Gwybodaeth am y grantiau a ddyfarnwyd o dan y rhaglen grantiau cydraddoldeb a chynhwysiant rhwng 1 Ebrill a 31 Rhagfyr 2026.
Cynnwys
Arloesi
Cymdeithas Alzheimer’s
Ar draws Gorllewin Cymru a Phowys, bydd y prosiect yn sefydlu 4.2 o Gynghorwyr Dementia Ysbytai cyfwerth ag amser llawn (FTE) i ddatblygu llwybrau rhyddhau ar gyfer ysbytai sy'n deall dementia.
Mae rôl y Cynghorwyr yn adeiladu ar waith cynghorwyr dementia cymunedol y sefydliad a bydd yn cael ei addasu i weithio ar y cyd â thimau ysbytai, cleifion a gofalwyr i sicrhau pontio amserol a phriodol sy'n canolbwyntio ar y person o ysbyty i ofal yn y cartref neu'r gymuned.
Trwy ymgorffori arbenigedd ar ddementia o fewn cynlluniau rhyddhau, nod y peilot yw lleihau aildderbyniadau, gwella lles cleifion, a chefnogi gofalwyr trwy gyngor ac adnoddau wedi'u teilwra. Mae'r peilot yn mynd i'r afael â bylchau mewn gofal dementia wrth gynllunio rhyddhau a'i nod yw cyrraedd tua 300 o bobl sy'n byw gyda dementia.
Bridges Centre
Bydd Quest Busters (QB) yn cyflwyno prosiect arloesol, cydweithredol i blant ag anghenion ychwanegol ledled Sir Fynwy. Bydd dau weithdy cyd-greu gyda phlant a theuluoedd yn dylunio adnoddau Cynllunio/Dyddiaduron i helpu i setlo a Phecynnau Synhwyraidd, gan gynnwys ymarferion ymwybyddiaeth ofalgar, gwirio teimladau, gemau, a chymorth synhwyraidd. Bydd yr adnoddau hyn yn gwella gweithgareddau gwyliau ac untro (chwaraeon, celfyddydau, coginio, a chwarae yn yr awyr agored) gan helpu plant i setlo, hunan-reoleiddio, a chymryd rhan yn llawn. Bydd Pecyn Dysgu yn cael ei gynhyrchu i ddod â chwe blynedd o ymarfer creadigol dan arweiniad yr aelodau ynghyd, gan gynnig gwybodaeth i sefydliadau eraill os yw'n ddefnyddiol, gan ganolbwyntio'n bennaf ar fudd uniongyrchol i blant a theuluoedd.
Llinell Gymorth LHDT+ Cymru (Cwnsela Cynnydd Cymru)
Bydd y prosiect hwn yn treialu Therapi Integreiddiol ar gyfer Datrys Gwrthdaro (ICRT) ledled De Cymru.
Mae ICRT yn fodel rhagweithiol sy'n symud y tu hwnt i reoli argyfwng, gan ddarparu sgiliau gydol oes i unigolion i ymdopi â heriau ac adeiladu gwytnwch.
Bydd y prosiect yn creu glasbrint cynaliadwy ar gyfer cymorth therapiwtig, gan gyfrannu'n uniongyrchol at Gymru fwy cyfartal, gwydn ac iachach.
Strategaeth Dinas y Rhyl
Bydd y prosiect hwn yn cyd-ddylunio, datblygu a phrofi platfform cyflogaeth dwyieithog hygyrch a phwrpasol i gefnogi recriwtio cynhwysol a gwella mynediad at waith i geiswyr gwaith anabl a niwroamrywiol ledled Gogledd Cymru.
Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall
Nod y prosiect hwn yw sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg, waeth beth fo'u hanghenion cyfathrebu o ran hygyrchedd. Drwy fodiwl e-ddysgu bydd RNIB Cymru yn rhoi trosolwg o'r problemau sy'n codi o ddulliau cyfathrebu anhygyrch ac yn amlinellu arferion gorau i sefydliadau ar gyfer cyfathrebu'n hygyrch yn ddwyieithog.
Gan gynnig mewnwelediad gan elusen golli golwg fwyaf Cymru, bydd y cwrs modiwlaidd hwn yn addas ar gyfer amrywiaeth o sefydliadau sy'n gweithredu'n ddwyieithog yng Nghymru. Bydd yr adnodd hwn yn cael ei ddatblygu yn Gymraeg a Saesneg a bydd yn cynnwys canllawiau ar ffrydiau cyfathrebu mewn print, yn ddigidol ac wyneb yn wyneb.
SEF Cymru
Bydd y prosiect hwn yn sefydlu model cydweithredol newydd ar gyfer mynd i'r afael ag anghydraddoldeb a hyrwyddo cynhwysiant ymhlith cymunedau Somali a lleiafrifoedd ethnig ehangach yng Nghaerdydd a Chasnewydd.
Dan arweiniad Himilo, Cynghrair Somali Cymru, a'i gyflwyno gydag 11 o bartneriaid ar lawr gwlad, bydd y prosiect yn treialu dulliau arloesol o ddatblygu arweinyddiaeth, mynediad cynhwysol at wasanaethau, cyd-gynhyrchu â chyrff cyhoeddus, a datrys problemau dan arweiniad y gymuned.
Bydd gweithgareddau yn cryfhau cynrychiolaeth, yn meithrin hyder, ac yn creu llwybrau strwythuredig ar gyfer cymryd rhan mewn bywyd dinesig, addysg, cyflogaeth a gwasanaethau lles.
Trwy gyfuno profiadau bywyd ag arweinyddiaeth ar y cyd, bydd y prosiect hwn yn cynhyrchu dysgu cynaliadwy, partneriaethau newydd, a model cydraddoldeb y gellir ei ailadrodd ar gyfer Cymru.
Bydd y prosiect yn darparu:
- hyfforddiant ar gyfer 50 o arweinwyr cymunedol profiad byw (o leiaf 50% yn fenywod)
- llwybrau cyfranogiad strwythuredig ar gyfer ieuenctid, yr henoed a theuluoedd
- grwpiau cymorth dan arweiniad cymheiriaid sy'n mynd i'r afael â rhywedd, lles ac iechyd meddwl
- sesiynau gwybodaeth cynhwysol gyda chyrff cyhoeddus i fynd i'r afael â rhwystrau rhag mynediad
- prosesau cyd-ddylunio sy'n sicrhau bod addasiadau mewn gwasanaeth yn adlewyrchu anghenion y gymuned
Ymwybyddiaeth ac ymgysylltu
Mind Aberhonddu a'r Cylch
Bydd y prosiect hwn yn hyfforddi ac yn cefnogi grŵp o wirfoddolwyr, llawer ohonynt â phrofiad bywyd, fel llysgenhadon iechyd meddwl i roi sgyrsiau i grwpiau cymunedol ledled de Powys. Bydd yn canolbwyntio ar straeon unigol a theithiau iechyd meddwl i leihau stigma a sôn am bwysigrwydd cysylltu a chael cymorth yn gynnar, gan hyrwyddo llwybrau at gymorth.
CIC Cydweithrediad Cymunedol Cymru
Bydd y prosiect hwn yn creu Canolfan Gymunedol at gyfer Cynhwysiant a Chyflogadwyedd yng Nghaerdydd, gan leihau allgau trwy roi sgiliau i grwpiau difreintiedig fel lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl a chymunedau LHDTC+ ynghyd ag ymwybyddiaeth o'u hawliau, a gwytnwch yn erbyn gwahaniaethu. Trwy weithdai, mentora ac ymgyrchoedd, bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn ennill hyder, cyfleoedd a llwybrau at gyflogadwyedd, gan sicrhau effaith barhaol ar draws amcanion cydraddoldeb Cymru.
Cymunedau Ymlaen Môn
Bydd y prosiect hwn yn codi ymwybyddiaeth o'r rhwystrau sy'n wynebu pobl â nodweddion gwarchodedig yn Ynys Môn. Bydd y prosiect yn ymgysylltu'n uniongyrchol â thrigolion â phrofiadau bywyd, gan sicrhau bod eu lleisiau yn llywio gweithgareddau a chanlyniadau.
Trwy ymgysylltu â'r gymuned a chyflogwyr, a chynhwysiant digidol, bydd yn meithrin dealltwriaeth y cyhoedd, yn dylanwadu ar wasanaethau a chyflogwyr lleol, ac yn grymuso grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli. Bydd y gwaith yn cyfrannu at yr Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol drwy hyrwyddo cynhwysiant, mynd i'r afael ag anghydraddoldeb, a chryfhau cydlyniant cymunedol ar draws Ynys Môn.
Grŵp Gwrth-drais a Phlismona Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol (Galop)
Bydd y prosiect hwn yn sefydlu dwy raglen grŵp seicogymdeithasol gyfochrog ar-lein ar gyfer oedolion LHDTC+ ledled Cymru sydd wedi profi naill ai cam-drin domestig neu droseddau casineb a thrais/cam-drin ar sail hunaniaeth. Bydd pob grŵp yn rhedeg am 12 wythnos (2 awr yr wythnos), gan gynnig cymorth ac addysg ar ymwybyddiaeth sy'n seiliedig ar drawma.
Bydd y Grŵp Adfer Cam-drin Domestig (DARG) yn canolbwyntio ar wella o niwed ar sail perthynas, tra bydd Repairing the Rainbow yn cefnogi goroeswyr troseddau casineb ac aflonyddu.
Bydd y ddau yn meithrin gwytnwch, yn hyrwyddo cynhwysiant, ac yn cryfhau dealltwriaeth o hawliau, cydraddoldeb a pherthyn i'r gymuned yng Nghymru. Bydd y grwpiau adfer hyn yn cael eu cyflwyno ar-lein er mwyn cyrraedd ardal ddaearyddol eang.
Gypsies and Travellers Wales Limited
Bydd y cynllun yn ehangu'r model W.E.S.T (Lles, Cyflogaeth, Sgiliau a Hyfforddiant) i Ganolbarth a Gorllewin Cymru, gan ddarparu gweithgareddau ymgysylltu, cymorth dysgu a datblygu cymunedol i deuluoedd Sipsiwn a Theithwyr.
Bydd yn darparu allgymorth wythnosol dan arweiniad Swyddog Ymgysylltu, gyda chefnogaeth gweithwyr sesiynol ar gyfer gweithgareddau plant, cyfranogiad dinesig, sgiliau digidol a sesiynau lles menywod.
Bydd y prosiect yn gwella hyder, mynediad digidol, addysg, ymwybyddiaeth iechyd a chymryd rhan mewn bywyd cymunedol. Bydd hefyd yn cryfhau perthnasoedd rhwng teuluoedd a gwasanaethau lleol i leihau anghydraddoldeb, cynyddu cyfranogiad a darparu cymorth ymarferol sy'n diwallu'r anghenion a nodwyd gan y gymuned.
Menter Iaith Sir Caerffili
Mae hwn yn brosiect cymunedol creadigol cyfrwng Cymraeg ar gyfer cymunedau LHDTCIA+ lleol sy'n cynnig cyfleoedd i bobl LHDTCIA+ gymryd rhan mewn gweithgareddau artistig yn Gymraeg. Nod y prosiect yw meithrin hunaniaeth, hyder a chreadigrwydd mewn gofod diogel, cynhwysol a chefnogol. Uchafbwynt y prosiect fydd digwyddiadau cymunedol fel rhan o Ffiliffest.
Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru
Bydd Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru yn cyflwyno sesiynau 'Deall Awtistiaeth' ar draws 22 awdurdod lleol yng Nghymru drwy eu rhwydwaith o ganghennau gwirfoddol. Mae'r rhaglen hon yn mynd i'r afael â bylchau mewn ymwybyddiaeth o awtistiaeth, gan helpu i leihau gwahaniaethu a gwella mynediad at wasanaethau cyhoeddus i bobl awtistig.
Bydd Uwch Swyddog Cangen ar gyfer Ymgysylltu â Gwirfoddolwyr yn cefnogi canghennau sy'n cyflwyno sesiynau wyneb yn wyneb ac yn cydlynu sesiynau ar-lein i'r rhai sy'n well ganddynt ymuno o bell.
Mae'r sesiynau yn cael eu harwain gan wirfoddolwyr wedi'u hyfforddi, rhai yn awtistig a rhai ddim. Mae cynulleidfaoedd targed yn cynnwys cyflogwyr, staff addysg, gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus, a grwpiau cymunedol.
Trwy adeiladu dealltwriaeth, byddant yn creu cymunedau cynhwysol lle gall pobl awtistig gymryd rhan yn llawn ac wynebu llai o rwystrau rhag cydraddoldeb.
NoFit State
Bydd y prosiect hwn yn adeiladu gofod cymunedol diogel, creadigol, di-alcohol ar gyfer oedolion LHDTC+ ifanc (18 i 30) gyda ffocws penodol ar ymgysylltu â ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Gan weithio mewn partneriaeth â TGP Cymru, bydd NoFit State yn creu lle ar gyfer cysylltu, cyfeillgarwch a mynegiant creadigol i bobl sy'n profi gwahaniaethu trawstoriadol ac yn cael eu hymylu.
Un dau tri, i ffwrdd â ni
Bydd y prosiect hwn yn treialu prosiect cymorth cyffredinol ar gyfer oedolion awtistig rhwng 18 a 25 oed, gan gefnogi'n benodol y rhai sydd ag anghenion gofal a chymorth mwy cymhleth.
Mae hyn yn adeiladu ar y gwasanaethau cymorth presennol a ddarperir ar hyn o bryd ar gyfer pobl dan 18 oed o fewn prosiect Un dau tri, i ffwrdd â ni yn Sir Fynwy.
Ail-ddeffro
Bydd dau sefydliad lleol allweddol ar gyfer pobl ifanc 13 i 25 oed yn dod at ei gilydd i wneud gwaith ymchwil ac ymgynghori â chymunedau lleiafrifol ac i ddatblygu eu harfer i alluogi pobl ifanc o bob grŵp ethnig lleiafrifol ym Mhowys i gael mynediad at gymorth a gwasanaethau.
Renew Mind Centre
Mae Hwyl i Deuluoedd yn Gyntaf! yn brosiect a arweinir gan ieuenctid sy'n cefnogi teuluoedd o gefndiroedd amrywiol mewn caledi ariannol, yn enwedig y rhai o gymunedau Du, Asiaidd, a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) (80% o'r cyfranogwyr), trwy weithgareddau cynhwysol. Mae'n cynnig taith undydd yn haf 2026 i Heatherton a Diwrnodau Celfyddydau Ieuenctid bob chwe mis yn Abertawe, gyda'r nod o hybu lles, creadigrwydd a chysylltiad cymunedol ymhlith pobl ifanc a'u teuluoedd.
Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth
Bydd Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn cyflwyno "Sut i siarad am Wrth-hiliaeth", cyfres o sioeau teithiol rhanbarthol ledled Cymru i fagu hyder oedolion wrth drafod hil/hiliaeth.
Bydd pob digwyddiad yn cynnwys panel cyweirnod wedi'i deilwra i'r ardal leol a gweithdai rhyngweithiol fel "Sut i siarad am fewnfudo" a "Sut i siarad am Gynghreirio ar gyfnodau anodd".
Wedi'i chynllunio mewn partneriaeth â'r sectorau cyhoeddus/cymunedol, mae'r rhaglen yn cefnogi cyflawni Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru (ArWAP) drwy godi ymwybyddiaeth, hyrwyddo deialog agored, a rhoi offer ac adnoddau ymarferol i gyfranogwyr (gan gynnwys pecyn cymorth Sut i Siarad Am.....) i sefydlu arferion gwrth-hiliol yn eu gweithleoedd a'u cymunedau.
Cronfa Elusennol Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Bae Abertawe ac Elusennau Cysylltiedig Eraill
Mae'r prosiect 'Visible Voices: Co-Creating and Amplifying Inclusive Maternity Experiences in Swansea Bay' (enw Saesneg yn unig) yn hyrwyddo cydraddoldeb, cynhwysiant ac ymdeimlad o berthyn mewn gwasanaethau mamolaeth drwy gyd-greu celf sy'n cynrychioli'n ddilys deuluoedd a staff amrywiol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae'r prosiect yn sicrhau bod pob cymuned yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu cynrychioli a'u gwerthfawrogi, gan greu amgylchedd gofal mwy cynhwysol a chroesawgar.
C.I.C y Fenter Effaith Gymunedol
Mae'r Fenter Ddilyniant yn brosiect sydd wedi'i gynllunio i helpu menywod difreintiedig i gael mynediad at gyflogaeth. Bydd y prosiect yn rhoi'r cymorth cofleidiol sydd ei angen ar fenywod i fynd i gyfweliadau a dal ati â chyfleoedd newydd am waith.
UCAN Productions
Mae'r UCAN Collective yn grŵp o bobl ifanc sy'n ddall neu'n gweld yn rhannol a arweinir gan gymheiriaid ac sy'n defnyddio perfformiadau a chyflwyniadau creadigol i herio rhwystrau, hyrwyddo cynhwysiant a chydraddoldeb, a newid syniadau o fewn y gymuned ehangach.
Bydd y prosiect yn ffurfioli ac yn hwyluso strwythur grŵp o aelodau hŷn (dros 18) a fydd yn defnyddio eu profiadau bywyd i greu a dyfeisio perfformiadau a chyflwyniadau i'w rhannu â sefydliadau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector yng Nghymru, yn ogystal ag Ysgolion, Colegau a Phrifysgolion. Bydd y grŵp yn cyflwyno sesiynau hyfforddiant ar ymwybyddiaeth ynghyd â pherfformiadau creadigol a chyflwyniadau ffurfiol.
Cymdeithas Ddiwylliannol Islamaidd Cymru Abertawe (WICAS)
Bydd Cymdeithas Ddiwylliannol Islamaidd Cymru Abertawe (WICAS) yn ehangu ei rhaglen ysgolion llwyddiannus gan Fosg Sgeti yn brofiad dysgu trochiadol diwylliannol.
Bydd ymweliadau yn cael eu gwella gydag arddangosfeydd rhyngweithiol sy'n tynnu sylw at amrywiaeth fyd-eang diwylliannau Mwslimaidd, ochr yn ochr ag arddangosfa symudol ar gyfer ysgolion nad ydynt yn gallu teithio.
Yn ystod cyfnod y grant, bydd y prosiect am ddim a bydd yn defnyddio arteffactau, dillad, bwyd a deialog i adeiladu dealltwriaeth, herio rhagfarn a chryfhau cydlyniant cymunedol.
Bydd y fenter hon yn helpu disgyblion ac athrawon i archwilio gwahaniaeth yn hyderus. Fel y prosiect cyntaf o'i fath yng Nghymru, bydd dysgu yn cael ei rannu'n genedlaethol.
