Sut bydd y rhaglen yn helpu'r sector iechyd a gofal cymdeithasol i ymateb i'r argyfwng hinsawdd.
Cynnwys
Y cefndir a'r cyd-destun
Yn 2019, gwnaethom ddatgan argyfwng hinsawdd yng Nghymru. Roeddem am sbarduno mwy o ffocws a mwy o weithredu i gwrdd â'r heriau a ddaw yn sgil yr argyfwng hinsawdd.
Mae 2 ymateb i'r argyfwng hinsawdd:
- camau lliniaru: cynyddu dalfeydd a lleihau ffynonellau nwyon tŷ gwydr
- camau addasu: y broses o addasu i’r hinsawdd wirioneddol neu’r hinsawdd ddisgwyliedig a’i heffeithiau
Mae gan Gymru darged cyfreithiol i gyflawni allyriadau sero net erbyn 2050, fel y nodwyd yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae gennym hefyd uchelgais i’r sector cyhoeddus fod yn Sero Net erbyn 2030, fel y nodwyd ym mholisi Sero Net Cymru. Mae cynlluniau ar waith i ddatblygu’r camau angenrheidiol i leihau allyriadau carbon yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol:
- cynllun cyflawni strategol ar gyfer datgarboneiddio GIG Cymru 2025 i 2030 yn nodi mentrau i leihau allyriadau yn y GIG
- datgarboneiddio gofal cymdeithasol yng Nghymru yn darparu map llwybr o 15 menter i helpu gofal cymdeithasol i ymateb i'r argyfwng hinsawdd
- gall fframwaith Gofal Sylfaenol Gwyrddach helpu contractwyr gofal sylfaenol annibynnol (practisau cyffredinol, fferyllfeydd cymunedol, practisau optometrig cymunedol a phractisau deintyddol gofal sylfaenol) i wella eu cynaliadwyedd a’u heffeithiau amgylcheddol
- Mae Cymru Iachach: cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru yn cynnwys yr angen i gynnwys camau gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd wrth wneud penderfyniadau a chynlluniau ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol
Yn ogystal â lleihau allyriadau, mae angen i'r sector iechyd a gofal cymdeithasol gymryd camau addasu i ymateb i iechyd y boblogaeth ac effeithiau newid hinsawdd ar ddarparu gwasanaethau iechyd.
Mae'r strategaeth addasu i’r hinsawdd yn ymdrin â'r dystiolaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r risg o ran yr hinsawdd. Mae hefyd yn rhoi sylw i ganfyddiadau adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd ar hynt y gwaith o addasu i’r hinsawdd yng Nghymru ac yn nodi sut mae'r rhain yn llywio ein gwaith.
Y rhaglen genedlaethol
Fe wnaethom sefydlu'r rhaglen genedlaethol iechyd a gofal cymdeithasol i daclo'r argyfwng hinsawdd yn ystod hydref 2021. Nod y rhaglen yw darparu goruchwyliaeth strategol ar gyfer ymateb y sector iechyd a gofal cymdeithasol i'r argyfwng hinsawdd.
O fewn y rhaglen mae 5 bwrdd prosiect cenedlaethol:
- trafnidiaeth a chaffael
- adeiladau, ystadau a chynllunio tir
- ymagwedd at ofal iechyd
- gofal cymdeithasol
- cynlluniau addasu
Mae gan y rhaglen £2.4 miliwn o gyllid refeniw dros 3 blynedd i:
- gefnogi prosiectau ar draws y sector sy'n cyfrannu at leihau allyriadau
- helpu'r sector i addasu i effeithiau'r newid yn yr hinsawdd
Adrodd ar allyriadau a chynlluniau datgarboneiddio
Amcangyfrifwyd bod ôl troed carbon GIG Cymru yn 2018/2019 yn 1,001,378 tCO2e. Mae hyn oddeutu 2.6% o gyfanswm yr allyriadau yng Nghymru.
Mae sefydliadau GIG Cymru yn adrodd am allyriadau bob blwyddyn i'r canllaw adrodd sero net.
Mae data ac argymhellion sero-net y sector cyhoeddus yn darparu'r amcangyfrifon diweddaraf ar gyfer allyriadau carbon.
Mae gan bob un o gyrff y GIG gynlluniau gweithredu ar gyfer datgarboneiddio, sy'n nodi:
- sut y byddant yn lleihau allyriadau
- sut y byddant yn cyfrannu at gyflawni'r cynllun cyflawni strategol ar gyfer datgarboneiddio 2025 i 2030
Caiff allyriadau gofal sylfaenol eu cynnwys yn adroddiadau allyriadau'r GIG pan fônt wedi'u cydleoli.
Yn ogystal, mae’r adroddiad ôl troed carbon o ran gofal sylfaenol wedi'i lunio i roi amcangyfrif o allyriadau contractwyr gofal sylfaenol.
Caiff amcangyfrifon ar gyfer allyriadau gofal cymdeithasol eu cynnwys yn y map trywydd ar gyfer datgarboneiddio gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Cynlluniau addasu a chamau gweithredu
Mae ein cynlluniau addasu neu gadernid a'n camau gweithredu yn canolbwyntio ar ddeall, rhag-weld ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd ar iechyd y boblogaeth ac ar ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae asesiad Iechyd Cyhoeddus Cymru o effeithiau newid hinsawdd ar iechyd yng Nghymru yn arfarniad strategol a chynhwysfawr o oblygiadau posibl newid hinsawdd ar iechyd poblogaeth Cymru. Ei nod yw llywio a gwella cynlluniau addasu ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol a'r sector cyhoeddus ehangach.
Er mwyn helpu sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol i gyflawni cynlluniau addasu yn ymarferol, mae pecyn cymorth addasu i'r hinsawdd wedi'i lunio.
Mae'r pecyn cymorth hwn wedi'i ddylunio i'w ddefnyddio ar lefel timau, lefel gwasanaethau neu lefel sefydliadau unigol. O ddefnyddio'r pecyn cymorth, byddwch yn deall termau a chysyniadau allweddol a sut i gael gafael ar yr wybodaeth er mwyn ystyried sut y bydd newid hinsawdd yn effeithio ar eich sefydliad a'ch gwasanaethau.
Mae'r pecyn cymorth yn cael ei ategu gan adnodd risg a chyfleoedd iechyd a gofal cymdeithasol. I gael copi ohono, anfonwch e-bost i IGC.NewidHinsawddacEPH@llyw.cymru.
Gwybodaeth ac adnoddau ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen genedlaethol iechyd a gofal cymdeithasol i daclo’r argyfwng hinsawdd a'r gwaith rydym wedi bod yn ei gefnogi:
- gwyliwch ein fideo esboniadol i ddarganfod mwy am ein nodau a'n hamcanion
- cofrestrwch i dderbyn ein newyddlen
- cysylltwch â thîm y rhaglen yn IGC.NewidHinsawddacEPH@llyw.cymru
- gwyliwch ein fideos am y fenter hyrwyddwyr gofal sylfaenol gwyrddach: dyma gynllun peilot a ariannwyd gan y rhaglen rhwng mis Hydref 2023 a mis Mawrth 2024, a reolwyd gan yr is-adran gofal sylfaenol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru
- mae arferion gorau ac astudiaethau achos o gyrff y GIG i’w gweld ar wefan Conffederasiwn y GIG
- mae canolfan adnoddau Sefydliad Calon y Ddraig yn cynnwys astudiaethau achos o 12 prosiect a gafodd eu cyflwyno yn niwrnod arweinyddiaeth rhaglen genedlaethol iechyd a gofal cymdeithasol i daclo’r argyfwng hinsawdd ym mis Chwefror 2025
- mae manylion cynhadledd a gwobrau cynaliadwyedd GIG Cymru i'w gweld ar wefan Arweinwyr y Diwydiant Iechyd:
Llywodraeth Cymru'n mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd
Mae llawer o waith ar y gweill ar draws Llywodraeth Cymru i frwydro yn erbyn effeithiau'r newid yn yr hinsawdd.
Ewch i Gweithredu ar Hinsawdd Cymru i weld sut y gallwch chi gymryd rhan.
