Rhaglen Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru
Y weledigaeth, yr egwyddorion a'r blaenoriaethau ar gyfer datblygu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol sy'n darparu gofal a chymorth cyson, o ansawdd uchel ledled Cymru.
Ar y dudalen hon
Mae gofal cymdeithasol yn ein cefnogi ni i gyd
Mae gofal cymdeithasol yn rhywbeth sy'n effeithio ar bob un ohonom.
P'un a ydyn ni angen cefnogaeth ein hunain, gofal ar gyfer anwylyd, neu waith mewn gwasanaethau iechyd a gofal, mae gofal cymdeithasol cryf yn helpu pobl i fyw'n dda, aros yn annibynnol a chadw mewn cysylltiad â'u cymunedau.
Mae gofal cymdeithasol yn hanfodol i sicrhau Cymru decach, iachach a mwy tosturiol. Mae'n helpu pobl o bob oed i fyw'n annibynnol, cadw mewn cysylltiad â'u cymunedau a chyflawni'r hyn sydd bwysicaf iddynt.
O gefnogi plant a theuluoedd, pobl anabl a gofalwyr di-dâl, i helpu pobl hŷn i fyw'n dda am gyfnod hirach, mae gofal cymdeithasol yn cyffwrdd â bywydau ym mhob cymuned ledled Cymru.
Bydd angen gofal a chymorth ar y rhan fwyaf ohonom, neu ar rywun rydyn ni'n eu hadnabod, ar ryw adeg yn ein bywydau.
Ond ers rhy hir, nid yw gofal cymdeithasol wedi derbyn y gydnabyddiaeth y mae'n ei haeddu er gwaethaf y rôl hanfodol y mae'n ei chwarae wrth helpu pobl i gadw'n iach, cefnogi lles, hyrwyddo annibyniaeth a helpu pobl i fyw bywydau boddhaol.
Ar draws Cymru, mae gweithlu medrus ac ymroddedig yn darparu cymorth o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar y person bob dydd, gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol i unigolion, teuluoedd a chymunedau.
Ein gweledigaeth
Ein gweledigaeth yw Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol sy'n rhoi pobl yn gyntaf ac yn cryfhau'r broses o ddarparu gofal cymdeithasol ar draws Cymru gan sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at ofal a chymorth integredig, o ansawdd uchel ble bynnag y maent yn byw, helpu pobl i aros yn annibynnol, yn ddiogel ac yn iach a lleihau anghydraddoldebau o ran canlyniadau a phrofiad.
Dywedodd Delyth Jewell AC, Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl, ac Iechyd Menywod:
Mae'r system gofal cymdeithasol wedi cael ei thanbrisio ers rhy hir.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i wella hynny.
Ein huchelgais yw cryfhau gofal cymdeithasol fel gwasanaeth cyhoeddus gwerthfawr ac adeiladu system iechyd a gofal di-dor ac integredig i gefnogi darpariaeth ein System Gofal Cymunedol Integredig sy'n canolbwyntio ar gadw pobl yn iach, atal argyfwng a darparu cymorth yn agosach at y cartref.
Mae'r cynllun hwn yn nodi sut y byddwn yn bwrw ymlaen â'r weledigaeth honno drwy arweinyddiaeth genedlaethol gryfach, atebolrwydd, mwy o gysondeb, buddsoddiad yn ein gweithlu a ffocws o'r newydd ar atal, cefnogaeth gymunedol a'r hyn sy'n bwysig i bobl.
Pam mae'n rhaid inni weithredu nawr
Mae Cymru'n newid.
Mae pobl yn byw'n hirach, mae mwy o bobl yn byw gydag anghenion iechyd a gofal cymhleth, ac mae mwy o deuluoedd yn cydbwyso gwaith, bywyd teuluol a chyfrifoldebau gofalu.
Er mwyn cwrdd â'r heriau hyn, mae angen system gofal a chymorth sy'n gynaliadwy, yn deg ac yn addas ar gyfer y dyfodol.
Mae gofal cymdeithasol cryf yn hanfodol i ddyfodol Cymru.
Mae'n helpu pobl i aros yn annibynnol, yn cryfhau cymunedau ac yn lleihau'r pwysau ar ein GIG.
Mae hefyd yn sector economaidd pwysig, sy'n darparu cyflogaeth mewn cymunedau ar draws Cymru ac yn galluogi mwy o bobl i weithio a chymryd rhan mewn bywyd cymunedol.
Mae'r rhaglen hon yn rhan o'n huchelgais ehangach i greu dull cryfach a mwy integredig ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru ac mae'n nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd yn ystod tymor y Senedd hon i gryfhau gofal cymdeithasol.
Mae'n adeiladu ar ein hymrwymiad i greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol sy'n cael ei siapio gan werthoedd Cymreig, sy'n canolbwyntio ar bobl a chymunedau, ac sydd wedi'i gynllunio i sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt gydag urddas, tegwch a hyder.
Drwy gyflawni newid nawr a buddsoddi mewn diwygio hirdymor, byddwn yn helpu i sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt i fyw'n dda ac yn annibynnol.
Mae gofal cymdeithasol o fudd i bawb
Mae gofal cymdeithasol yn hanfodol nid yn unig i lesiant pobl, ond hefyd i ddyfodol Cymru.
Bob dydd, mae'n creu gwerth i unigolion, cymunedau a'r economi ehangach drwy wneud y canlynol:
Cefnogi swyddi a chymunedau
Mae gofal cymdeithasol yn darparu miloedd o swyddi medrus ledled Cymru, gan helpu cymunedau lleol i ffynnu a chryfhau economïau lleol.
Helpu pobl i aros yn y gwaith
Mae gofal a chymorth da yn galluogi aelodau'r teulu i gydbwyso cyfrifoldebau gofalu â gwaith a bywyd bob dydd.
Mae cefnogi gofalwyr di-dâl yn ganolog i ddyfodol gofal cymdeithasol
Bydd cefnogi gofalwyr i gynnal eu llesiant, eu cyflogaeth a'u bywyd teuluol yn hanfodol i greu system ofal gynaliadwy.
Hyrwyddo annibyniaeth a llesiant
Drwy helpu pobl i fyw'n dda, aros yn egnïol a chadw mewn cysylltiad â'u cymunedau, mae gofal cymdeithasol yn gwella ansawdd bywyd ac yn atal problemau rhag gwaethygu.
Cefnogi ein GIG
Mae gofal cymdeithasol cryf yn helpu i atal argyfyngau, yn lleihau derbyniadau diangen i'r ysbyty ac yn cefnogi pobl i ddychwelyd adref yn ddiogel ac yn gynt.
Buddsoddi mewn gofal cymdeithasol yw buddsoddi yng Nghymru
Mae gofal cymdeithasol yn fuddsoddiad yn ogystal ag yn wasanaeth cyhoeddus.
Pan fyddwn yn buddsoddi mewn gofal cymdeithasol, rydym yn buddsoddi mewn cymunedau iachach, gweithlu cryfach a system gofal cymdeithasol ac iechyd mwy cynaliadwy.
Mae'n un o wasanaethau cyhoeddus pwysicaf Cymru, sy'n darparu manteision cymdeithasol, economaidd a llesiant sy'n cael eu teimlo ar draws y genedl gyfan.
Ein gweledigaeth ar gyfer Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol
Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol pobl yn gyntaf sy'n cryfhau'r broses o ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol ledled Cymru, gan sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at gymorth cydgysylltiedig o ansawdd uchel, ble bynnag y maen nhw'n byw, helpu pobl i aros yn annibynnol, yn ddiogel ac yn iach, a lleihau anghydraddoldebau o ran canlyniadau a phrofiad.
Pobl yn Gyntaf
Gofal sy'n rhoi pobl wrth wraidd pob penderfyniad.
Ansawdd uchel
Gofal cyson, diogel a thosturiol i bawb.
Cydgysylltiedig
Gwasanaethau sy'n gweithio gyda'i gilydd o amgylch anghenion pobl.
Teg a chyfartal
Lleihau anghydraddoldebau fel bod pawb yn cael yr un cyfle i fyw'n dda.
Yn agos at adref
Cyflenwi lleol sy'n adlewyrchu ein cymunedau.
Pa wahaniaeth fydd hyn yn ei wneud?
Ein gweledigaeth yw y bydd pawb yng Nghymru yn gallu cael mynediad at ofal a chymorth o ansawdd uchel sy'n eu helpu i fyw'n annibynnol, cadw mewn cysylltiad â'u cymunedau a chyflawni'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw, waeth ble maen nhw'n byw neu eu hamgylchiadau.
Mae'r Rhaglen Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol yn rhoi ein gweledigaeth ar waith, gan gryfhau gofal cymdeithasol ledled Cymru drwy welliannau ymarferol y bydd pobl yn eu gweld a'u profi yn eu bywydau bob dydd.
Ein hymrwymiad yw darparu gofal a chymorth mwy cyson, o ansawdd uchel, cryfhau'r gweithlu gofal cymdeithasol, a'i gwneud hi'n haws i bobl gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt.
Mae hyn yn golygu y dylai pobl ei chael hi'n haws cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn, cael mwy o hyder yn y gwasanaethau maen nhw'n eu derbyn a phrofi gofal a chymorth cydgysylltiedig ble bynnag y maen nhw'n byw yng Nghymru.
Ni ddylai profiadau pobl o ofal cymdeithasol ddibynnu ar ble maen nhw'n byw.
Bydd y Rhaglen Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol yn helpu i leihau amrywiadau diangen, gwella cysondeb a sicrhau bod arferion da yn cael eu rhannu ledled Cymru.
Gyda'i gilydd, bydd y newidiadau hyn yn helpu i greu system gofal cymdeithasol decach, mwy cynaliadwy sy'n gwella canlyniadau i bobl, teuluoedd a chymunedau.
Er mwyn cefnogi hyn, byddwn yn bwrw ymlaen â nifer o fentrau cenedlaethol ymarferol.
Yn eu plith:
- Academi Gofal Cymdeithasol Genedlaethol i helpu i ddenu, datblygu a chadw gweithlu medrus
- uchelgeisiau cyflog teg i weithwyr gofal cymdeithasol
- rhaglen Diogelu Cryfach ar gyfer Cymru Fwy Diogel
- cryfhau trefniadau gwybodaeth cenedlaethol a threfniadau goruchwylio'r farchnad
- Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Gofalwyr Di-dâl.
Beth mae hyn yn ei olygu
Mae hyn yn ymwneud â chryfhau gofal cymdeithasol ar draws Cymru gan adeiladu ar y cryfderau sydd eisoes yn ein cymunedau.
Bydd y Rhaglen Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol yn cefnogi arweinyddiaeth genedlaethol gryfach, atebolrwydd a mwy o gysondeb ledled Cymru, tra bod gwasanaethau gofal a chymorth yn parhau i gael eu darparu'n lleol ac yn cael eu siapio gan anghenion cymunedau.
Bydd yn golygu:
- mynediad mwy teg a dibynadwy at ofal a chymorth lle bynnag y mae pobl yn byw.
- arweinyddiaeth genedlaethol gryfach a safonau cliriach.
- gwell integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol.
- mwy o gefnogaeth ar gyfer atal, lles ac annibyniaeth.
- gweithlu gofal cymdeithasol cryfach a mwy gwerthfawr.
Beth fydd yn aros yr un fath?
Bydd gwasanaethau yn parhau i gael eu darparu yn lleol, wedi'u siapio gan anghenion cymunedau a'r bobl sy'n eu defnyddio.
Nid diben y Rhaglen Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol yw creu un model sy’n addas i bawb.
Mae'n ymwneud â chefnogi mwy o gysondeb ar draws Cymru wrth adeiladu ar arbenigedd lleol, perthnasoedd a gwybodaeth am gymunedau.
Mae cenedlaethol yn golygu y dylai pobl allu disgwyl gofal a chymorth mwy cyson, safonau uchel a mynediad teg ble bynnag y maent yn byw yng Nghymru, tra bod gwasanaethau yn parhau i gael eu darparu'n lleol a'u siapio gan anghenion lleol.
Bydd newid yn digwydd dros amser, gyda gwasanaethau lleol yn parhau i chwarae rhan ganolog o ran cefnogi pobl a chymunedau.
Beth all hyn ei olygu i chi?
Os ydych chi'n rhiant
Cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn, gyda gwasanaethau yn gweithio'n well gyda'i gilydd i gefnogi plant a theuluoedd.
Os ydych chi'n ofalwr di-dâl
Gwell cydnabyddiaeth, gwell cefnogaeth a mwy o gyfleoedd i gymryd seibiant pan fydd angen.
Bydd Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Gofalwyr Di-dâl yn nodi sut y byddwn ni'n cryfhau'r gefnogaeth ac yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae gofalwyr di-dâl yn ei wneud.
Os ydych chi'n anabl neu'n byw gyda chyflwr hirdymor
Cefnogaeth fwy personol sy'n eich helpu i fyw'n annibynnol a chyflawni'r hyn sy'n bwysig i chi.
Os ydych chi'n berson hŷn
Cefnogaeth i aros yn annibynnol, yn rhan o'ch cymuned a chadw rheolaeth ar eich bywyd am gyfnod hirach.
Os ydych chi'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol
Mwy o gydnabyddiaeth am y gwaith hanfodol rydych chi'n ei wneud, gyda gwell cefnogaeth, llwybrau gyrfa cliriach a mwy o gyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau.
Os ydych chi'n byw yng Nghymru
System gofal cymdeithasol cryfach, tecach, hawdd ei deall y gall pobl ddibynnu arni os oes angen cymorth arnyn nhw, ar aelod o'r teulu neu ar ffrind.
Mae'n helpu pobl i fyw'n dda, yn cefnogi teuluoedd a chymunedau, ac yn gweithio'n fwy agos gyda'r GIG i wella canlyniadau i bawb.
Sylfeini system gofal cymdeithasol gryfach
Mae'r rhaglen hon wedi'i strwythuro o amgylch 6 sylfaen:
1. Arweinyddiaeth ac atebolrwydd cenedlaethol clir
Un system gydag awdurdod clir ar gyfer darparu gofal cymdeithasol cyson, o ansawdd uchel.
2. Cyllid teg a gofal dibynadwy
Modelu yn fanwl i ddeall sut y gallai newidiadau i godi tâl am ofal effeithio ar bobl, awdurdodau lleol a gwasanaethau gofal, gan gynnwys gofal cartref a gofal preswyl.
3. Gweithlu gwerthfawr a chynaliadwy
Gweithlu medrus, sy'n cael eu cefnogi, gyda'r gallu i ddarparu gofal rhagorol.
4. Data, digidol a chanlyniadau
Gwell defnydd o ddata a thechnoleg i wella gofal, tryloywder a gwneud penderfyniadau.
5. Atal, diogelu a chymunedau cryf
Cefnogi pobl yn gynharach, eu cadw'n ddiogel, ac adeiladu cymunedau gwydn.
6. Gofal cymdeithasol a chymorth di-dor
Gofal cymdeithasol cryf i gefnogi integreiddio.
Gyda'i gilydd, mae'r 6 sylfaen hyn yn nodi sut y byddwn yn cryfhau gofal cymdeithasol, yn cefnogi'r gweithlu, yn gwella profiadau pobl ac yn creu system fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Beth yw llwyddiant?
Mae llwyddiant yn golygu, ble bynnag y mae pobl yn byw yng Nghymru, y gallant gael mynediad at ofal a chymorth o ansawdd uchel sy'n eu helpu i fyw'n dda, aros yn annibynnol a chyflawni'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw.
Trwy'r rhaglen hon, rydym am weld:
- Gofal a chymorth mwy cyson ledled Cymru, gan leihau gwahaniaethau ym mhrofiadau pobl a mynediad at wasanaethau.
- Gwell canlyniadau i bobl a chymunedau, gyda chefnogaeth sy'n gwella llesiant, annibyniaeth ac ansawdd bywyd.
- Cefnogaeth gryfach i ofalwyr di-dâl, gan gydnabod y rôl hanfodol y maent yn ei chwarae a'u helpu i gydbwyso gofalu â'u lles eu hunain, eu bywyd teuluol a'u gwaith.
- Ffocws cryfach ar atal, helpu pobl i aros yn iach am gyfnod hirach a lleihau'r angen am ymyrraeth argyfwng.
- Gwell diogelu ac amddiffyn, gan sicrhau bod pobl yn ddiogel, yn cael eu cefnogi ac yn cael eu trin gydag urddas a pharch.
- Gwell integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi'r gwaith o ddarparu ein System Gofal Cymunedol Integredig gan wneud gwasanaethau yn haws i'w cyrchu ac yn fwy cydgysylltiedig o amgylch anghenion pobl.
- Gweithlu gofal cymdeithasol gwerthfawr a medrus, gyda mwy o gydnabyddiaeth, cyfleoedd datblygu a chefnogaeth.
- Mynediad tecach a mwy cyfiawn at ofal a chymorth, fel y gall pobl gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt, pryd bynnag a lle bynnag y byddant ei angen.
- Cymunedau cryfach, lle mae pobl yn cael eu cefnogi i aros yn mewn cysylltiad â’i gilydd, yn egnïol ac yn annibynnol am cyn hired â phosibl.
- System gofal cymdeithasol cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, gydag arweinyddiaeth genedlaethol gryf, darpariaeth leol effeithiol a gwasanaethau a all ddiwallu anghenion newidiol dros y blynyddoedd i ddod.
Yn ogystal, byddwn yn adeiladu system gofal cymdeithasol sy'n adlewyrchu gwerthoedd y Gymru fodern.
Gwasanaethau Cymraeg:
Byddwn yn cefnogi pobl i dderbyn gofal a chymorth yn Gymraeg pan fydd ei angen arnynt, gan helpu i sicrhau bod iaith yn rhan annatod o ofal o safon.
Cymru Wrth-hiliol:
Byddwn yn gweithio i wneud gofal a chymorth yn deg, yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a sicrhau bod lleisiau a phrofiadau pobl yn helpu i lunio gwasanaethau.
Cadw pobl yn ddiogel:
Bydd diogelu yn parhau i fod wrth wraidd gofal a chymorth, gan helpu i sicrhau bod pobl yn cael eu hamddiffyn rhag niwed, yn cael eu trin ag urddas ac yn cael eu cefnogi.
Gofal cymdeithasol cryf yn cefnogi gofal a chymorth di-dor
Nid yw pobl yn byw eu bywydau drwy sefydliadau a gwasanaethau ar wahân.
Fel rhan o'n huchelgais i ddarparu System Gofal Cymunedol Integredig i bobl Cymru, bydd cryfhau gofal cymdeithasol a chefnogi gweithio'n agosach gyda gwasanaethau iechyd yn gwneud mynediad at gymorth yn symlach, yn fwy cydgysylltiedig ac yn sicrhau ei fod yn canolbwyntio'n fwy ar yr hyn sy'n bwysig i bobl.
Dylai gwasanaethau weithio gyda'i gilydd o amgylch anghenion pobl, gan leihau trosglwyddiadau diangen a'i gwneud hi'n haws i bobl gael mynediad i'r cymorth cywir.
Bydd hyn yn helpu i wella canlyniadau a helpu pobl i fyw'n dda ac yn annibynnol, gydag urddas.
Llunio gofal a chymorth gyda'n gilydd
Dylai dyfodol gofal cymdeithasol yng Nghymru gael ei lunio gyda phobl, nid ar gyfer pobl yn unig.
Rydym eisiau clywed gan bobl sy'n defnyddio gofal a chymorth, gofalwyr di-dâl, teuluoedd, gweithwyr gofal, darparwyr a chymunedau ledled Cymru.
Bydd eich profiadau, eich syniadau a'ch arbenigedd yn helpu i lunio dyfodol gofal cymdeithasol a chymorth, gan sicrhau bod gwelliannau wedi'u seilio ar yr hyn sydd bwysicaf i bobl a chymunedau.
Mae'r rhaglen hon yn nodi dechrau sgwrs barhaus am ddyfodol gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Lle bo hynny'n briodol, byddwn yn ymgynghori ac yn ymgysylltu ar ddatblygiadau polisi yn y dyfodol.
Wrth i'r rhaglen ddatblygu, byddwn yn parhau i weithio gyda phobl sy'n defnyddio gofal a chymorth, gofalwyr di-dâl, pobl sydd â phrofiad byw, y gweithlu a phartneriaid i lunio cynigion yn y dyfodol.
Dywedodd Delyth Jewell AC, Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod:
Mae'r meysydd hyn yn haeddu mwy o sylw ac amlygrwydd. Maen nhw'n haeddu llais yng nghalon y llywodraeth
Arwain y newid
Y Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth sy'n arwain y gwaith o gyflawni'r rhaglen hon, gan weithio gyda phobl, teuluoedd, cymunedau a phartneriaid ledled Cymru i helpu i lunio dyfodol gofal cymdeithasol.
Drwy ddarparu arweinyddiaeth genedlaethol, cefnogi gwelliant a hyrwyddo mwy o gysondeb ar draws Cymru, bydd y Swyddfa Genedlaethol yn helpu i sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at ofal a chymorth o ansawdd uchel ble bynnag y maent yn byw.
Bydd lleisiau, profiadau a syniadau pobl sy'n defnyddio gofal a chymorth, gofalwyr di-dâl a'r gweithlu gofal cymdeithasol yn ganolog i'r gwaith hwn.
Drwy wrando ar yr hyn sy'n bwysig i bobl a gweithio gyda'i gilydd i gyflawni newid, bydd y Swyddfa Genedlaethol yn helpu i gryfhau arweinyddiaeth genedlaethol, gwella cysondeb a chefnogi gofal a chymorth o ansawdd uchel ledled Cymru.
Mae ei ffocws yn syml: sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad i'r cymorth iawn, ar yr adeg iawn, yn y lle iawn, tra'n helpu pawb i fyw'n dda, yn annibynnol a gydag urddas.
Edrych i'r dyfodol
Bydd y daith tuag at Wasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru yn cymryd amser, ond drwy weithio gyda'n gilydd gallwn greu system decach, gryfach a mwy cynaliadwy o ofal a chymorth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae'r Rhaglen Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol hon yn nodi'r camau cyntaf ar ein taith.
Atodiad
Gweithgarwch y byddwn yn ymgymryd ag ef
1. Arweinyddiaeth ac atebolrwydd cenedlaethol clir
Un system gydag awdurdod clir ar gyfer darparu gofal cymdeithasol cyson, o ansawdd uchel.
Sut y byddwn yn gwella gofal cymdeithasol
- arweinyddiaeth genedlaethol gryfach a llais cryfach dros ofal cymdeithasol
- mynediad tecach, mwy cyson a haws at ofal a chymorth
- gofal a chymorth sydd ar gael pan fydd pobl eu hangen
- system gofal a chymorth gynaliadwy argyfer y dyfodol
- mwy o ofal a chymorth cydgysylltiedig ledled Cymru
Gweithgarwch
Creu arweinyddiaeth genedlaethol gryf
Arwain sgyrsiau cenedlaethol ar ddyfodol gofal cymdeithasol.
Dod ag arweinwyr a phartneriaid gofal cymdeithasol at ei gilydd i lunio gwelliannau.
Gweithio'n agos gyda phartneriaid ar draws y sector i sicrhau bod diwygio gofal cymdeithasol yn cael ei ddatblygu a'i gyflawni ar y cyd.
Sicrhau cyngor a her annibynnol drwy Grŵp Cynghori Strategol y Swyddfa Genedlaethol.
Sefydlu Hyrwyddwr Gofal Cymdeithasol yn Llais i helpu i gryfhau lleisiau pobl sy'n defnyddio gofal a chymorth.
Gweithio gyda phartneriaid i gynnal sgyrsiau gyda dinasyddion, gofalwyr a chymunedau fel bod newidiadau yn y dyfodol yn cael eu llunio gan brofiadau pobl.
Gweithio mewn partneriaeth i wella canfyddiadau a dealltwriaeth o ofal cymdeithasol.
Cyflawni'r rhaglen Diogelu Cryfach ar gyfer Cymru Fwy Diogel i wella'r ffordd y caiff plant ac oedolion sydd mewn perygl eu diogelu.
Safonau cenedlaethol cyson
Datblygu dulliau cenedlaethol cyson ar gyfer comisiynu a data.
Canlyniadau disgwyliedig
- gwell dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd o ofal cymdeithasol a'i weithlu
- gwasanaethau gofal cymdeithasol mwy cyson ledled Cymru
- atebolrwydd cliriach a chyflawniad cryfach
- datrysiadau cenedlaethol wedi'u cyd-gynhyrchu gyda dinasyddion a phartneriaid
2. Cyllid teg a gofal dibynadwy
Modelu yn fanwl i ddeall sut y gallai newidiadau i godi tâl am ofal effeithio ar bobl, awdurdodau lleol a gwasanaethau gofal, gan gynnwys gofal cartref a gofal preswyl.
Sut y byddwn yn gwella gofal cymdeithasol
- datblygu system ariannu gynaliadwy sy'n cefnogi pobl nawr ac yn y dyfodol
- trefniadau codi tâl teg a chynaliadwy ar draws Cymru, gan helpu i sicrhau bod pobl yn talu'r hyn sy'n rhesymol ac yn fforddiadwy am eu gofal a'u cymorth
- gofal a chymorth o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, ac yn cael ei ddarparu yn gyson ledled Cymru, waeth ble rydych chi'n byw
- gwasanaethau rhanbarthol cryfach i bobl sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth
- symud tuag at wella'r fforddiadwyedd a mynediad at ofal a chymorth
Gweithgarwch
Ariannu gofal cymdeithasol
Dadansoddi cyllid gofal cymdeithasol, gwariant, pwysau ariannol a bylchau cyllido yn y dyfodol.
Gweithio tuag at drefniadau codi tâl tecach am ofal
Adolygu Codau Ymarfer Rhannau 4 a 5 a'r Rheoliadau Codi Tâl ac Asesu Ariannol yn rheolaidd.
Datblygu opsiynau ar gyfer dyfodol codi tâl gofal cymdeithasol o fewn Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol.
Asesu sut y gallai newidiadau yn y dyfodol effeithio ar bobl, awdurdodau lleol a gwasanaethau gofal.
Y Fframwaith Comisiynu Cenedlaethol (Cod Ymarfer)
Adolygu'r egwyddorion a'r safonau cenedlaethol cyfredol sy'n llywio ymarferion comisiynu, ymgynghori ar newidiadau a rhoi deddfwriaeth newydd ar waith.
Adolygu sut mae cyfraddau ffioedd lleol ar gyfer cartrefi gofal yn cael eu cyfrifo a sicrhau bod y broses yn glir a bod cyfraddau'n deg er mwyn sicrhau bod cysondeb ledled Cymru ac ystyried dull cenedlaethol ymhellach.
Cynllunio a threfnu gofal cymhleth ar lefel ranbarthol
Datblygu opsiynau a chymorth i gryfhau'r trefniadau presennol i roi mwy o drefniadau ar y cyd ar waith ar gyfer cynllunio a threfnu gwasanaethau i gynyddu cydweithio a safoni dulliau.
Cryfhau trefniadau ar y cyd ar gyfer cynllunio a threfnu gwasanaethau gofal cymhleth ar draws iechyd a gofal cymdeithasol ar lefel ranbarthol.
Canlyniadau disgwyliedig
- sylfaen dystiolaeth gryfach ar gyfer penderfyniadau cyllido a gwariant
- ffioedd a chyllid gofal cymdeithasol tecach a mwy cynaliadwy
- mwy o gysondeb a thryloywder wrth gomisiynu a gosod ffioedd
- cyngor clir, sy'n seiliedig ar dystiolaeth i Weinidogion ar opsiynau codi tâl yn y dyfodol
- gwell dealltwriaeth o effaith newid ar bobl a gwasanaethau
3. Gweithlu gwerthfawr a chynaliadwy
Gweithlu medrus, sy'n cael eu cefnogi, gyda'r gallu i ddarparu gofal rhagorol.
Cyflawnwyr newid allweddol
- darparu cynnig gweithlu cenedlaethol, gan gynnwys cyflog teg, datblygiad gyrfa axstatws proffesiynol
- gwella recriwtio a chadw drwy ymgyrchoedd cenedlaethol, llwybrau gyrfa a llwybrau hyfforddi
- cryfhau cynllunio'r gweithlu gan ddefnyddio data cenedlaethol a rhanbarthol sy'n cyd-fynd â'r cyflenwad a'r galw
Gweithgarwch
Cynnig Gweithlu Cenedlaethol (tâl, dilyniant, statws)
Cadw'r Cyflog Byw Gwirioneddol fel yr isafswm cyfradd a delir i'r gweithlu gofal cymdeithasol.
Hyrwyddo cyflog teg, cynaliadwy a chyson drwy'r Ddeddf Hawliau Cyflogaeth a Chytundebau Cyflog Teg.
Gwell Trefniadau Cynllunio Gweithlu
Adolygu a chyhoeddi Cynllun Cyflawni'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol 2027-30 i sicrhau y bydd y blaenoriaethau a'r camau gweithredu yn mynd i'r afael â heriau cyfredol y gweithlu.
Gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ac awdurdodau lleol i gryfhau trefniadau.
Trefniadau Cryfach ar gyfer Recriwtio a Chadw Staff
Datblygu Academi Gofal Cymdeithasol Genedlaethol i Gymru i gefnogi pobl i ddechrau, datblygu a symud ymlaen yn eu gyrfaoedd yn y sector gofal cymdeithasol.
Gwella dealltwriaeth y cyhoedd o ofal cymdeithasol a hyrwyddo gwerth ei gweithlu.
Canlyniadau disgwyliedig
- cyflog tecach a mwy cyson ar draws y gweithlu gofal cymdeithasol
- recriwtio gwell a chadw mwy o staff
- cynllunio gweithlu lleol a chenedlaethol cryfach
- llwybrau dysgu a gyrfa cliriach
- gwell dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd o ofal cymdeithasol a'i weithlu
- gweithlu mwy medrus, gwerthfawr a chynaliadwy
4. Data, digidol a chanlyniadau
Gwell defnydd o ddata a thechnoleg i wella gofal, tryloywder a gwneud penderfyniadau.
Cyflawnwyr newid allweddol
- Sefydlu Hwb Gwybodaeth Canolog ar gyfer gofal cymdeithasol o fewn y Swyddfa Genedlaethol i gryfhau mewnwelediad, cefnogi cynllunio a gwella ein dealltwriaeth o'r galw am wasanaethau nawr ac yn y dyfodol.
- Ymgorffori Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol sy'n canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i bobl sy'n derbyn gofal a chymorth.
- Gwella tryloywder ac atebolrwydd drwy adrodd yn genedlaethol yn rheolaidd ar berfformiad a chanlyniadau.
- Nodi'r pwysau posibl sy'n wynebu gwasanaethau gofal yn gynharach a chymryd camau i helpu i gynnal gwasanaethau sefydlog ledled Cymru a gwella sut mae gwybodaeth am wasanaethau gofal cymdeithasol yn cael ei dwyn ynghyd a'i defnyddio i gefnogi cynllunio, goruchwylio a gwneud penderfyniadau.
Gweithgarwch
System ddata genedlaethol (gan gynnwys data ar lefel person)
Parhau i fireinio a datblygu casglu data ac adrodd am ddata am ofal cymdeithasol yn ddibynadwy a chyson i ddeall a darparu darlun cenedlaethol, rhanbarthol a lleol o ofal cymdeithasol.
Gwella canllawiau a disgwyliadau data gofal cymdeithasol i sicrhau bod data amserol, o ansawdd da yn cael eu coladu a’u hadrodd.
Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol
Cynnal a gwella'r Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol, gan sicrhau bod mesurau'n parhau i fod yn berthnasol ac yn ystyrlon.
Datblygu dull cenedlaethol o fesur ac adrodd ar ganlyniadau 'yr hyn sy'n bwysig'.
Gallu gwybodaeth canolog
Sefydlu Hwb Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol o fewn y Swyddfa Genedlaethol.
Cyflwyno goruchwyliaeth genedlaethol ar y farchnad a chyhoeddi Adroddiad Marchnad Genedlaethol blynyddol.
Cyhoeddi adroddiadau gofal cymdeithasol blynyddol, gan gynnwys Adroddiad Cyflwr y Genedl.
Sefydlu cyfleoedd dysgu o fewn y sector sy'n cyd-fynd â chanfyddiadau adroddiadau data ac ymchwil, i rannu arferion gorau.
Datblygu setiau data diogelu aml-asiantaeth a dangosfwrdd cenedlaethol.
Gwell tryloywder a mewnwelediadau amser real
Adolygu'r canllawiau cyfredol ar asesu, cymhwysedd a chofnodi canlyniadau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
Datblygu goruchwyliaeth genedlaethol o lwybrau gofal a throsglwyddo gofal
Datblygu adroddiadau a mewnwelediadau cenedlaethol ehangach rhwng llwybrau gofal a gwasanaethau data gofal cymdeithasol i gefnogi cynllunio, nodi cyfleoedd ar gyfer gwella a hyrwyddo gofal a chymorth mwy cyson, ac amserol ledled Cymru.
Canlyniadau disgwyliedig
- gwell dealltwriaeth o brofiadau pobl a chanlyniadau ‘yr hyn sy'n bwysig’
- mewnwelediad cryfach i lywio polisi, cynllunio a datblygu'r sector
- nodi risgiau'r farchnad a risgiau diogelu yn gynharach
- data gofal cymdeithasol mwy cyson, dibynadwy ac amserol
- goruchwylio a gwneud penderfyniadau gwell, sy'n seiliedig ar dystiolaeth
5. Atal, diogelu a chymunedau cryf
Cefnogi pobl yn gynharach, eu cadw'n ddiogel, ac adeiladu cymunedau gwydn.
Cyflawnwyr Newid Allweddol
- symud buddsoddiad tuag at atal ac ymyrraeth gynnar i leihau cynyddu'r angen
- cryfhau llywodraethu a systemau diogelu i wella diogelwch a chysondeb ar draws Cymru
- gwella cydnabyddiaeth a chefnogaeth i ofalwyr di-dâl fel partneriaid allweddol mewn gofal
- ehangu gallu cymunedol i gefnogi pobl i fyw'n annibynnol
Gweithgarwch
Ffocws cryfach ar atal ac ymyrryd yn gynnar
Asesu gofynion cyllido presennol ac yn y dyfodol ar gyfer gwasanaethau ataliol cynaliadwy.
Datblygu gweledigaeth a pholisi cenedlaethol ar gyfer atal ac ymyrraeth gynnar ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Gwell diogelu, llywodraethu a chyflawni
Cyflawni'r Rhaglen Diogelu Cryfach ar gyfer Cymru Fwy Diogel.
Cyflawni Strategaeth 10 mlynedd ar Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol.
Gwell cymorth i ofalwyr di-dâl
Cyhoeddi a monitro cyflawni'r Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Gofalwyr Di-dâl a'i meysydd blaenoriaeth ar gyfer gwella.
Cydnabod ac adnabod gofalwyr yn well drwy godi ymwybyddiaeth yn gyhoeddus ac yn broffesiynol.
Ysgogi gwelliant mewn gwybodaeth gynnar i ofalwyr a darparu asesiad o anghenion gofalwyr mewn partneriaeth â Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.
Cychwyn a rheoli rhaglenni cenedlaethol er budd uniongyrchol gofalwyr di-dâl.
Mwy o fuddsoddiad mewn capasiti cymunedol
Gweithio gyda Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i gryfhau cynllunio ar y cyd a arweinir gan dystiolaeth, wedi'i lywio gan Asesiadau o Anghenion y Boblogaeth ac Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad.
Canlyniadau disgwyliedig
- cefnogaeth gynharach a llai o gynnydd mewn angen
- gwell llesiant, annibyniaeth a chanlyniadau ar gyfer gofalwyr
- canlyniadau atal, diogelu ac amddiffyn cryfach
- gwasanaethau ataliol mwy cynaliadwy, a arweinir gan dystiolaeth
6. Gofal cymdeithasol a chymorth di-dor
Gofal cymdeithasol cryf i gefnogi integreiddio.
Cyflawnwyr Newid Allweddol
- Cyflwyno rhaglenni trawsnewid o fewn gofal cymdeithasol sy'n creu gofal a chymorth mwy di-dor, gyda gofal cymdeithasol yn gweithio fel partner cryf ochr yn ochr â gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill.
- Hyrwyddo modelau mentrau cymdeithasol a nid-er-elw i amrywio darpariaeth a chynyddu gofal cymunedol.
Gweithgarwch
Darparu gwasanaethau
Cyflwyno'r Rhaglen Trawsnewid Plant Ynghyd 2030.
Parhau i gryfhau llwybrau gofal ledled Cymru drwy sicrhau gwell data goruchwylio cenedlaethol, adrodd ac atebolrwydd i gefnogi gofal mwy di-dor a lleihau oedi diangen a gwella pontio rhwng gwasanaethau.
Gweithio gyda phartneriaid i wella cydgysylltu, rhannu dysg a hyrwyddo dulliau cyson sy'n helpu pobl i dderbyn cymorth amserol, cynnal eu hannibyniaeth a chyflawni canlyniadau gwell.
Hyrwyddo modelau mentrau cymdeithasol a nid-er-elw
Gweithio gyda phartneriaid i gyflwyno prosiect cenedlaethol i hyrwyddo modelau amgen o ddarparu gofal cymdeithasol.
Ymgymryd ag ymarfer i ddeall lefel y mentrau cymdeithasol a modelau nid-er-elw o wasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru a nodi opsiynau i gynyddu'r ddarpariaeth.
Cyflawni'r opsiynau a nodwyd i gynyddu mentrau cymdeithasol a modelau gwasanaeth nid-er-elw.
Mwy o ddefnydd o fodelau rhanbarthol a swyddogaethau a rennir
Adolygu opsiynau i symleiddio darpariaeth gofal cymdeithasol, gan gynnwys comisiynu, asesiadau ariannol, apeliadau a chodi tâl.
Defnyddio data a thystiolaeth i sicrhau bod adnoddau yn adlewyrchu'r anghenion cyfredol a'r galw disgwyliedig yn y dyfodol.
Integreiddio
Gweithio gyda'r sector i gryfhau sut mae galluogwyr gofal cymdeithasol allweddol yn rhyngweithio â'r System Gofal Cymunedol Integredig ac yn cefnogi ei darpariaeth.
Canlyniadau disgwyliedig
- mwy o fentrau cymdeithasol o fewn gofal cymdeithasol
- modelau mwy amrywiol a chynaliadwy o ddarparu gofal cymdeithasol
- trefniadau cyflenwi symlach a mwy cyson
- adnoddau yn cyd-fynd yn well ag anghenion presennol ac anghenion yn y dyfodol
- aliniad cryfach rhwng galluogwyr gofal cymdeithasol a'r System Gofal Cymunedol Integredig
