaniaeth ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Pwy sy’n cael gwneud cais?

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer Awdurdodau Lleol sy’n gwneud cais am gyllid.

Os ydych chi’n ddarparwr gofal cymdeithasol: cysylltwch â’ch awdurdod lleol i gydweithio er mwyn manteisio ar y grant hwn.

Dylai Awdurdodau Lleol gyflwyno un cais hyd at yr uchafswm dyraniad o £30,000.

Rydym yn gwahodd sefydliadau i weithio gyda’i gilydd a/neu gyflwyno ceisiadau ar y cyd. Os ydych am gyflwyno cais ar y cyd, rhaid i bob Awdurdod Lleol sy’n rhan o’r cais wneud y canlynol:

  • cwblhau cais am gyllid hyd at yr uchafswm dyraniad o £30,000.
  • rhoi manylion pob Awdurdod Lleol sy’n rhan o’r cais.

Nid yw’r uchafswm dyraniad yn derfyn ar werth prosiectau y gellir gwneud cais ar eu cyfer – gall Awdurdodau Lleol ddewis 'ychwanegu' arian neu roi arian cyfatebol tuag at eu prosiect/prosiectau.

Dylid cymeradwyo a chyflwyno ceisiadau ar lefel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Statudol.

Meini prawf y cais

Dylid cynllunio prosiectau er mwyn sicrhau bod modd gwario’r cyllid yn ystod y flwyddyn ariannol pan gaiff y cyllid ei roi.

Mae angen i awdurdodau lleol ymrwymo i ddarparu’r canlynol:

  • adroddiadau chwarterol ar gynnydd drwy gydol y cyfnod cyllido
  • astudiaeth achos fer ar y gwaith a wnaed, gan gynnwys y gwersi a ddysgwyd ac argymhellion ar y potensial i'r prosiect gael ei fabwysiadu'n ehangach (ar lefel leol, rhanbarthol neu genedlaethol)

Pethau na fyddant yn cael eu cyllido

Fel enghreifftiau, ni fydd y canlynol yn cael eu hariannu:

  1. Costau nad ydynt yn gysylltiedig â'r prosiect ei hun.
  2. Pryniannau cyfalaf.
  3. Costau cynhaliaeth, teithio a llety.
  4. Cyrsiau, hyfforddiant a chostau cynhadledd neu gofrestru.
  5. Offer TG.
  6. Capasiti ychwanegol ar gyfer swyddi presennol neu ddarparu gwasanaethau.
  7. Rhoi adnoddau newydd yn lle adnoddau sy'n bodoli eisoes neu sydd wedi'u dadariannu.

Canllawiau cyllid

Gwneir penderfyniadau ar gyllid gan is-grŵp Rhaglen Genedlaethol yr Argyfwng Hinsawdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a hynny yn unol â'r meini prawf a nodir yn y canllawiau cyllid hyn a'r broses gwneud cais.

Mae angen i geisiadau am gyllid ddod i law erbyn 24 Mawrth 2023.

Drwy'r broses gwneud cais bydd angen i sefydliadau roi manylion am sut mae eu cynnig prosiect yn cyd-fynd â Datgarboneiddio Gofal Cymdeithasol yng Nghymru a sut y mae’n cefnogi cyfraniad y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol at yr uchelgais o sicrhau Sector Cyhoeddus yng Nghymru sy’n sero net ar y cyd erbyn 2030 a/neu sut mae’n gwella’r gallu i wrthsefyll effeithiau'r newid yn yr hinsawdd, drwy wneud y canlynol:

  • Cefnogi gweithgarwch cyfathrebu, ymgysylltu neu newid ymddygiad sy'n helpu i ymgorffori'r agenda newid hinsawdd mewn sefydliadau gofal cymdeithasol, a/neu
  • Sbarduno’r gwaith o weithredu Cynlluniau Gweithredu Datgarboneiddio neu Addasu ar lefel y sefydliad, gan gynnwys drwy gyllido mentrau neu swyddi penodol, a/neu
  • Gweithio gyda phartneriaid cyflawni lleol, yn arbennig darparwyr gofal cartref, i ymchwilio i ffyrdd newydd neu arloesol o ddarparu gofal yn y gymuned.
  • Darparu cyllid i fentrau bach i ganolig eu maint ar lawr gwlad (er enghraifft gweithgareddau sy'n cael eu harwain gan 'Grwpiau Gwyrdd' o fewn sefydliadau) neu ar gyfer gweithgarwch arloesi a/neu ddatblygu’r camau a nodir yn Datgarboneiddio Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.

Mae angen i bob prosiect sy’n cael ei gyllido ddangos yr uchelgais a'r potensial i'r prosiect gael ei uwchraddio, ei ehangu a'i fabwysiadu'n ehangach yn y sefydliad gofal cymdeithasol a/neu ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol ehangach.

Cyn i’r Rhaglen Genedlaethol dalu unrhyw gyllid, rhaid bodloni’r amodau canlynol:

  • Sicrhau bod ceisiadau yn cael eu cymeradwyo a’u cyflwyno ar lefel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Statudol
  • Cytuno ar yr amodau cyllido gan gynnwys adroddiadau chwarterol

Dim ond at ddibenion y prosiect a nodir yn ystod y broses gwneud cais y gellir defnyddio'r cyllid. Rhaid rhoi gwybod am unrhyw newidiadau yn nibenion neu dargedau'r prosiect yn ysgrifenedig cyn gwneud unrhyw newid. Bydd pob cais ysgrifenedig rhesymol yn cael ei ystyried.

Ni chewch ddefnyddio unrhyw ran o'r cyllid ar gyfer unrhyw weithgaredd a allai ddwyn anfri ar Lywodraeth Cymru.

Os penderfynwch brynu unrhyw nwyddau a/neu wasanaethau i gyflawni dibenion y prosiect, rhaid eu prynu mewn modd cystadleuol a chynaliadwy er mwyn dangos eich bod wedi sicrhau’r gwerth gorau (gan gynnwys gwerth cymdeithasol) wrth ddefnyddio arian cyhoeddus.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch: IGC.ArgyfwngHinsawdd@llyw.cymru